Enw: Dyfan Evans
Oed: 24
Pentref: Harford
Gwaith: Rhedeg fferm a busnes nwyddau fferm gyda fy nhad a mam.
Partner: sengl.
Teulu: Aelwyn (Dad), Avril (Mam) a Gareth fy mrawd.
Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Sefyll gyda Mam-gu a Tad-cu. Cael fy sbwilo'n rhacs!!
Hoff raglen deledu pan oeddet yn blentyn.
Sam Tân.
Yr eiliad o'r embaras mwyaf.
Yng nghanol tafarn yn llawn o ferched a bois yn halio nhrwser i lawr!!
Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
I drin pawb fel y bydden i fy hunan ishe cal fy nhrin.
Y CD cyntaf a brynest di erioed?
Meatloaf.
Pan oeddet yn blentyn, beth oeddet eisiau bod ar ôl tyfu?
Dyn Tân.
Y peth mwyaf rhamantus a wnaeth rhywun i ti erioed?
Danfon tedi i fi ar ddiwrnod Santes Dwynwen!
Beth oedd y frawddeg bachu gorau a ddefnyddiaist erioed, neu'r frawddeg bachu a glywaist?
Are your legs tired cause you've been running through my mind all night long!! Neu, Somebody call the cops cause its got to be illegal to look that good!! Mar ddau yn gweithio'n eitha da!! Ha.
Pryd a ble wyt ti mwyaf hapus?
Mas ar nos Sadwrn efo ffrindiau!
Beth yw dy lysenw?
Mae sawl un i gael ond dwi ddim yn cytuno efo dim un!
I ba gymeriad enwog wyt ti'n debyg?
Chandler o'r rhaglen 'Friends'.
Pwy yw dy arwyr?
Scott Gibbs a Sonny Parker.
Y peth gorau am yr ardal hon?
Pawb yn barod i helpu ei gilydd pan fo angen.
Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Y Tywydd yn yr Haf!! Glaw, glaw a rhagor o law!!
Pa iaith wyt ti'n defnyddio gyntaf?
Cymraeg adref bob tro.
Pa fath o berson sy'n mynd o dan dy groen?
Person dauwynebog.
Sut fyddet ti'n gwario £10,000 mewn awr?
Prynu car.
Beth sy'n codi ofn arnat?
Colli rhywun agos.
Pryd llefaist ti ddiwethaf?
Ar ôl colli rhywun agos.
Pryd chwydaist ti ddiwethaf?
Amser Royal Welsh! Dim ishe dweud rhagor!!
Pryd est ti'n grac ddiwethaf?
Cal minor disagreement efo'r hen foi am Ba job i neud nesa siŵr o fod!
Ble oedd y lle mwyaf annisgwyl i ti ddihuno ynddo yn y bore?
Mewn fflat yn Aberystwyth rhywle a dim syniad sut cyrhaeddes i yno!!
Am beth wyt ti'n breuddwydio?
Bach o bopeth ond yn bennaf, fod yn ddyn tân yn safio bywydau.
Wyt ti'n difaru rhywbeth?
Peidio cymeryd pob siawns a chyfle a gefais yn fy mywyd.
Beth yw dy gyfrinach i gadw'n bert / i gadw'n gryf?
Chwarae rygbi bob dydd Sadwrn i gadwn gryf a gwisgo crys neis mas ar nos Sadwrn i gadw'n bert!
Beth yw dy gyfrinach i gadw'n heini?
Chwarae rygbi neu bêl-droed ar ddydd Sadwrn a rhedeg ar ôl defed!!
Beth yw'r cyngor gorau a roddwyd i ti?
I gymeryd pob cyfle!
Yr eiliad a newidiodd dy fywyd.
Yr eiliad bennes i ysgol!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Person caredig iawn.
Beth yw barn pobl eraill amdanat ti?
Maen nhw'n dweud fy mod yn ffrind da a fy mod yn un da yn dala citi ar nos Sadwrn!
Pa gar wyt ti'n gyrru?
Seat Toledo glas neu Tornado fel rwy'n ei alw e!!
Beth yw dy hoff air?
Cariad.
A'th hoff adeilad?
Y Coloseum.
Gyda phwy fyddet ti'n hoffi bod yn sownd ar ynys anghysbell?
Sarah Michelle Gellar.
Beth yw'r cludfwyd o'th ddewis?
Chinese.
Beth wyt ti'n ei ddarllen?
Dim lot ond Cambrian News a Journal bob dydd Mercher.
Beth yw dy hoff arogl?
Lasagne cartref mam.
Sut wyt ti'n ymlacio?
Joio gyda ffrindiau yn rhoi'r byd yn ei le!
Pa wefan wyt ti'n ymweld â hi fwyaf aml?
Llansawel RFC homepage.
Sawl ffrind sydd gennyt ti ar facebook?
Dros 300 pan edrychais i ddiwetha.
Hoff gân ar dy ipod?
Ffaelu fforddio ipod.
Pa raglenni sydd ar dy Sky+?
Scrum V, Match of the Day, X factor a Strictly Come Dancing!
Sawl tecst y dydd wyt ti hala?
1 neu 2. Dim lot o gwbwl
Pwy yw'r person enwocaf ar dy ffôn symudol?
Melvyn Evans - Wncwl a Raliwr o fri!!
Pa ffilm welaist ti ddiwethaf?
Hangover (un dda!)
Pa ran o dy gorff yw dy hoff ran?
Dwylo achos hebddyn nhw fydden ni ffaelu neud dim!
Heblaw'r teulu, beth fyddet ti'n achub petai'r tÅ·'n llosgi'n ulw?
Waled a ffôn!
Oes yna rywbeth na elli di ei wneud y byddet ti'n hoffi ei gyflawni'n dda?
Canu'r piano.
Beth sy'n rhoi egni i ti?
Lucozade Sport cyn chwarae gêm!
Beth sy'n rhoi ysbrydoliaeth i ti?
Gweld pobol sydd yn llai ffodus na ni yn dal i fyw bywydau llawn.
Pa gerddoriaeth yr hoffet ti yn dy angladd?
Cân 'ysbryd y nos'!
Oes bywyd ar ôl marwolaeth?
Oes, gobeithio.
Beth fyddet yn ei wneud pe na baet yn gwneud y gwaith hwn?
Dyn Tân neu falle Milfeddyg.
Ar beth y gwnest orwario arno fwyaf?
Gwyliau gyda'r bois yn Sbaen.
Pa beth wyt ti'n ei drysori fwyaf?
Teulu.
Pwy sy'n ddylanwad arnat ti?
Plant y trydydd byd.
Y gwyliau gorau?
Gwyliau i Sbaen gyda'r bois ar ôl gorffen y Chweched. Joio mas draw!
Arferion gwael?
Wastad yn dweud beth sydd ar fy meddwl cyn meddwl beth wi'n dweud!
Unrhyw dalentau cudd?
Mae rhai yn dweud fy mod yn gallu canu.
Pa bwerau arbennig fyddet ti'n hoffi eu meddu?
Y pŵer i redeg yn gyflym fel mellten! Fe dalen i ddafad yn rhwydd wedyn!!
Beth yw'r peth diwethaf wyt ti'n 'neud cyn mynd i'r gwely?
Golchi dannedd.
Ble fyddi di mewn deng mlynedd?
Mwy na thebyg fe fydda i dal yn rhedeg y busnes teuluol ac yn gweithio ar y fferm ond os fydda i'n hapus - 'na gyd sydd angen.