Mae yna wledd arbennig wedi ei threfnu ar gyfer cyngerdd agoriadol
Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan nos
Wener 29 Awst yng nghwmni artistiaid o fri sef Hogia'r Wyddfa, Eleri
Owen Edwards ac Elen Morgan.
Fel y gwyr pawb mae Hogia'r Wyddfa wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ar
hyd a lled Cymru a thu hwnt ar hyd y blynyddoedd.
Heb os dyma'r un o'r grwpiau mwyaf llwyddiannus a
phoblogaidd a sefydlwyd yng Nghymru
erioed ac maent yn dal i swyno eu
gwrandawyr.
Yn cyfeilio i'r grwp mae
Annette Bryn Parri sydd yn athrylith
ar y piano. Mae Eleri Owen Edwards
yn wreiddiol o Langernyw and wedi
ymgartrefu yn Llanymddyfri erbyn hyn
ac yn briod ag Aled Edwards.
Daeth i'r brig yn yr Eisteddfod Genedlaethol
yn yr unawd ar 9 achlysur a bu'n fuddugol mewn tair cystadleuaeth yn
Eisteddfod Pantyfedwen ychydig flynyddoedd yn ô1.
Mae yna alw mawr am ei gwasanaeth. Merch ifanc amryddawn a thalentog iawn yw Elen Morgan, cyn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi ac sydd ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio yn adran Theatr, Cerdd a'r Cyfiyngau yng Ngholeg y
Drindod.
Daeth
i'r brig mewn nifer helaeth o gystadlaethau llefaru yn ein Gwyliau Cenedlaethol
a bu'n deyrngar iawn i Eisteddfod Pantyfedwen ar hyd y blynyddoedd gan ennill nifer o wobrau.
Felly mae yna arlwy arbennig yn eich haros. Llywydd y noson yw Delor James sydd â chysylltiad teuluool agos â Rosalind a Myrddin. Dewch yn llu i fwynhau noson o ddiwylliant Gymraeg ar ei orau. Croeso
cynnes i bawb.
|