Yn ystod mis Hydref mi fydd grŵp o symbylwyr cymdeithasol a diwylliannol yng Ngheredigion yn cymryd y camau cyntaf tuag at sefydlu cwmni theatr cydweithredol. Nod y grŵp - sydd yn cynrychioli cymdogaethau gwledig ar draws y sir - yw mynd i'r afael ag argyfwng economaidd, ieithyddol a diwylliannol ardaloedd gwledig y gorllewin trwy gyfrwng y ddrama Gymraeg. Medd Euros Lewis, arweinydd y fenter: 'Dros fisoedd yr haf bu hyd at hanner cant o bobol yn cwrdd yn rheolaidd i drafod yr argyfwng deublyg hwn - argyfwng y ddrama Gymraeg ac argyfwng cyffredinol y cymdogaethau Cymraeg. Yn gyflym iawn datblygwyd consensws mai'r ffordd orau o daclo'r naill sefyllfa a'r llall oedd trwy gyfrwng y diwylliant ei hunan.' Eisoes mae'r cwmni - sydd yn cael ei adnabod ar hyn o bryd fel Cwmni Troed-y-Rhiw (gan mai yn Festri Troed-y-Rhiw, ym mherfedd cefn-gwlad y cynhaliwyd y cyfarfodydd) - wedi cynnal sesiwn cyflwyno â swyddogion datblygu cymunedol ac, yn ôl Euros, wedi cael ymateb da. 'Yn hanesyddol mae cynllunwyr cymunedol wedi tueddi i edrych ar ardaloedd gwledig yn nhermau beth sydd ddim i gael yno - i gymharu â'r dref a'r ddinas hynny yw. Fel cwmni ry' ni wedi dod at yr argyfwng o gyfeiriad gwahanol, sef: beth yw'n cryfderau? A'n prif gryfder yw'n diwylliant - yn enwedig ein gallu i gyd-weithio a chyd-greu. Yn hyn o beth mae drama yn feicrocosm o gymdogaeth iach. Pa well arf ar gyfer ail-egnio ein balchder a'n huchelgais ar y naill law a wynebu a mynd-i'r afael â'n problemau a'n rhwystredigaethau ar y llaw arall?' Ar hyn o bryd mae'r criw o blith y cwmni yn teithio cefn-gwlad Ceredigion yn datblygu perthynas â'r bobol bwysig hynny sy'n rhoi trefn ar y calendar cymdeithasol tra fod criw arall yn paratoi y cynhyrchiad cyntaf a fydd yn teithio neuaddau cefn-gwlad o Hydref 5 hyd at Hydref 21. Plaid Leisio yw enw'r ddrama gyntaf, sgript a sgwenwyd yn unswydd ar gyfer y cwmni. Comedi yw hi sy'n seiliedig ar ddyddiad a gofir yn hir yng Ngheredigion: dydd Iau, Mai 5 eleni - diwrnod yr Etholiad Cyffredinol. Pedwar person ifanc sy'n rhannu dwy fflat - un uwchben y llall - yn Aberystwyth yw'r prif gymeriadau. Mae'r pedwar yn dychwelyd o'r dre i'w fflatiau i wylio'r canlyniadau ar y teledu holl bresennol. Ond mae'r ddrama yn cychwyn ymhell cyn i'r canlyniad annisgwyl eu cyrraedd. Wrth deithio'r ddrama- gan berfformo mewn dwy neuadd gyfagos ar yr un noswaith ambell waith - mi fyddwn yn cynnig i bob aelod o bob cynulleidfa i ddod yn rhan o'r cwmni gan mai sefydlu cwmni cydweithredol go iawn - rhyw fath o Go-op Drama ar lun Co-ops Amaethyddol - yw ei'n bwriad tymor hir', medd Euros. Perfformir y ddrama yma yn Neuadd Ysgol Cwrtnewydd ar nos Wener, Hydref 14eg am 8y.h. Bydd merch o Gwrtnewydd yn actio yn y ddrama sef Meleri Williams. Pob lwc i ti Meleri yn y byd actio!
|