Dechreuodd y flwyddyn yn arbennig gydag Anwen Butten yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Seland Newydd. Bu Anwen yn 'sgipio'r rinks' am y tro cyntaf lie cafodd y tim y fedal arian ac enillodd hi'r fedal efydd yn y triawd.
Enillodd Morfydd Rees ei chap cyntaf wrth gynrychioli ei gwlad yn y gemau rhyngwladol ynghyd ag Anwen allan yn Iwerddon.
Nid ar lefel rhyngwladol cafwyd yr unig lwyddiant. Gwnaeth y marched yn dda yn y gemau sirol gyda nifer yn cyrraedd y rowndiau cynderfynol a therfynol gyda Dilwen Roderick ac Anweb Button yn ennill eu gemau sengl.
Yn ystod y flwyddyn bu'r holl ferched yn cystadlu yn frwd yng ngemay'r gyngrair gyda'r canlyniad yn un arbennig a'r clwb yn ennill yn gyfforddus gyda mantais o 19 pwynt.
Yn benllanw ar dymor ardderchog fe aethpwyd lawr i Ddinbych y Pysgod i amddiffyn teitl `double rinks' Cymru. Bu'r gêm gyn derfynol yn un agos gan ennill o un pwynt yna mynd ymlaen i ennill yn y gêm derfynol ar brynhawn stormus yn lle cafodd y gêm ei hatal nifer o weithiau oherwydd y tywydd.
Hefyd cafwyd llwyddiant ysgubol yn Ninbych y Pysgod gydag un o'n aelodau Iau sef Melanie Thomas yn ennill y gêm sengl tan 16 a than 25. Nawr fydd Melanie yn cynrychioli Cymru yn y gystadlcuaeth dan 25 ym Mhencampwriaeth Ynysoedd Prydain yn Iwcrddon y flwyddyn nesaf lle fydd yn ennill ei chap gyntaf. Pob lwc i ti Melanie.
Wrth edrych ymlaen dymunwn bob lwc i Anwen yn Hong Kong ym mis Rhagfyr lle mae hi a Hannah Smith o Gaerfyrddin wedi eu gwahodd gan y gemau `Classics' i gystadlu yn y gystadleuaeth ddwbl a sengl. Dyma'r tro cynta i ferched o Gymru fynd allan. Hcfyd mae wedi cael ei dewis i gystadlu yn yr atlantic rim yn Johannesberg mis Mai nesaf.
Hoffwn ddymuno pob Iwc i Bet Davies y flwyddyn nesaf gan fydd yn cael ei gwneud yn Llywydd Cymru yn yr AGM yng Nghaerdydd mis nesaf. Gobeithio y cewch chi flwyddyn arbennig.
Os oes diddordeb gydag unrhyw un i ymuno gyda'r hwyl a llwyddiant y clwb dewch lawr i'r clwb unrhyw noson ar ô1 chwech yn ystod yr wythnos ac fe gewch chi groeso mawr.
Llongyfarchiadau a diolch i bawb am eich cefnogaeth.
|