Roedd cynrychiolaeth gref o dalgylch Clonc a dwy wedi dod o ardal Caerdydd! Roedd y tywydd yn braf a chlir ar waetha'r arbenigwyr tywydd a oedd wedi darogan eira mawr ychydig ddyddiau ynghynt. Ieuan Roberts oedd yr arweinydd am y dydd ac ar ôl rhoi croeso i bawb awgrymodd mai taith i naturiaethau fyddai hon gan ddwyn sylw arbennig at y mwsoglau a'r cen gan fod rhain yn dipyn mwy amlwg yn y Gaeaf. Ar y pryd twmpath mawr o frigau yn uchel yn un o'r coed llarwydd - ysgubell y wrach y llarwydd oedd hwn a achosir, fel ysgubell y wrach y fedwen, gan sefydlu ei hun ar un blagur a hwnnw'n peri i'r blagur dyfu'n ddireolaeth.
Dechreuwyd cerdded ar hyd yr heol i gyfeiriad Maestroyddyn Fawr gan sylwi ar y pluddailfwsogl yn gorchuddio rhisgl y coed a'r ffwng clust yr Iddew yn tyfu ar goeden ysgawen. Ar y groesffordd, troi i'r chwith a cherdded hyd y llwybr ceffyl heibio Maesdu cyn dod at y clawdd o goed ffawydd ble roedd sawl math o gen diddorol yn cynnwys clustiau'r ddaear, cen cwpan doli a chen rheilffordd. Caiff yr enw hwnnw gan ei fod yn tyfu ar ffurf llwyn yn debyg iawn i goed bach ac fe'i defnyddir ar ôl ei sychu i gynrychioli coed mewn modelau o reilffordd!
Ymhen tua chwarter milltir roeddem wedi cerdded ymhell iawn gan ein bod yn edrych i lawr ar fferm Llundain ac ardal Esgairdawe yn gefndir iddo. Uwch fferm Pyllau, troi i'r chwith ar y llwybr troed heibio Keeper's Lodge ac yna cadw i gyfeiriad Cwm Einon Fawr. Ar y ffordd, gweld y mwsogl cyffredin iawn sef mwsogl rhedynaidd y coed ac yna lwmpyn crwn caled a achosodd gryn benbleth i rai cyn i'r milfeddyg ddatgelu mai pen bwlyn cymal y glun oedd unwaith yn perthyn i eidion oedd hwn. Arhoswyd i gael cinio ger coeden dderw fawr a sylwi ar y fforchfwsogl yn tyfu arni a chael llun da o'r criw i gyd. Wrth groesi'r afon ger Cwm Einon Fawr gwelsom y ffwng, cwpan robin goch gyda'i gwpanau coch lliwgar. A oedd hwn tybed yn argoel ganlyniad da yn y rygbi yn nes ymlaen?
Yng Nghwm Fawr Einion Fawr cymerwyd y llwybr i gyfeiriad Coed y Gof ac yna Pistyll Gwyn Bach. Ar risgl coed celyn ar y llwybr i'r Berllan Dywyll gwelwyd sawl enghraifft dda o'r cen ysgrifen y bwgan a chen cefnwyn y coed ar frigau coed derw. Wrth gerdded hyd y ffordd yn ôl i'r ceir buom yn cymharu llawredyn y fagwyr a gwib redyn a oedd yn tyfu yn y clawdd.
Cyrraedd yn ôl i'r ceir cyn i'r glaw ddechrau, taith o bedair milltir a thri chwarter, am hanner awr wedi dau a rhoi cyfle i bawb gyrraedd adref i weld Cymru yn trechu Lloegr ac felly gwireddu argoelion y cwpan robin goch!
Ieuan H Roberts
|