Ar ôl treulio dwy flynedd yn astudio yn y Coleg Amaeth yn Aberystwyth (WAC) a threulio cyfnod yn gweithio allan yn Seland Newydd, penderfynodd Dafydd ddychwelyd adref i ffarm y teulu yn Ffynnonfair.
Yn dilyn yr argyfwng yn y diwydiant llaeth, sylweddolodd fod yn rhaid chwilio am gyfeiriad newydd ac yn 2004, dyma sefydlu busnes i drin traed gwartheg godro a sugno.
Ond nid pawb sydd yn medru gwneud y gwaith yma. Rhaid oedd mynd am wythnos o hyfforddiant o dan arolygaeth mil feddygon yng Nghaer. Roedd yno hefyd arbenigwr o'r Iseldiroedd i hyfforddi y bechgyn ifanc a oedd am fentro i'r maes yma. Cychwynnodd y busnes drwy fuddsoddi mewn 'pick up' a 'crush' ail law.
Erbyn hyn, mae'r busnes wedi ehangu yn sylweddol ac y mae ganddo nifer fawr o ffermydd ar y llyfrau yn y tair sir, Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin. Bydd yn ymweld â rhai o ffermydd mwyaf Sir Benfro sydd yn godro dros dri chant o wartheg bob mis ac eraill bob chwe wythnos yn dibynnu ar y galw. Erbyn hyn, mae Dafydd wedi prynu 'crush' newydd ac y mae'r buddsoddiad yma wedi hwyluso'r gwaith yn fawr iawn. Bellach, mae modd trin nifer dda o wartheg mewn diwrnod. Ar y pen wythnos, bydd yn helpu adref ac yn edrych ar ôl y 200 o ddefaid magu sydd ganddo yn pori yn Aberdauddwr. Sioned ei gariad sydd yn athrawes sydd â chyfrifoldeb edrych ar ôl y llyfrau.
Gan fod ffermwyr llaeth bellach wedi cynyddu nifer y gwartheg yn sylweddol a chan fod llai o weithwyr ar ein ffermydd, mae cyfraniad Dafydd i'r diwydiant yn un sylweddol a phwysig. Mae yn gweithio yn galed ac y mae'r diwrnod gwaith yn aml yn ymestyn o 7 o'r gloch yn y bore tan tua 8 - 9 o'r gloch y nos. Er hynny, mae wrth ei fodd gyda'r gwaith ac yn mwynhau cyfarfod cymeriadau diddorol ar ein ffermydd. Mae ei ddyddiadur eisoes yn llawn am fisoedd Tachwedd a Rhagfyr ac y mae galw cynyddol am ei wasanaeth.
Uchelgais ei fywyd yn naturiol yw cael fferm ei hunan mewn blynyddoedd i ddod ond ar hyn o bryd, mae'n barod i weithio yn galed er mwyn cael digon o gyfalaf i wireddu ei freuddwyd. Mae'r gŵr ifanc, brwdfrydig a hoffus yma yn haeddu bob llwyddiant a ddaw i'w ran.
Gan Twynog Davies
|