Wedi gweithio am gyfnod o tua 10 mlynedd cyn ymddeol yn y maes arallgyfeirio ar ffermydd Cymru, diddorol oedd cael cyfweld y cymeriad lliwgar o Gwmann, sydd wedi mentro i faes go anghyffredin er mwyn hybu incwm y fferm. Dyma i chwi ychydig o'i gefndir.
Ganwyd Harold ar fferm Garthmoel Rhydcymerau ond symudodd y teulu i'w gartref presennol pan oedd Harold tua thair oed. Fferm o tua 70 cyfer yw TÅ· Howell, ond fe werthwyd tua 40 cyfer i'r Comisiwn Coedwigaeth er mwyn plannu coed. Cedwir tua 140 o ddefaid a 20 o wartheg sugno ar y fferm.
Roedd plentyndod Harold yn dwyn llawer o atgofion iddo, rhai efallai na fedrir ei hail adrodd yn yr erthygl yma! Byddai'n naturiol yn cerdded i Ysgol Coedmor, ac yn wir, mae ganddo atgofion o gerdded gyda'i dad a'i fam i gyngerdd Nadolig mor bell ag ysgol Esgairdawe.
Ar ôl gorffen yn yr ysgol Uwchradd, rhaid oedd chwilio am waith, ac fe gafodd swydd fel 'tea boy' gan gwmni o adeiladwyr 'Horns Contractors' - cwmni oedd yn gyfrifol am godi Tai Cyngor Ffynnonbedr ac yn cyflogi o 80 i 100 o weithwyr. Am baratoi te i'r gweithwyr, enillai gyflog o £9 yr wythnos, ond mi fyddai swm cyffelyb yn dod o'r 'tips', gan mai Harold oedd yn gyfrifol am fynd lawr i'r dre i brynu pacedi o 'Woodbines' am 214 y paced, a byddai Harold yn cadw'r newid o hanner coron. Weithiau, byddai'r 'tips' lawer mwy na'r cyflog.
Ar ôl gorffen gyda'r adeiladwyr, penderfynodd ddilyn prentisiaeth i fod yn grydd, a bu wrthi yn gweithio yn y maes yma am bedair blynedd. Er bod ganddo'r cymwysetrau, penderfynodd beidio a dilyn gyrfa fel crydd. Cafodd swydd yn y Co-op yma yn Llanbed a bu yno am flynyddoedd fel 'store-man' yn gyntaf, ac yna yn yr adran fwyd.
O ddarllen rhwng y llinellau, roedd Harold yn dipyn o dderyn yn grwt ifanc. Arferiad ymysg rhai o fechgyn yr ardal, oedd cyfarfod tu allan i ysgol Coedmor am 4 o'r gloch ar brynhawn Sul, a beicio i lawr wedyn i
Gei Newydd. Ar ôl cyrraedd rhaid oedd ymdrochi yn y môr, a chael paced o sglodion cyn troi am adref. Ar un achlysur wrth ddychwelyd adref, cafodd feic Harold 'buncture' tua Gorsgoch. Dyma roi'r beic ar ei ysgwydd a neidio tu ôl i'w ffrind Endaf ar ei feic ef, a gwneud y gorau i osgoi'r heddlu ar y ffordd adref i Gwmann! Ond roedd na droeon trwstan hefyd. Wrth fynd â choeden Nadolig i'w ffrind Tommy Buckingham, a chael par o 'ganaries' yn y fargen, fe syrthiodd Harold ar y ffordd adre a thorri ei goes. Bu yn ysbytai Aberystwyth a Gobowen am bedair wythnos ar ddeg.
'Roedd natur fentrus yn rhan hanfodol o'i gymeriad, ac ar ôl gwella o'i ddamwain, dyma ddechrau ymddiddori mewn 'scramblo' ar gefn `motor beic' ac roedd yna gwrs bryd hynny ar fferm Mount Pleasant ar gyrion y dre.
Dyma wedyn, newid gwaith unwaith yn rhagor. Cychwynodd fusnes 'contracto', aredig a gwasgar calch, gyda'i frawd, ac mae'r ddau yn gyfrifol am drawsnewid llawer o'r hen lechweddau yn y fro, o redyn ac
eithin i borfa lâs. Yn y gaeaf, byddai yn casglu gwellt o ardal y 'Cotswolds', a'i werthu i ffermwyr lleol.
Un o'i ddiddordebau yw magu adar fel 'Budgies', 'Love birds' a'r 'Cockateals', ond nid yw erioed wedi arddangos yr un aderyn mewn sioeau.
Tybed, i ba faes arall y medrai Harold arallgyfeirio? Gwyddom amdano bellach fel gŵr y Bingo a'r Disco. Sylweddolodd tua 14 mlynedd yn ôl, fod yna fwlch yn y farchnad, gan nad oedd neb lleol wrthi'n darparu disgos mewn partïon ar gyfer plant o bob oedran, ac oedolion. Ar y dechrau ceisio rhoi gwasanaeth i blant Cwmann oedd y bwriad, ond mae'r galw am ei wasanaeth wedi tyfu yn sylweddol dros y blynyddoedd. Prynodd offer addas i'r gwaith a nifer fawr o gryno ddisgiau ac mae'r cyfan yn werth rhyw £2,000 erbyn hyn. Mae'r ffefrynau mewn cerddoriaeth yn gwahaniaethu wrth yr oedran. Yn naturiol, mae'r oedolion wrth ei bodd gyda Dafydd Iwan, Timothy, John ac Alun a Iola ac Andy. Mae'r bobol ifanc, yn hapusach gyda 'Grease', Abba' a'r holl grwpiau pop cyfoes. I'r plant, rhaid wrth ganeuon fel y 'City Girls' a'r 'Crazy Frog'! Mae Harold felly, yn gorfod adnabod ei gynulleidfa o'r cychwyn cyntaf.
Yn ddiweddar cychwynodd wasanaeth Bingo ynghyd â Disgo, ac mae'r ddau yn help mawr i fudiadau lleol godi arian sylweddol. Ymfalchïa Harold yn ei waith yn gofalu am gae chwarae Ram.
Er yn hên lanc, mae yn ffefryn mawr gan y merched a'r gwragedd sy'n dilyn y 'Bingo' a'r 'Disgo'. Mae'n derbyn dros 80 o gardiau Nadolig oddiwrth ei edmygwyr, yn flynyddol. Ond nid oes neb wedi'i ddal, hyd yma, ond pwy a wŷr?
Ffermwr a gwerinwr o'r radd flaenaf yw Harold. Gŵr sydd yn meddu ar gymeriad hoffus gyda gwên gellweirus a drygionus. Mae wrth ei fodd yn cyfarfod pobol, a gwasanaethu Cymdeithas. Mae cymeriadau fel Harold yn brin iawn yn ein hardaloedd gwledig y dyddiau yma.
Erthygl gan Twynog Davies