Tybed a fu Dylan Thomas draw i Lanbed am beint, neu i'r Grannell neu'r Cefli Hafod falle?Mae'n anodd meddwl y byddai'r bardd sychedig wedi llwyddo i basio yr un ty potes os oedd yn digwydd bod ar ei drafels ac roedd yn sicr yn llymeitian yn Nhalsam ac Ystrad Aeron. Mi ddaeth hynny i'r meddwl wrth edrych ar berformiad o Dan y Wenallt, cyfieithiad T. James Jones o'r ddrama fawr Under Milk Wood a gwrando ar iaith lafar Sir Aberteifi yn llifo oddi ar y llwyfan.Mae'n debyg fod Jim Parc Nest yn argyhoeddedig mai Cymraeg oedd iaith go iawn y cymeriadau yn y ddrama ac mi ddefnyddiodd ei dafodiaith ei hun i gyfleu hynny. Wn i ddim a oedd y llenor Caradog Prichard yn iawn with ddweud fod y cyfieithiad yn well na'r gwreiddiol ond mae'n ddigon i ddweud ei bod hi'n gweithio'n berffaith yn Gymraeg hefyd a'r cymeriadau yr un mor gyfarwydd a byw. Does dim angen synnu at hynny gan mai o'r Cei y daeth llawer o ysbrydoliaeth y ddrama a fod Dylan Marlais Thomas yn perthyn i rai fel Gwilym Manes, gweinidog Undodaidd y troi allan. Mi ddylen ninnau ddathlu eleni wrth i bobol gofio am hanner canmlwyddiant ers marwolaeth ifanc Dylan.... mae gan Geredigion gymaint o hawl arno â neb... Drama sy'n ymhyfrydu mewn bywyd ac mewn pobol ydi Dan y Wenallt - mae'r dramodydd yn ein licio ni ar waetha' - neu oherwydd ein holl ffaeleddau, yn ddynion rhy feddw, yn ferched rhy hael. Yng nghanol yr hoff ddoniolwch, mae hi hefyd yn ddrama drist, a phobol yn cofio am gyfleoedd coll a phethau sydd wedi mynd. Bywyd mewn marwolaeth, marwolaeth mewn bywyd hefyd.
|