Roedd ysgolion preifat yn cael eu cynnal gan bobl ddysgedig yn eu cartrefi, ac felly yr oedd hi yn Llanfair. I fechgyn yr oedd yr ysgolion yma ran amlaf ond er hynny cafodd ysgol i ferched ei hagor yn Offis Fach yn 1840, gan Saesnes o'r enw Miss Pierce. Cynhaliwyd ysgol hefyd yn y Plas, (bwthyn ger Gwarffordd) gydag Evan Davies yn 1848; D.S.Davies yn Tynfron a Troedybryn yn 1854/55, John Evans yn Gwarffordd o 1860 -1870, a Beni Bach yn Tynewydd yn 1860.
Dechreuodd William Jones ysgol yn Ysgoldy'r Mynydd yn 1863 a fe agorodd yr Ysgol Fwrdd yn 1877,a bod yn brifathro yno am y chwe mis cyntaf. Prif Athrawon yr ysgol o hynny ymlaen oedd Roland Pritchard o Sir Fôn, 1877 - 78; Daniel Jenkins (Llanycrwys wedyn) 1878 - 97; D.R.Cleaton-Davies 1897 - 99; R.Satchwill 1899 -1901, Hugh Jones o Gaernarfon 1901 -1917; Miss M.J.Thomas o Lambed 1917 -1935; Jack Poole 1935 - 43; Miss Eiddwen James 1943 -1975 a Mrs Jean Davies 1975 - 76. Caewyd yr ysgol yn 1976, blwyddyn yn unig cyn y byddai wedi dathlu ei chanmlwyddiant.
Yn ystod gwanwyn 2003 fe benderfynodd grwp o gyn ddisgyblion brwdfrydig ysgol Llanfair drefnu aduniad i'r ysgol. Fe etholwyd John Green, Nantgwyn, yn cadeirydd ac o dan ei arweiniad fe aethant ati i gasglu gwybodaeth. Rhoddwyd y gwaith o ymchwilio enwau'r cyn-ddisgyblion yn nwylo medrus Iris Quan, Blaencwm a Gwyneth Jones, Noyadd. Aethant i'r Archifdy yn Aberystwyth a phori drwy'r hen gofrestrau, ac wedi oriau o chwilio, tynnwyd restr o'r cyn- ddisgyblion oedd yn dal yn fyw. Hyn oedd y cam cyntaf.
Fe benderfynodd y pwyllgor wneud mwgiau gyda llun yr ysgol a'r dyddiadau arnynt. Fe roddwyd y gwaith hyn i Aerwen Griffiths, Pengarn. Crochendy Felingwm a fu'n gyfrifol am wneud y mygiau.
Y dasg fwyaf oedd chwilio am gyfeiriadau newydd yr holl enwau ar y rhestr, ac ar ôl wythnosau o chwilio fe ddanfonwyd llythyr dwyieithog allan yn gwahodd pawb i ginio yn y Talbot, Tregaron nos Sadwrn Hydref 18fed ac i gymanfa ganu ar y dydd Sul. Roedd yr ymateb i'r gwahoddiad yn arbennig, ac ar nos Sadwrn, Hydref 18fed daeth cant a deugain i Ginio'r Dathlu yn y Talbot. O'r funud gyntaf roedd yn amlwg fod y noson yn mynd i fod yn un bythgofiadwy gyda phawb yn darganfod hen ffrindiau, sgwrsio, chwerthin a phori dros yr hen luniau yn yr arddangosfa.
Cyn eistedd i fwyta fe groesawodd John Green pawb i'r aduniad a soniodd yn enwedig am un person oedd wedi teithio o Sbaen i fod gyda ni. Gwnaethpwyd Cacen y Dathlu gan Iris Quan, Blaencwm. Pleser oedd ei gweld wedi ei haddurno mor brydferth gyda model o'r ysgol ar ei phen. Torrwyd y gacen gan un o'r rhai hynaf sef Eiddwen Weekes Pentrelan, a'r ifancaf, sef Dilys Evans, Nant y Medd. Roedd pawb yn cytuno ei bod yn flasus dros ben.
Yn oriau mân y bore daeth y bws i gasglu'r rhai oedd wedi aros hyd y diwedd. Diolch i bawb a helpodd i drefnu noson fythgofiadwy ac i bawb a gyfrannodd anrhegion i'r raffl.
Ar brynhawn Sul, Hydref 19fed cynhaliwyd Cymanfa Ganu'r Dathlu. Da oedd gweld Capel Mair bron yn llawn i gydganu dewisiad da o emynau oedd yn adnabyddus i bawb, yn Gymraeg a Saesneg. Ian Evans, Esgairman oedd yn gofalu am drefn y gwasanaeth, ac estynnodd groeso i'r Canon Aled Williams a gymerodd at y rhannau arweiniol.
