91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Digwyddiadau
Eisteddfod Papurau Bro
Trefnwyd Eisteddfod Ddwl yn Llanarth, Ceredigion ar Fawrth 20, 2008 gan Antur Teifi "i gydnabod gwaith caled gwirfoddolwyr papurau bro Ceredigion a Sir Benfro".
Dewi Pws ac Ifan yn yr eisteddfod dwl
Dewi Pws ac Ifan Gruffydd Tregaron next page
12345


Yn cymryd rhan o dan arweinyddiaeth Ifan Gruffydd roedd cystadleuwyr o'r 11 papur bro sydd yn rhan o Brosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro, cynllun Amcan Un a weithredir gan Antur Teifi.

Daeth toreth o ddeunydd llenyddol i law, i'w tafoli gan y beirniad Dewi 'Pws' Morris, a fu hefyd yn dethol y goreuon o gystadlaethau llwyfan y noson a gynhaliwyd yng Ngwesty Llanina, Llanarth. Ynghyd 芒 hen ffefrynnau eisteddfodol fel y Darn Heb ei Atalnodi a'r Adroddiad Digri, roedd disgwyl clywed ambell i Stori Gelwydd a dynwaredwr hefyd.

Rhaglen yr Eisteddfod

Llenyddiaeth
Diarhebion:
Paratoi pump dihareb gyfoes.

Slogan Hysbysebu:
Agored.

Gorffen Limrig:
Aeth Arthur i'r Co-op gyda whilber i chwilio am rywbeth i swper.

Llunio Brawddeg:
Gyda'r geiriau yn eu tro yn cychwyn gyda'r llythrennau P-A-P-U-R-A-U B-R-O.

Llefaru
Darllen darn:
Heb ei atalnodi.

Adroddiad Digri:
Agored.

Stori Gelwydd:
Agored.

Dynwared:
Unrhyw wleidydd.

Rheolau'r Eisteddfod
Dyfarnir marciau ymhob cystadleuaeth o 5 i'r enillydd, 3 i'r sawl ddaw yn ail, ac 1 i'r trydydd. Cyflwynir gwobr i'r papur bro sydd 芒'r cyfanswm uchaf o farciau ar ddiwedd y cystadlu.

Gwobrau
Mae cwmn茂au Gwasg Gomer, Fflach, Sain a'r Lolfa wedi darparu gwobrau i'w rhoi i enillwyr pob cystadleuaeth, a bydd y papur bro a ddaw i'r brig ar ddiwedd y barnu a'r cystadlu yn ennill taith i weld Canolfan y 91热爆 yng Nghaerdydd, diolch i garedigrwydd y 91热爆 a chymorth ariannol gan Cynnal Ceredigion.

Mwy am yr Eisteddfod Ddwl ar wefan papur bro Clonc


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Radio Cymru
Trefi
Bws 91热爆 Cymru


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy