Y siaradwyr oedd y Dr. Brinley Roberts, Emyr Llewelyn a Delyth ei hun.
Cyhoeddwyd Caneuon Ffydd yn 2001 a hwn oedd y casgliad cyd enwadol cyntaf o emynau a thonau a gyhoeddwyd yng Nghymru. Cafodd ei gefnogi gan bump enwad ar y cyd - Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys yng Nghymru' Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Dywedodd Dr. Brinley Roberts fod y tîm golygyddol wedi sylweddoli taw buddiol fyddai cael cyfrol arall i ddisgrifio cynnwys y casgliad newydd hwn yn fanwl a buont yn ffodus iawn i gael ymchwilydd mor alluog a chymwysterau mor addas a Delyth Morgans.
Soniodd Emyr Llewelyn, yn ei ffordd ffraeth arbennig ef ei hun, am ddoniau Delyth fel disgybl iddo yn Ysgol Uwchradd Aberaeron. Yna rhoddodd Delyth fraslun o gynnwys y gyfrol a diolchodd am y gefnogaeth a gafodd gan amryw o bobl ond yn arbennig gan ei theulu hi ei hun. Mae pedair adran i'r llyfr hwn.
"Emyn a Thôn yng Nghymru" yw'r adran gyntaf. Ceir yma grynodeb gwerthfawr iawn o hanes emynau a thonau ar hyd y canrifoedd. Sonnir am darddiad emynau yn y Beibl ei hun - fel yn Salmau yr Hen Destament ac yn hanes yr Eglwys Fore yn y Testament Newydd. Ceir yma ddisgrifiad manwl o ddatblygiad yr emyn yn y Gymraeg, wedi ei gyplysu gyda dylanwadau y diwygiadau crefyddol ar hyd y canrifoedd, ac sy'n gysylltiedig â phob enwad, i ysbrydoli'r emynwyr ac i roi mynegiant i brofiadau'r addolwyr. Pwysleisir cyfraniad aruthrol Williams Pantycelyn a'r Diwygiad y bu ef yn rhan ohono yn y Ddeunawfed Ganrif.
Rhoddir yr un sylw i ddatblygiad yr emyn donau o'r Canol Oesoedd hyd at y bwrlwm a ddaeth gyda thwf canu cynulleidfaol yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Creodd pobl fel Ieuan Gwyllt yr arfer o gynnai Cymanfa Ganu. Rhoddodd y Parchg. John Curwen inni y Tonic Sol-ffa, a alluogodd aelodau o'n corau i ddarllen cerddoriaeth. Cafwyd to ar ôl to o gyfansoddwyr talentog i roi inni gyfoeth o donau pedwar llais mewn harmonïau prydferth. Mae'n gorffen gyda'r tonau 'cyfoes' gan gyfansoddwyr modern.
Yn yr ail adran ceir cyfansoddwr pob emyn yn ei dro a chrynodeb o gefndir pob emyn. Mae'r drydedd ran yn enwi cyfansoddwyr y tonau a chefndir pob tôn. Yn adran y 'Bywgraffiadau' ceir crynodeb o hanes pob cyfansoddwr, yr emynau a'r emyn donau, yn ôl trefn y wyddor. Yn olaf ceir 'Llyfryddiaeth' sy'n nodi'r prif ffynonellau. Mae'r gyfrol hon yn waith gorchestol, sydd wedi gofyn am waith ymchwil manwl a chywir, ystod eang o wybodaeth a dawn i grynhoi'r cyfan mewn ychydig eiriau.
Mae Delyth yn ferch i Mr. a Mrs. Morgans, Blaenfallen, Talsarn. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Trefilan, Ysgol Uwchradd Aberaeron a Choleg Prifysgol Bangor. Graddiodd gydag Anrhydedd Cyfun yn y Gymraeg a Cherddoriaeth a chafodd radd M.A. am waith ymchwil ar y cerddor, D. Emlyn Evans o Drewen, Castellnewydd Emlyn. Wedi tair blynedd o waith ar gyfer y gyfrol hon, bu'n gweithio am gyfnod byr yn y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth ond ers mis Mai diwethaf bu'n Swyddog Cyfathrebu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Mae Delyth yn berson ifanc anghyffredin iawn, yn alluog, hynod o brysur ac eang ei diddordebau. Mae'n aelod ffyddlon a gweithgar iawn o gapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth ac yn un o'r organyddion yno. Mae hi'n pregethu yn achlysurol ar y Sul ac wedi arwain Cymanfaoedd Canu mewn llawer ardal yng Nghymru. Mae hi hefyd yn barod iawn i dorchi llewys i roi cymorth ar y fferm gartref pan fydd angen. Byddaf yn synnu fod y ferch ifanc yma, sy'n edrych fel croten, wedi cyflawni gymaint yn barod. Pob llwyddiant a bendith i chi Delyth.
W.D. Ll.
Lluniau o noson gyhoeddi 'Cydymaith Caneuon Ffydd' yng nghanolfan y Morlan, Aberystwyth.