Ond mae'r pleser o ddod o hyd i fadarchen go iawn yn afresymol o fawr, ac wedyn sylwi fod dwy neu dair fach arall yn llercian gerllaw. Ac wedyn rhyfeddu at y pwer rhyfedd sydd wedi eu gwthio nhw trwy'r pridd i droi'n ffrwyth cyfan mewn noson. Ond mae'n debyg mai'r pleser go iawn gyda mwyar a myshrwms fel ei gilydd ydi gwybod eich bod chin casglu bwyd yn uniongyrchol o'r ddaear, heb ddim prosesu na phacio .. a natur ei hun sy'n penderfynu'r 'sell-by'. Mae'n anodd credu cyn lleied o bobol sy'n nabod y pleser yma - ynghanol yr holl adroddiadau am ddiffygion deiet a bwyd afiach mewn ysgolion, dyna'r un wers fawr sy'n mynd ar goll - nid peth sy'n dod o siop ydi bwyd, ond rhywbeth sy'n dod o'r ddaear. Roedd yr un teimlad yn taflu gwawl gynnes trwy festri Capel y Groes wrth i Karen Owen, Golygydd Golwg, ddarllen cerddi a ddaeth yn agos iawn at ennill y Goron ym Meifod eleni ... a hawdd gweld pam. Cerddi crefftus, glân yn defnyddio ei phrofiad hi ei hun i grynhoi profiadau pawb ohonon ni sy'n byw yng ngorllewin Cymru y dyddiau yma. Y tu cefn i'r cerddi, roedd awch Karen i ffeindio rhagor am ei theulu, nid dim ond yr enwau, ond y straeon bach sy'n pefrio yn y cloddiau. Fel y bydd sbwyriau'r madarch yn aros yn y pridd am flynyddoedd, nes cael yr amgylchiadau perffaith i ffrwydro i'r wyneb; mae olion bywydau ein cyndeidiau ninnau yno yn rhywle, yn aros i gael eu darganfod, neu'n bwydo'r ddaear o'u cwmpas. Colli nabod ar y rheiny, a cholli'r teimlad wag atyn nhw, ydi'r pris mawr yr yden ni'n ei dalu er mwyn cael ein cymdeithas fodern, symudol ... fel gwymon môr sy'n cael eu symud yn ôl ac ymlaen gan y tonnau. A dyna un o'r prisiau mawr y byddwn ni'n ei dalu am y symudiadau poblogaeth mawr i mewn i'r ardaloedd yma ... mae'r hen straeon ac atgofion am genedlaethau'r gorffennol yn cael eu sathru i mewn i'r pridd. Ac enwau wedyn - mae Karen yn sôn am y rheiny hefyd - yn cael eu troi ... o Lyn Rhosyn i Rose Villa, o Bantycelyn i Holly Vale. Dyna'r goncwest eitha', dwyn hanes a chof oddi ar bobol. Ond mae yna rai yn dal i fynd allan i gasglu ac i deimlo'r ffrwythau'n dyner yn eu dwylo. A does yna ddim byd gwell na myshrwms yn y badell a llygaid bach y menyn yn wincio arnoch chi ... heb sôn am darten fwyar a'i jiws yn gochach nag unrhyw glaret yn selerydd Ffrainc. Ac nid peth hen ffasiwn ydi o chwaith mae restaurants mawr yn codi crocbris am fadarch gwyllt a sorbet mwyar. Ac mae siopaun llawn o gynnyrch artiffisial syn trio edrych fel y stwff go iawn. Dylan Iorwerth
|