Clonc:"Pwrpas y daith oedd ymweld â Chlybiau Ffermwyr Ifanc Ulster ac i gynrychioli Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Ulster. Bu Clonc yn ddigon lwcus i glywed yr hanes gan y ddwy o'r ardal hon sef Louise (L) ac Einir (E)."
C: Sut brofiad oedd clywed eich bod wedi cael eich dewis?
L: Roeddwn wedi cynhyrfu'n lan ond roeddwn hefyd yn nerfus iawn. Ond ar ôl cael yr alwad ffôn gan Andrew Garrett fy ngwesteiwr am y bythefnos, y noson cyn i mi fynd a darganfod fy mod i'n mynd i fod yn aros gydag Einir am y bythefnos, roeddwn yn teimlo llawer gwell gan fy mod yn adnabod Einir ers dyddiau ysgol.
C: Ble oeddech yn aros?
E: Roedd Lousie a minnau yn aros gyda'n gilydd ar fferm odro ym Millisle, a Rachel ar fferm ger Portrush. Roedd cartref ein gwestai ni, Andrew Garrett, yng nghalon Ballywalter, County Down ac yng nghwmni ffermwyr ifanc bywiog a byrlymus Ballywalter y buom am gyfnod o bythefnos. Cafwyd llawer o hwyl yng nghwmni'r aelodau hyn gan ddod i adnabod eu teuluoedd a llawer o gymeriadau difyr a diddorol ar draws Ulster gyfan. Roedd y bythefnos yn un prysur dros ben a chafwyd cyfle i ymweld â nifer o fannau diddorol a hanesyddol yn Ulster a dysgu llawer am yr ardal, ei thraddodiadau a'i diwylliant.
C: Oes unrhyw droeon trwstan yn aros yn y cof?
E: I ddechrau, yn ystod ein hail ddiwrnod ym Mallywalter, torrodd car Andrew i lawr pan oeddem ar ein ffordd i weld yr arfordir 'Ards Peninsula' a bu'n rhaid i ni wthio'r car am adref. Yna'r noson honno aethom i weld gêm rygbi rhwng Ulster a Connacht a hithau'n bwrw hen wragedd a ffyn - roedd hi'n union fel bod adref yn y tywydd gwael!
C: Sut le oedd Belfast?
E: Un diwrnod sydd yn aros yn y cof yn glir yw'r diwrnod pan aethom ar daith bws awyr agored o gwmpas Belfast gan ddysgu llawer am orffennol cythryblus y dref hanesyddol hon. Roedd gweld yr holl furluniau ar waliau'r dref yn olygfa brydferth oedd yn procio'r gydwybod, ond eto roedd y murluniau yn darlunio digwyddiadau gwaedlyd ac ysgytwol yr ardal pan oedd yr IRA yn ei anterth.
L: Roedd yn ddiddorol gweld y muriau lliwgar a oedd o amgylch y ddinas, er bod yna rai lluniau a oedd yn codi dychryn arnaf. Roedd yn rhyfedd gweld y tai a'r barics sydd wedi cael eu gadael yn wag ar ôl i'r milwyr Prydeinig fynd adref yn ôl y rhaglen heddwch. Roedd yn rhyfedd hefyd mynd trwy'r gwahanol strydoedd gyda'r ffensys a'r weiren bigog, a'r cyflwynydd yn adrodd ein bod nawr yn yr adran 100% Catholig yna yn y stryd nesaf ein bod yn yr adran 100% Protestanaidd.
C: Beth adawodd yr argraff fwyaf arnoch?
L: Un o'r diwrnodau mwyaf diddorol oedd pan gawsom fynd i ymweld â Stormont sef adeilad seneddol Gogledd Iwerddon. Cawsom daith o amgylch y lle cyn cael mynd i weld y senedd yn pasio deddf a chwrdd â Dr Ian Paisley a chael ein llun wedi ei dynnu gydag ef. Roedd yn ddiddorol hefyd oherwydd roedd Stormont ar y newyddion y noson honno oherwydd bod grŵp a oedd wedi bod yn Stormont ar yr un adeg â ni wedi ceisio dod â chyllyll pum modfedd i mewn i'r adeilad.
E: Uchafbwynt y pythefnos wrth reswm oedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol pan fuom yn aros mewn gwesty chwe seren a chael croeso tywysogaidd gan weddill aelodau Ulster. Yn debyg iawn i Gyfarfod Cyffredinol Cymru roedd hi'n benwythnos hwylus gyda thema "Carry On" ar y noson gyntaf pan benderfynais i wisgo fel merch o'r jyngl. Yn ystod y swper y noson hon, bûm yn eistedd ger Gweinidog Iechyd Llywodraeth Iwerddon sef John McAlister, a fu yn dadlau â mi bod pob Cymro neu Gymraes yn dod o'r cymoedd! Fe ddysgodd lawer am Gymru a'i phobl erbyn i mi orffen siarad ag ef, credwch chi fi!
Yna yn ystod y dydd Sadwrn roedd y cyfarfod ei hunan gyda swyddogion Ulster yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth "Strictly Come Dancing" yn Dawnsio Gwyddelig. Yna i ddilyn cafwyd cinio moethus a chrand yn ystod y nos. Roedd y penwythnos hwn yn un prysur a hwylus gyda phawb yn groesawgar a chyfeillgar dros ben.
C: Sut fyddech chi'n cymharu Cymru ac Iwerddon?
L: Ar ôl cyrraedd Gogledd Iwerddon dysgais yn gyflym fod y bobl yn llawer mwy ffwrdd â hi na ni yng Nghymru. Dysgais hefyd fy mod i'n aros ar y fferm a gafodd y robot godro gyntaf yng Ngogledd Iwerddon. Roedd gweld y robot yma'n ddiddorol iawn, yn enwedig o weld faint o waith yr oedd yn arbed i'r ffermwr a pha mor rhwydd oedd y system yn gweithio. Roedd gan y teulu tua 100 o dda, ac oherwydd bod ganddynt y robot roedd ganddynt lawer mwy o amser i wneud gwaith arall oedd ei angen ar y fferm. Oherwydd hyn roedd mab y fferm yn gallu mynd i weithio gyda ffermwr arall.
E: Roedd tywydd County Down yn debyg iawn i Gymru, ond nid y tywydd yn unig oedd yn debyg ond roedd enwau rhai trefi hefyd yn debyg. Ar nifer o achlysuron mi fuom am noson allan i fwynhau lemonêd neu ddau (wir yr!!) mewn tref o'r enw Bangor. Roedd hyn yn ein hatgoffa o Gymru yn gyson. Buom hefyd mewn amgueddfa werin a thrafnidiaeth yn ystod yr wythnos gyntaf - digon tebyg i'n San Ffagan ni - gan weld holl adeiladau'r cyfnod yn ogystal â channoedd o geir, bysiau a beiciau o fewn un adeilad.
C: Unrhyw beth arall?
L: Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gefnogi a rhoi'r cyfle i ni gael y profiad gwerthfawr yma. Roedd yn brofiad hynod arbennig a byddwn yn annog pob aelod o'r Mudiad i fanteisio ar y teithiau tramor sydd yn cael eu cynnig yn flynyddol.
E: Profiad bythgofiadwy. Os gewch chi'r cyfle i fynd i'r ardal hon - ewch 'da chi!