Mrs Elonwy Davies, Llanybydder oedd yr arweinyddes gyda Mr Brian Jones wrth yr organ. Mae Elonwy â chysylltiad â'r ysgol trwy ei thad, a fu'n byw yn Pen Cnwc ac yn ddisgybl yn yr ysgol. Yn ystod y gwasanaeth cawsom wledd o ganu, ac mae'n rhaid dweud nad oedd Capel Mair wedi clywed canu o'i fath ers blynyddoedd. Rydym yn ddiolchgar dros ben i Elonwy a Brian am wneud y gymanfa yn un mor llwyddiannus. Mwynhawyd cyfraniad plant Ysgol y Dderi yn fawr iawn, adroddodd Charlotte Evans ddarn o farddoniaeth o waith y diweddarEiddwen James; cafwyd eitemau gan y côr a bu Gemma a Lowri yn chwarae offerynnau. Diolch iddynt ac i Mrs Alwena Williams a fun eu hyfforddi.
Mrs Aerwen Griffths, Pengarn oedd y llywydd ac ar ôl siarad yn fyr am ei hatgofion a'i theimladau tuag at yr ysgol, fe aeth ymlaen i ddarllen darn o farddoniaeth oedd hi wedi ysgrifennu ar gyfer yr achlysur.
Atgofion
Mewn mwyniant
ar ochor mynydd
yng nghysgod y cod,
cefais fynd i'r ysgol
yn bedair od.
Cofiaf y ffawydd
eu dail yn fy nallu
gyda'u lliwiau llachar,
a'r wiwer goch
yn dangos ei doniau
wrth ddringo
a chuddio ei chnau.
Mynd ar ben beic
mewn sêt y tu ôl,
bod yno cyn naw,
sai'n cofio dim glaw,
glas oedd y nen
a heulog yr hin.
Dechrau yr ysgol
a chydio mewn llaw,
llythrennau i'w dysgu,
hwiangerddi i'w canu;
dysgu darllen, dysgu rhifo,
doedd dim amser i freuddwydio;
mas ir iard i chwarae cwato,
mewn i'r porch i olchi dwylo;
scipio, - miwn a mas o'r canol,
chwarae pêl ar wal yr ysgol;
dysgu table byth a beunydd,
llunio blode fel arlunydd.
Ysgrifennu rhwng llinelle,
pen ag inc a heb cael blote;
dysgu adrodd, dysgu canu
ac enjoyo y barddoni
sgwennu stori hunangofiant
am hen garreg ai diwylliant;
dysgu gwau a dysgu gwinio,
helar bechgyn mas i arddio;
mynd am dro dros ffridd a ffos,
casglu llysiau ar y rhos,
mwyar duon mewn poteli, -
torri nghlun yn dost a wnes i-
craith yn aros na hyd heddi.
Disgwyl tywydd oer y gaeaf,
sbeshal trit i'r plant oedd hynaf-
lawr y rwrgi yn yr eira
ar y sledj ac ar ein bola,
at y garreg o oes yr iâ
a llaw o Rufain wedi cerfio'r cop,
yna scêto ar y pwllyn
ambell waith pob un yn sopyn;
cloch yn canu, nô1 i sychu
flan y tân, a phawb yn crynu.
Bwyd i'n twymo, cawl mor flasus
Mrs Williams mor gysurus,
esgus byta'r pys a gronan
i'r ty bach a'u poeri allan;
Tynnu côs a byth ddiflaster
hi'n ein sbwylio ni bob amser.
Cerdded adre gyda ffrindie
hela mefus yn y cloddie
car i'n cario ar amsere
car fy main, a'i gofal hithe.
Athrawes a'i thalentau di-ri
hi yn unig Win dysgodd i,
ei hysbrydoliaeth ddaeth
a'u ddawn a'u dysg
i ddeffro'r dychymyg
- dyma addysg.
Cofio byd sy'n lliwio'n bod.
Gwnaed y diolchiadau gan Mr David Evans, Riverside Cottage a cyflwynwyd basgedaid o flodau ir llywydd gan Rebecca Miller a blodyn i'w phriod gan Ffion Quan. Derbyniodd Mrs Ann Davies, Prifathrawes Ysgol y Dderi fwg i'r ysgol i atgoffa'r plant am y digwyddiad. Cyflwynwyd mygiau hefyd i Mrs Elonwy Davies ac i Lynda Cadman gan Mathew Miller.
Ar ôl y canu gwych cerddwyd dros y bont i Neuadd y Pentref lle cafwyd gwledd wedi'i pharatoi gan y merched - cyn-ddisgyblion a ffrindiau. Diolch yn arbennig i Eleri Davies, Pentre, am ei gwaith yn helpu ac yn trefnu a sicrhau y cyfan oedd eu hangen wrth baratoi'r arlwy. Wedi'r bwyd, cerddodd llawer i fyny i'r ysgol ar y bryn, llawer heb fod yno ers iddynt adael yr ysgol. Mae'r adeilad nawr yn gartref prydferth i Lynda a Tony Cadman a'u teulu, a rhaid diolch yn gynnes iddynt am fod mor garedig ac agor eu cartref i lu o gyn-ddisgyblion a rhoi cyfle iddynt ddwyn atgofion am yr amser a fu.
Dan ac Aerwen Griffiths