91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Dynion tân Llambed Miloedd yn fwy i Blant Mewn Angen
Rhagfyr 2003
Bu pobl Llambed a'r cyffiniau yn eithriadol o hael eto eleni ac wrth i Clonc fynd i'r wasg roedd Betty a Goronwy Evans wrth eu bodd yn cyhoeddi fod 'na filoedd yn rhagor yn y coffrau eleni na'r un adeg llynedd.

"Yr adeg 'ma llynedd oedd 'da ni £15,000, eleni mae'r swm dros £22,000. Mae hynna'n gynnydd aruthrol ac yn rhywbeth i ni fod yn wirioneddol falch ohono," meddai. "Ond dyw hi ddim yn rhy hwyr - croeso i bobl ddod â'u cyfraniadau draw i'r Mans unrhyw bryd."

Y Frigâd Dan

Efallai eich bod wedi cael eich stopio gan ddynion tân Llambed ger archfarchnad y Co-op ar nos Wener 21ain Tachwedd. Na nid eich bod yn goryrru, ond gan fod y dynion tân yn casglu arian tuag at Apêl Plant Mewn Angen y 91Èȱ¬. Bu'r dynion tân yn brysur iawn rhwng 4 a 6 o'r gloch a llwyddwyd i gasglu swm anrhydeddus o £1078.54. Cyflwynwyd y siec i'r Parchedig Goronwy Evans, a hoffai dynion tân Llambed ddiolch i bawb a fu mor barod i gyfrannu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý