Ar ôl treulio pump diwrnod yn Wellington dyma ni'n hedfan i ynys y de. Gan bod ni yno yn ystod yr Hydref i'r Gaeaf roedd wedi bwrw 13 centimedr o eira y noson cynt. Rhaid dweud fod hyn wedi rhoi gwledd inni wrth hedfan o Christchurch i Queenstown. Roedd y golygfeydd yn wych dros Alpau'r De oedd dan eira a'r llynnoedd. Disgyn ym maes awyr Queenstown a chopaon y mynyddoedd o amgylch dan eira, awyr las las a'r haul yn disgleirio. Maes awyr bath yw o ran maint ac yr oedd yn rhoi'r teimlad y gallech gyffwrdd â'r mynyddoedd ac yna sylweddoli pam oeddem yn teithio mewn awyren mor fach. Disgyn yma oedd y profiad gorau, profiad a golygfa bythgofiadwy.
Teithio drwy'r dre ac yna allan yr ochr draw i fyny i'r gwesty oedd yn sefyll ar ochr mynydd y Coronet Peak. Golygfa wÅ·ch arall a lliwiau'r Hydref o'n cwmpas. Yr Ewropeaid a ddaeth mewn a'r coed collddail.
Ar ôl setlo mewn, defnyddio gwasanaeth y gwesty i fynd mewn i'r dref. Tref brysur yw Queenstown yn llawn ymwelwyr. Tref sy'n cynnig pob math o weithgareddau awyr agored, gleidio, beicio, cychod jet, marchogaeth, canŵio, naid bynji a llawer mwy. Yma hefyd cewch siawns i ymgymerid at yr "Awesome Foursome" fel y galwyd e, sef gwibio mewnhelicopter drwy'r ceunentydd, cychod jet, rafftio peryglus a naid byngi uchelaf sydd yn hemisffer y de. Profiad gwych yn ôl Dyfed a Bleddyn!
Mae digon i wneud yma trwy gydol y flwyddyn. Mae pob tymor yn dechrau gyda gwyliau a dathliadau. Erbyn heddiw mae'r tymor sgïo wedi dechrau ar y Remarkables a'r Coronet Peak. Ar y Coronet Peak gellwch sgïo'n y nos trwy ddilyn llwybrau sydd wedi eu goleuo. Oddi ar y saith degau mae'r gweithgareddau yma wedi datblygu ac mae pobl yn heidio yma o bedwar ban byd. Bu Alan yn paragleidio o gopa'r mynydd Bob a disgyn ynghanol y dre. Profiad a wnaeth fwynhau'n fawr. I gyrraedd y copa yma rhaid oedd teithio mewn gondola.
Sail y dre ar lan Llyn Wakatipu sy'n golygu "Space where the Demon lie". Llyn yn ystod y rhewlifau yw ond mae yna chwedl bod y llyn wedi dod i fodolaeth trwy wasgnod demon cysglyd. Cafodd y demon ei losgi pan iddo gipio un o ferched prydferthaf y Maori. Y gred yw bod calon y demon ddim wedi marw ac mae'n dal i guro.
Gall lefel y dŵr godi a disgyn cymaint a saith centimedr bob pum munud. Hwn ydi'r ail lyn mwyaf yn ynys y de. Yn rhedeg gydag ochr y llyn mae mynyddoedd y "Remarkables", golygfa oedd yn newid o flaen eich llygaid. Un funud roeddem yn gweld y mynyddoedd dan eira'n erbyn yr awyr las a'r funud nesa roedd y cymylau'n pasio heibio o dan y copaon. Golygfeydd pur iawn, awyr las, eira gwyn a llyn glasach. Golygfeydd yn union fel chi'n gweld ar gerdyn post. Yr hyn oedd yn eich taro oedd y glendid a chadwraeth yr amgylchedd, dim llygredd. Dwy'n siŵr bod yr ardal yma gyda'r prydferthaf yn y byd.
Os nad oeddech am fentro y gweithgareddau awyr agored roedd yna ddigon o siopau fel Louis Vuilton i'ch diddori. Y ffordd orau i weld y dre oedd ar droed. Pleserus oedd cerdded y rhodfa oedd yn llawn siopau, llefydd bwyta a siopau swfeniriau. Yma hefyd cawsom flasu cig oen y wlad ar ei orau. Roeddynt yn defnyddio crwyn yr wyn i wneud dillad a bagiau. Roeddynt yn feddal ac ysgafn iawn.
Mae'r rhodfa yma'n arwain lawr i'r pen pier. Mae llawer o'r bythynnod trefedigaethol yn dal yma gan gynnwys Eichardt's Tavern sy'n dyddio nôl i 1871 a chartref yr Ewropead cyntaf i gyrraedd y dref, sef, William Gilbert Rees.
Mae Queenstown yn borth i Barc Cenedlaethol y Ffiordydd. Mi wnaeth Dyfed ymuno â ni yma ar Ddydd Gwener y Groglith ac yna gyrru i Te Anau lle buom yn aros dros nos. Bore trannoeth roedd yna fws yn ein codi am 8 o'r gloch y bore a dechrau ar y daith i Milford Sound. Llyn Te Anau yw'r olygfa gyntaf o wlad y ffibrdydd. Mae 75 milltir o fan hyn i Milford Sound. Taith droellog trwy amrywiaeth o olygfeydd prydferth, fforestydd glaw, mynyddoedd garw, afonydd byrlymus a theithiau cerdded pictiwresg. Mae gwlad y ffiordydd yn un o'r llefydd gwlypaf yn y byd.
Morwen Thomas
Gellir darllen gweddill y stori yn rhifyn Mis Gorffennaf Llais Aeron.