91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Pobl yr ardal yn pleidleisio yn erbyn datblygiad Tesco mewn cyarfod yn Llanbed.  Llun gan Tim Jones Mis Papur Newydd
Medi 2006
Colofn fisol Dylan Iorwerth yn rhifyn mis Medi o Clonc.
"Mae'n werth troi'n alltud ambell dro ..."

Mae nifer anferth o bobol ardal Llanbed newydd ddod yn ôl o Catalunya, y wlad sy'n croesi'r ffin rhwng Sbaen a Ffrainc. Y rheswm am hynny oedd ein bod ni ein tri, o Benynant, wedi mynd yno hefyd.

Lle bynnag yr oedden ni'n mynd ar ein gwyliau, roedden ni'n gweld pobol oedd yn debyg i rywrai o'r ardal gartre' - trwyn fan hyn, gwên fan draw, llygaid gan rywun arall a bola gan ambell un.

Roedd hyd yn oed ddarnau o'r wlad yn debyg hefyd - hewl trwy ganol coed yn atgoffa dyn o'r stretsh syth yna i lawr am Talsarn, a nant yn y mynyddoedd yn debyg i'r un oedd gan Ceiriog.

Dyna fyddwn ni'n ei wneud yn aml wrth deithio - adnabod pethau cyfarwydd. Mae pawb yn dweud eu bod nhw'n mynd i ffwrdd i weld pethau gwahanol ond yn gorffen trwy weld pethau tebyg.

Cofiwch, mae rhai yn gwneud hynny fwy na'i gilydd, a rhai o'r cenhedloedd mawr yn waeth na neb. Nid dim ond sylwi ar debygrwydd y maen nhw ond gwneud yn siŵr fod llefydd yn newid i fod yn debycach fyth.

Yma ac acw ar hyd glannau'r 'Med', mae yna swyddfeydd gwerthu tai sy'n arbenigo ar wasanaethu pobol o wledydd Prydain. Mae yna bapurau newydd bach wedi eu creu ar eu cyfer a chaffis a bariau'n cynnig awyrgylch Saesneg.

Mewn rhannau o Ffrainc, mae pobol leol yn anhapus am fod eu ffordd o fyw'n cael ei newid yn llwyr wrth i fwy a mwy o bobol o wledydd Prydain symud i mewn a phrynu tai ha' a thai parhaol. Mae'r trigolion lleol bellach yn cwyno fod prisiau tai'n codi, fod bywyd economaidd naturiol yr ardaloedd yn cael ei stumio a chymunedau'n marw. Mewn llefydd fel Catalunya - a Llydaw - mae ganddyn nhw'r broblem ddwbwl o ddelio efo mewnfudwyr Ffrangeg a Sbaeneg yn ogystal ag o'r gwledydd hyn.

Er mwyn trio plesio a llwyddo mewn busnes, mae pobol leol yn barod iawn i fracsan siarad Saesneg ac i gynnig yr union beth y mae'r twristiaid a'r mewnfudwyr yn chwilio amdano. A finnau, unwaith eto, yn gweld y cyfarwydd mewn lle dieithr.

Ar ddiwedd y gwyliau, do'n i ddim yn siŵr iawn a ddylwn i deimlo'n well am fod llefydd eraill yn yr un cwch â ni, neu a ddylwn i grïo am hynny.

Un peth sy'n braf am grwydro strydoedd trefi a phentrefi Ffrainc a Sbaen ydi amrywiaeth y siopau. Mae yna rai archfarchnadoedd mawr wedi agor ar gyrion un neu ddwy ohonyn nhw ond dim byd tebyg i'r frech o ddatblygiadau y tu allan i'n trefi ni. Ar wahân i'r dinasoedd mawr, does yna ddim tagfa o siopau cadwyn chwaith - gyda phob un yr un peth ac yn ddigymeriad.

O ganlyniad, mae pob canol tre' yn wahanol a hynny, yn ei dro, yn eu gwneud nhw'n werth ymweld â nhw. Ac, ym mhob tre' fach, mae yna sawl pobydd a chigydd a siop gacs a phethe o'r fath.

Cyn bo hir, fe fydd cynghorwyr Ceredigion yn gorfod ystyried pethau fel hyn wrth i Tesco geisio cael yr hawl i godi archfarchnad yma. Mi fydd y ddadl yn Llanbed yn un glasurol - rhwng y rhai sy'n dweud y bydd siop fawr yn denu pobol a'r rhai sy'n ei gweld hi yn lladd busnesau bach.

Does dim pwynt esgus ei bod hi'n ddadl hawdd - mae'r angen i gystadlu efo trefi eraill yn amlwg a pheryg wastad y bydd rhagor o bobol yn mynd i siopa yn rhywle arall.

Ond mae'r hen ddadl fod eisie'r swyddi wedi mynd - does dim angen rhagor o swyddi cyflog-isel yng Ngheredigion; yr hyn sydd ei angen ydi busnesau lleol sy'n gallu tyfu a chynnig gwaith a dyfodol.

Ac, o fy mhrofiad i ar y cyfandir, amrywiaeth sy'n denu pobol, nid yr un peth ym mhob man.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý