Ar fore hyfryd, ddydd Sadwrn y 6ed o Chwefror roedd 27 o aelodau Cymdeithas Edward Llwyd wedi cyfarfod am 10.30 y bore, ger Eglwys Llanwenog i ddechrau taith o amgylch gwaelod Plwyf Llanwenog dan arweiniad Ieuan Roberts.
Roedd nifer o'r aelodau yn gwybod am yr enw oherwydd hynodrwydd y Clwb Ffermwyr Ifanc a brid defaid Llanwenog.
Cyn mynd i mewn i'r Eglwys cafwyd cyflwyniad am ei gorffennol - cafodd ei sefydlu ddiwedd y 7fed ganrif gan y Santes Gwenog gyda'r adeilad presennol yn deillio o'r 13eg ganrif.
Codwyd y tŵr gan Syr Rhys ap Thomas i ddathlu buddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth yn 1485. Roedd pawb wedi eu cyfareddu gan y nenfwd crwn sydd wedi ei rannu yn sgwariau gan y tylathau derw a'r arysgrif o'r Deg Gorchymyn a'r Credo yn Gymraeg sydd wedi eu darganfod ar y mur gogleddol. Tynnwyd sylw at y bedyddfaen Normanaidd a'r cerflun cyntefig o'r Croesholiad y tu ôl i'r allor, ond yn bennaf oll at y gwaith pren derw cerfiedig yn y sgrin ac ar bennau'r meinciau, gwaith Josef Reubens, ffoadur o wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r Milwriad H. Davies-Evans o Blas Y Dolau.
Cyn gadael y fynwent gwelwyd copi o Garreg Fawr Crugywhil gyda'r arysgrif Lladin ac Ogam arni yn cofnodi man claddu Tringad ap Maelan. Mae'r garreg wreiddiol sy'n naw troedfedd o hyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a chredir ei bod yn tarddu o'r 5ed ganrif. Gwelwyd hefyd y goeden 'cas gan fwnci' a dwy o goed bach sydd wedi egino oddi dani.
Sefydlwyd Ysgol Llanwenog yn 1867 fel Ysgol Eglwysig ac mae bellach yn llewyrchus iawn. Ar ei mur mae cerflun mewn llechen o EJ Williams a'i frawd, gwaith Dennis Jones. Soniwyd am bwysigrwydd EJ Williams yn datblygu technoleg i orchfygu llongau tanfor yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Wrth gerdded ymlaen ger TÅ· Cam soniwyd am Gaer Faes lle bu brwydr Llanwenog yn y flwyddyn 982. Yno gorchfygodd y Cymry naill ai'r Daniaid neu'r Saeson a soniwyd am y frwydr yn Llyfr Coch Hergest. Trueni na fu i Gymru orchfygu'r Saeson ar y maes rygbi ddiwedd y prynhawn hwnnw! Ger Llechwedd nodwyd mai yno mae cartref y chwaraewraig golff broffesiynol, Rhian Wyn Thomas.
Dechreuwyd achos yr Annibynwyr ym Mrynteg yn 1838 fel ymgais lwyddiannus i roi diwedd ar yr arfer o gicio'r bêl droed, y cnapan, ar y Sul pan fyddai hyd at dair mil o drigolion y plwyf yn cymryd rhan. Tynnwyd sylw at un neu ddwy o ddefaid Llanwenog yng nghaeau Bwlch Mawr. Yn Rhuddlan soniwyd am Lys Pryderi yn y Mabinogi, ychydig uwch ein pennau.
Cawsom wahoddiad gwresog gan drigolion Highmead i fynd o amgylch y plas ac i weld y grisiau mawreddog yn arbennig. Manteisiwyd ar y lleoliad hyfryd i gael ein cinio ar y lawnt.
Roedd Ieuan wedi bwriadu cerdded ymlaen i Lanybydder a chymryd y llwybr cyhoeddus o Gaedabowen i Fronwen, i wneud peth naturiaetha. Ond nid oedd cyflwr y llwybr yn caniatáu ac felly bu rhaid cwtogi'r daith a dychwelyd i Lanwenog heibio'r Cefn Rhuddlannau. Ond cawsom ein gwobrwyo trwy weld pedwar blodyn Llygad Ebrill wedi agor yn haul mis bach a hynny'n dangos fod y gwanwyn ar y ffordd. Diwrnod hyfryd iawn.
|