Bore dydd Mercher aeth 13 o gerddwyr gyda bws ac awyren i Nantes La Loire yn Ffrainc. Cawsom ein cludo i Gite Rural, tu allan i'r dref sydd wedi gefeillio â ni. Mae St Germain sur Moine yn le tua maint Llambed ond llai o siopau o lawer. Dyma siawns i gadarnhau y gyfeillach rhwng y ddwy dref ac fe gawsom groeso arbennig fel arfer, amicabl convivialis, gyda aperitif a brioche, y bara lleol.
Cerdded a gweld gwlad y sevre Nantaise oedd y pwrpas, ac fe gawsom fap i ddangos hanner dwsin o lefydd cyfagos, hanesyddol a phert. Portillium yn gyntaf ger canllaw nantaise yng nghanol y gwinllannoedd. Yr oeddem yn dechrau dod o hyd i ffyrdd newydd a dilyn arwyddion.
Le Pallet yr ail ddiwrnod. Daeth gyrrwr y bws gyda ni. Yr oedd yn ferch hawddgar ac fe ffeindiodd y ffordd trwy'r pentref cyntaf gyda help menyw mewn brat ddaeth allan i'n hyfforddi. Mae'r afon wedi troi y felin dros ganrifoedd, a chawsom bicnic mewn castell yn edrych i lawr ar Le Pallet. Y mae ôl y rhufeiniaid yma, hanes torcalonnus cariad Heloise a Abelard .
Ar y penwythnos cawsom ein diddori gyda'r dref. Cerdded o un pentref i'r llall a dod yn ôl i fwyd a gwin a sgwrs yn neuadd ysgol gyda'r maer. Roedd arddangosfa yn neuadd y dref a neuadd y maer am gelfyddydau lleol, ac yr oedd gwaith llaw y merched yn dryliw, a hen bethau fel iau ychen yn ddeniadol.
Yr oedd y Gites rural ar y fferm yn ddiddorol ac wedi ei hasaethu o amgylch yr hen dai fferm. Fe gawsom le da iawn gan Mr & Mme Dugast, a bwyd a gwin mewn digonedd. Mae'r bwyd yn flasus ac yn dod o lefydd lleol. Dyma rwydwaith da i aros yno.
Y mae ffermydd gwartheg a llawer o gaeau gwair ffrwythlon, a digon o flodau, ac roedd cân yr adar yn ein swyno, gwanwyn yn ei ogoniant. Lle poblogaidd oedd y llyn cyfagos a llwybr o'i amgylch. Fe deimlwn yn gartrefol yma. Rhyw amser yn yr wythnos aethom i weld fferm a gwinllan, a chael glased bach o win ac oysters, - dyma beth yw byw!
Dydd Sul, Dimanche-ein ffordd oedd o amgylch Clisson, lle wedi ei ail adeiladu yn debyg i'r Eidal ar ôl y rhyfel cartref o amgylch y castell mawr ar farchnad gaeëdig hanesyddol. Y mae yn le hudolus.
Dydd Llun, i'r dref fawr Nantes gyda thrên o Clisson, ac yr oedd yn le prysur ond glân, gyda thramiau trydan. Edrychom ar y Castell, a'r siopau llewyrchus golygus, a thorri ein syched yn yr Irish Pub. Cawsom ginio, 2 awr fel pob Ffrancwr arall. Beth allem wneud wedyn ond eistedd yn y parc yn y dref, ac edmygu ei harddwch. Mae canol dydd yn amser sanctaidd yma i gael cinio hamddenol.
Dydd Mawrth - mardi -, oedd Rober a Daniel yn ein disgwyl yn Tiffagues, lle a thipyn o fawredd yn ei osodiad. Castell ar fryn, dros lyn mawr.Yr oedd y Rhufeiniaid yn tramwyo yma ac mae olion heol dda o'i hamser mewn cyflwr da. Dyna beth oedd pensaernïaeth. Picnic wedyn yn yr haul yn Le Parc Ribou, tu allan i dre Cholet. Parc ydyw ger y llyn, lle mae llawer yn dod i chwarae, hwylio neu hamdden. Cerdded wnaethom ar ochr y llyn drwy gaeau gwair llawn blodau. Y mae llawer o ddant y llew yma ac maen debyg fod y gwartheg yn ei hoffi.
Diwrnod diwethaf wedi dod, amser wedi hedfan! Y mae'n rhaid dweud am y ddwy fferm arall welsom a'r arallgyfeirio. Yn gyntaf, fferm a llawn cae o goed cyll. Beth a wnaed i gadw'r wiwer allan? Peidiwch â gofyn! Ond yr oeddynt yn deulu cartrefol ac yn perthyn i'r maer.
Yr ail fferm oedd lle yn gwneud mêl, ac yn dodi'r cychod dros Ewrop gyfan. Defnyddio pollen o flodau gwyllt o bob math. Y mae yn fwy caled bob blwyddyn achos llygredd. Teulu Mary oedd enw y cwmni ac fe gawsom groeso, a hanes y gwenyn. Yr oedd Marged o Dregaron wrth ei bodd.
Dyma bicnic arall amser cinio, a gêm o fowls a dweud ffarwel wrth ein 'Hosts' am eu lletygarwch. Dweud ffarwel wrth ein ffrindiau yn enwedig Laurance, Solange a Minnie oedd wedi trefnu pethau a gŵr y post Thierry a lli arall, hedfan yn ôl i Gatwick yn llawn atgofion melys. Bydd rhaid mynd yn ôl cyn hir! Très Bien.
Erthygl gan Philip a Ceris a Criw