Mae'r term arall gyfeirio yn cael ei ddefnyddio yn aml y dyddiau yma fel cyfrwng i ychwanegu at incwm y fferm neu'r teulu. Un o'r dulliau sydd wedi datblygu ar ambell fferm yng Nghymru bellach yw addasu hen adeilad er mwyn creu busnes newydd. Mae yna enghraifft wych o hyn ar fferm Dolaugwyrddion Uchaf, Pentrebach lle mae John ac Olive Jones wedi helpu eu mab yng nghyfraith, John McDonagh, i drawsnewid yr hen feudy er mwyn creu busnes llwyddiannus o'r enw Celfi Cain neu Furniture for Ever. Brodor o Cape Town yn Ne Affrica yw John ac ers dyddiau ysgol, mae wedi ymddiddori mewn chwaraeon a gwaith coed. Tra yn ysgol y bechgyn WYBERG, aeth ati yn ystod ei flwyddyn olaf yn yr ysgol i wneud dreser Gymreig. Ychydig a feddyliodd ar y pryd y buasai yn priodi Cymraes a dod i fyw i Gymru er mwyn sefydlu busnes. Ar ôl gadael yr ysgol treuliodd flwyddyn yn y Llynges fel rhan o Wasanaeth Cenedlaethol ei wlad. Roedd chwarae rygbi yn dal yn ei waed er hynny a dyma dderbyn gwahoddiad i fynd allan i Bortiwgal a chwarae i Brifysgol Aporto, a chael ei dalu am chwarae. Ar ôl blwyddyn ym Mhortiwgal, penderfynodd symud i Lundain a chafodd swydd gyda SKY TV yn yr Adran Gyfrifon. Drwy ei gysylltiadau â rygbi y cyfarfu â Naiomi ac ar ôl cyfnod, dyma'r ddau yn priodi ac yn ymsefydlu yn Llanbed. Canolbwyntio ar ei brif ddiddordeb i weithio gyda choed oedd ei nod bellach ac mi lwyddodd i gael swydd gyda Nigel yn siop Y Barn' yn Llanbed. Bu hyn yn brofiad da iddo wrth iddo ad-gynhyrchu hen gelfi. Cychwyn busnes ei hun er hynny oedd ei fwriad a dyma fynd ati i drawsnewid yr hen feudy yn Dolaugwyrddion i weithdy pwrpasol ac ymarferol ar gyfer gwneud gwaith coed o bob math yn wir y gwartheg godro yn y dyddiau a fu yn gwneud lle bellach i Gelfi Cain. Er i John baratoi Cynllun Busnes ni chafodd unrhyw gymorth ariannol wrth ymgymryd â'r gwelliannau ond bu'n rhaid iddo dalu trethi busnes am y flwyddyn gyntaf. Bellach mae'r busnes yn datblygu yn llwyddiannus iawn ac eisoes mae John wedi gwneud pedair cegin gan ddefnyddio gwahanol goed heblaw am amrywiaeth o ddodrefn yn cynnwys cist lyfrau a sawl bwrdd. Yn wir mae safon ei waith yn eithriadol o uchel ac eisoes mae wedi derbyn galwadau o Lundain yn dilyn ansawdd ei gynnyrch. Pwy a wyr na welwn ni gynnyrch Celfi Cain yn cael ei arddangos mewn siop yn Llanbed neu mewn arddangosfa yn rhai o brif ddinasoedd y byd. Heb os, mae John yn grefftwr coed hen ei ail. Yn y gweithdy mae ganddo yr holl beiriannau soffistigedig i'w gynorthwyo yn ei waith. Fi fwriad yn ystod y flwyddyn nesaf yw cyflogi person ifanc am tua dau ddiwrnod yr wythnos ar brofiad gwaith - yn wir mae galw cynyddol am ei wasanaeth ac mae ganddo ddigon o waith bellach i'w gadw yn brysur am y chwe mis nesaf. Ond, mae'n rhaid cael amser i ymlacio. Mae'n aelod o'r Ford Gron yn lleol a hefyd yn ystod yr wythnosau diwethaf; bu John yn rhedeg Marathon Llundain ac mi gododd £900 ar gyfer Ambiwlans yr Awyr' - ymdrech rhagorol er nad oedd yn gwbl hapus gyda'r amser o 4 awr 55 munud. Mae am fentro eto gan obeithio gwella ar ei berfformiad y tro nesaf! Ein dymuniadau gorau iddo a rwy'n siwr y clywir mwy i'r dyfodol am y cwmni Celfi Cain' sydd â'i wreiddiau yn ddwfn ym Mhentrebach. Ceir enghraifft o'i waith bellach ar y we, ar www.furnitureforever.com Twynog Davies
|