Wedi'r llwyddiant o ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth hanner awr o adloniant, cynhaliwyd cyngerdd yn Theatr Felin-fach gyda Chlybiau Pontsian a Thregaron.
Arweinydd y noson oedd Arwel, Cwmcoedog a'r Llywydd oedd Mr. Evans (Noddfa, Dderwen Gam gynt).
Yn ystod penwythnos y cystadleuthau Cymraeg yn y daeth llwyddiant i Gwenan Davies wrth iddi fod od o'r tîm buddugol dan l6eg. Hefyd, hi oedd â'r marciau uchaf fel diolchydd. 'Roedd Catrin Jones yn aelod cwis llwyddiannus y Sir.
Ar nos Wener, 28ain o Fawrth cynhaliwyd cinio blynyddol y clwb yng Ngwesty'r Plu, Aberaeron. Cafwyd gwledd ardderchog a llawer o hwyl yng nghwmni ein gŵr gwâdd
Derek Davies o Landdeiniol. 'Roedd ganddo i a jôcs di-ri a gadwodd sylw pawb.
Cyflwynwyd y gŵr gwâdd gan Sonia a hithau gyflwynodd adroddiad o weithgareddau'r clwb. Cafwyd araith bwrpasol gan lywyddion y clwb, sef Mr. a Mrs. Euryd Jones, Ffos-y-Ffin.¬
Yn ystod y nos cyflwynwyd cwpan i aelod Iau y flwyddyn, sef Gareth Davies Cwmcoedog ac i'r aelod hÅ·n, sef Arwel Jones, Fronwen. Talwyd y diolchiadau gan Mair Davies.
Y diwrnod canlynol oedd Diwrnod Maes y Sir. Daeth y tîm barnu stoc yn 3ydd, aelodau'r tîm oedd Catrin, Carwyn, 1 ac Emyr; Gyrru Quad - 2i1, - Gareth a Gethin. wyddo Clwb - 1 af - Emyr, Arwel, Lia a Ffion Medi. Bu Angharad Evans ac Elen Skyrme yn cymeryd rhan yn y gystadleuaeth natur a Neris a Gwenan yn y gystadleuaeth diogelwch. Daeth y Clwb yn bedwerydd ar ddiwedd y dydd.
Bu rhai o'r aelodau yn cymeryd rhan yn y Gala Nofio a gwnaeth Morgan Parc yn dda.
'Rydym wedi cael amryw o nosweithiau amrywiol yn y clwb megis gwneus rhaffau; gofalu am y car a dringo coed gyda Gwasanaethau Coed Llambed.
Y Rali yw'r digwyddiad nesaf a byddwn yn brydur yn paratoi ar ei chyfer.
|