Eleni, yn ennill y brif wobr o £800 roedd Dylan Davies o Drefach ac Eilir Williams o Gwrtnewydd a'r ddau yn aelodau o G.Ff.I. Pontsian. Mae'r ddau fentrus yma wedi sefydlu cwmni gwaith coed a thoi llwyddiannus. Yn masnachu fel Williams & Davies, mae Dylan ac Eilir wedi dangos sut y gall busnes bach ehangu a magu enw heb ei ail yn yr ardal. Cyn belled, maen nhw wedi gweithio i'r awdurdod lleol yn ogystal â chwmnïau adeiladu eraill sydd am fanteisio ar eu harbenigedd. Yn siarad ar ran y pedwar beirniad, dywedodd Iestyn Pritchard, Menter a Busnes fod y gystadleuaeth eleni yn dangos ystod eang o syniadau. "Mae'n galonogol iawn fod y cystadleuwyr eleni mor frwd am gyflogi'n lleol er mwyn helpu'r busnesau i ehangu. Mae hyn yn dangos yn glir i ni pa mor bwysig yw'r busnesau bach yma i economïau lleol." Llongyfarchiadau gwresog i'r ddau ohonynt.
|