Ar ddydd Sadwrn diwethaf mis Gorffennaf aeth wyth o aelodau y clwb i Lanberis i gymryd rhan yn Ras Yr Wyddfa. Mae'r ras yn dechrau yn Llanberis ac yn dringo 3,210 o droedfeddi i Gopa'r Wyddfa, ac yna nôl lawr i Lanberis Diwrnod twym iawn, a'r haul yn cael effaith ar rai o'r rhedwyr. Roedd 500 o redwyr.
Cafodd Dawn Kenwright ras dda gan gipio y wobr gyntaf yng nhategori Vet 50, ac hefyd Carwyn Thomas yn cael ras arbennig o dda ac yn cyrraedd copa'r Wyddfa mewn 51 munud a 10 eiliad gan ddod lawr mewn 27 munud a 39 eiliadau.
Y canlyniadau, safle 24 - Carwyn Thomas 1 awr 18m a 41 e, 103- Glyn Price 1awr 33 m a 22 e, 160 - Mark Dunscombe 1awr 39m 16e, 220 - Huw Rowcliffe 1awr 44m a 44 e, 224 - Richard Marks 1awr 50m a 37 e 281 - Dawn Kenwright 1awr 50m a 37e, 296- Huw Price 1awr 52m a 3 e, 443 - Caryl Davies 2awr 17m a 21e.
Cynhaliwyd ras flynyddol y clwb yn ysgol Felin Fach. Ar ôl cwblhau'r chew milltir dyma ganlyniadau clwb Sarn Helen. 2il Andrew Abbot 33 m 29 e, Dynion 40 1af Glyn Price 33 m 12 e, Dynion 50 2il Richard Marks 37m 02 e. Menywod 35 3ydd Caroline John 42 m 46 e
Ras y plant, 3000 medr bechgyn 1af Davy Lewis Carmarthen Harriers 11 m 35 e 2il Rhys Evans 12 m 35 e , 3ydd Sion Price Ysgol Gyfun Aberaeron 12 m 50 e. 1af merched Sian Downes Ysgol Gyfun Aberaeron 13 m 31 e, 2il Rhian Jones Sarn Helen 14 m 5 e, 3ydd Bethan Haf Jones Tregaron 15 m 36 e.
1500 medr bechgyn 1af Alan Davies Sarn Helen 6 m 28 e 2il Osian Jones Felin Fach 6 m 42 e, 3ydd Ieuan Wyn Rees Llangeitho 6 m 56 e. Merched 1af Katja Birkett Sarn Helen 7 m 02 e, 2il Luned Medi Jones Cwrtnewydd 7 m 03 e, 3ydd Gwawr Edwards Felin Fach 7 m 30 e.
800 medr bechgyn1af Aled Sion Jones Bronant 3 m 24 e, 2il Jack Dafydd Richards Aberaeron 3 m 26 e, 3ydd Tomos Lewis Tregaron 3 m 29 e. Merched 1af Alaw Mair Jones Felin Fach 3 m 35 e, 2il Llio Jones Felin Fach 3 m 39 e, 3ydd Alaw Fflur Jones Felin Fach 3 m 53 e.
Carwyn Thomas yn ennill ras 10K 'Silver Valley' Hermon mewn amser 37 m a 55 e ac yn safle 27 roedd Gareth Jones 53 m a 40 e, a Caryl Davies 58 m a 32 e.
Carwyn Thomas yn ennill unwaith yn rhagor yn Ras Frenni 8 milltir yng Nghrymych mewn 44 m a 8 e, safle 20 - Haydn Lloyd 58 m 8 e, 26 - Gareth Jones 1awr 4 m 31e, 27 - David Thomas 1awr 5 m 46 e, 32 - Janet Jones 1 awr 1 m 10 e.
Mark Dunsombe yn gorffen yn safle 38fed yn ras Abertawe 5K,a Glyn Price yn gorffen yn bedwerydd yn ras Amman Valley 10K ac yn cael ail i ddynion 16 -Mark Dunscombe, Huw Price, 55 - Lyn Rees, 119 - Allen Watts.
Yn ras hwyl Llangeitho cafodd y plant rasus da iawn. Lleucu Ifans yn ennill ei ras a Katia Birkett hefyd yn ennill ras blwyddyn 5 a 6. Ras ddwy filltir Rhian Jones yn ennill, ac yn ras y bechgyn Heulyn Evans yn cael ail. Ras menywod 4 milltir, 2il Janet Jones, a'r dynion Rhys Evans yn 3ydd. Caryl Davies yn ennill y ras chwech milltir , a Carwyn Thomas y cael cyntaf yn ras y dynion, 2il Haydn Lloyd dynion dros 50 Lyn Rees yn ennill y categori.
Ras trawsgwlad o Caio i Lanwrda: ail Janet Jones vet 35, 2il Haydn Lloyd dynion agored, ac ail hefyd i Gareth Jones Vet 40. Janet a Gareth yn ennill gwobr y pâr priod.
Ras y Maer 10K yn Aberteifi: Carwyn Thomas yn ennill y ras mewn 35 m 21 e, 4ydd Glyn Price 36m 29 e ac yn cael y cyntaf yn y dynion dros 40 oed.
Caryl Davies a Haydn Lloyd y ddau yn cael trydydd safle yn ras hwyl 8 filltir yn Myddfai, a Rhian Jones yn cael ail yn y ras ddwy filltir i'r plant.
Ras 10 K Rhedwyr Ingli yn Abergwaun: Glyn Price yn ennill ei ras i ddynion dros 40 oed 35m a 45e, a Michael Davies yn ennill y dynion agored 36m 32e ac Allen Watts yn cael ail i ddynion dros 70 oed 1 awr 21m a 15e. Sarn Helen enillodd y tîm sef Glyn Price, Michael Davies a Richard Marks.
Cyfres gyntaf Poppit Sands: 1af Carwyn Thomas 17m 51e, 3ydd Andrew Abbott 18 m a 57e. Dynion 40 2il Mark Dunsombe 20m 38e, Rhys Evans 2il 23m 5e, yn adran bechgyn ieuanc a Rhian Jones 12m 24e yn gyntaf yn adran y plant. Yr ail gyfres, 1af Carwyn Thomas 17 m 10e, 3ydd Andrew Abbott 17m 47e, 5ed Glyn Price 18m 08e ac yn ennill y categori dynion 40. Rhys Evans 23m 22e yn drydydd yn y bechgyn ieuanc, Caryl Davies 26m 59e yn drydydd yn y merched agored, a Rhian Jones 11m 40e yn ennill ras y plant. Y drydedd gyfres: 1af Carwyn Thomas 17 m 7e, 3ydd Andrew Abbott 18m 43e, 3ydd Bechgyn ieuanc, Rhys Evans 24m 24e. 3ydd merched agored Caryl Davies 25m 39e a Rhian Jones yn ennill ras y plant. Ar ddiwedd y noson yr enillwyr allan o'r dair gyfres oedd Carwyn Thomas, Rhys Evans a Rhian Jones.