91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Tiimothy Evans y tu allan i Swyddfa Bost Llambed O godi pais ... i gadw Post
Mai 2007
Mae dyfodol gwasanaeth Swyddfa'r Post yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan yn y fantol. Adroddiad gan Dylan Lewis.

Cyhoeddwyd bod Swyddfa'r Post yn Stryd y Coleg yn mynd i gau a'i symud i archfarchnad Co-op ar waelod Stryd y Bont.

Mae Grŵp Gweithredu Cymunedol Llambed wedi trefnu deiseb yn erbyn y penderfyniad ac anogir pawb i'w harwyddo. Ond "Codi pais"... yw hynny yn ôl rhai gan fod y penderfyniad eisoes wedi ei wneud. Dosberthir taflenni yn y Swyddfa Bost bresennol yn hysbysu cwsmeriaid o leoliad newydd y gwasanaethau.

Mae Swyddfa'r Post wedi bod yn yr adeilad urddasol yn Stryd y Coleg ers blynyddoedd mawr, ac mae'n anodd dychmygu canol tref brysur fel Llambed heb y gwasanaeth.

Mae Swyddfa'r Post Llambed yn unigryw hefyd oherwydd y gwasanaeth personol a Chymraeg a geir gan Timothy Evans y tenor swynol, a'i staff cyfeillgar yno. Gŵyr pawb o bell ag agos am Pavarotti Llambed sy'n bostfeistr yno, ond mae'n ddiwedd cyfnod yno erbyn hyn.

Cyhoeddodd ei fod yn ymddiswyddo, a daw hynny i rym ym mis Mehefin eleni. Nid colli Swyddfa'r Post yn unig a wna Llambed ond colli lle â chymeriad hefyd.

Mae yna ymateb gymysg i'r penderfyniad - mwy o le i barcio, mynediad i'r anabl, gwasanaethau modern, oriau agor hirach ar ddydd Sadwrn a'r cyfleustra o wneud eich siopa mewn archfarchnad ar yr un pryd.

Ond ar y llaw arall, daw ymateb ffyrnig gan drigolion y dref a masnachwyr yn erbyn y penderfyniad. Teimlir fod yr archfarchnad yn rhy bell i'r henoed i gerdded yno i mo'yn eu pensiwn. Credir y bydd hyn yn lleihau nifer o bobl fydd yn siopa yn y dref hefyd, wrth iddynt brynu popeth yn yr archfarchnad wrth alw yn y Swyddfa Bost newydd.

Mae Bethan Lewis, Cadeirydd y Siambr Fasnach yn poeni yn fawr beth fydd effaith hyn ar fusnesau'r dref. Yr un yw gofid y Cyng. Dorothy Williams, Maer y dref. "Pam na ellir lleoli Swyddfa'r Post mewn siop yng nghanol tref Llambed? Mae sawl perchennog siop wedi cynnig cydweithio â Swyddfa'r Post."

Dywed llawer mai Swyddfa'r Post yw calon y dref, a thref heb galon yw tref ar ei gwely angau. Pwysleisia'r Cyng. Williams fod angen gwneud popeth er mwyn cadw'r gwasanaethau yn y canol. Gobeithia aelodau Cyngor y Dref drefnu cyfarfod â chynrychiolwyr o Swyddfa'r Post Cyf er mwyn trafod eu pryderon.

Mewn datganiad gan Swyddfa'r Post Cyf, Caerdydd dywedodd Dave Wall, y Rheolwr Cysylltiadau Allanol eu bod wedi dechrau ar gyfnod o ymgynghori ynglÅ·n ag adleoli'r gangen. Gwahoddir cwsmeriaid i ddanfon adborth am yr oriau agor newydd, trefniadau mynediad a'r cyfleusterau ar gyfer y gangen newydd.

Os oes gan gwsmeriaid unrhyw faterion y dymunant i Swyddfa'r Post ystyried ynglŷn â'r gwasanaeth yn y gangen newydd dylent gysylltu â: Kathryn Alexander, d/o Tîm Ymgynghori Cenedlaethol, Blwch Post 2060, Watford WD18 8ZW.

Ond pam na chafodd y cyhoedd y cyfle i ddweud eu barn cyn i'r penderfyniad cael ei wneud? Pam na chysylltodd Swyddfa'r Post â'r cyhoedd drwy bapur fel Clonc er mwyn cael ymateb? Pam na all Swyddfa'r Post weithredu er lles y gymuned a ffyniant lleol, yn hytrach na gweithredu oherwydd eu budd masnachol eu hunain? Dywed Swyddfa'r Post ei bod am sicrhau bod cynnyrch a gwasanaeth Swyddfa'r Post yn ddiogel yn y dref, ond a ydynt yn sylweddoli beth all y penderfyniad hyn wneud i'r economi lleol?

Dylan Lewis


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý