Slawer dydd, roedd plwyfi'n gyfrifol am eu ffyrdd a'u priffyrdd eu hunain, hynny oedd yna i'w cael.
Os ydw i'n deall yn iawn, yn y dyddiau cyn tarmac, pobol leol a fyddai'n trefnu i lenwi tyllau a cheisio gwella ambell i bont.
Ac mi fyddai ambell dirfeddiannwr neu ddyn busnes weithiau yn talu am greu ffordd newydd, er mwyn hwyluso eu teithio a'u masnach.
O weld yr eira mawr ddechrau mis Ionawr, efallai ei bod yn bryd i ni feddwl am drefn debyg eto.
Does yna fawr o help i'w gael o unman arall.
Oherwydd prinder arian - a halen - doedd y rhan fwya' o gynghorau sir Cymru ddim yn gallu gwneud mwy na chlirio'r ffyrdd mawr a gadael y gweddill i'r elfennau.
Felly yr oedd hi yn ardal Clonc wrth gwrs - yn y ddwy sir - a rhai strydoedd, ffyrdd cefn a stadau wedi bod dan drwch o eira a rhew am bythefnos fwy neu lai.
Mae'n amlwg na fedr yr awdurdodau cyhoeddus ddim gwario arian i baratoi at aeafau caled sy'n dod bob rhyw 30 mlynedd, ond mi fyddai'n ddiddorol gwybod faint o arian a gafodd ei golli oherwydd bod pawb yn styc.
Athrawon
Wedi'r cyfan, mewn ceir bach cyffredin fel sydd gan y rhan fwya' ohonon ni, does dim llawer o bwynt clirio priffordd, os na fedrwch chi ei chyrraedd hi.
A faint o rieni oedd wedi gorfod aros o'r gwaith oherwydd bod y plant gartre' hefyd?
Yn ogystal â bod yn ofnadwy o beryglus, roedd cerdded strydoedd Llanbed yn brofiad rhyfedd yn ystod yr oerfel mawr.
Dim ond un neu ddau o bobol yma ac acw yn rhynnu ar y corneli, a'r siopau bron yn wag.
Yr unig eithriad oedd bod rhai o'r archfarchnadoedd wedi gwneud ffortiwn yn gwerthu stwff diangen i bobol mewn panic gwyllt.
A dyna gwestiwn arall - beth mae pawb am ei wneud gyda'r holl fara wedi rhewi a'r mynyddoedd o bapur toilet?
Ynghanol oes yr iechyd a diogelwch, pan nad ydi ffarmwr yn cael yfed ei laeth ei hun na'r un ris yn cael bod heb ganllaw, roedd ein ffyrdd a'n palmentydd yn cael eu gadael fel cylchoedd sglefrio.
Os maddeuwch chi'r defnydd o eiriau, mae angen ateb slic.
Felly pam na all pob cymuned ddechrau cyflogi un neu ddau o ffermwyr neu yrwyr JCB lleol i fod ar gael bob gaea' i glirio os bydd angen?
A chael cronfa halen i bob pentre', wedi'i phrynu i mewn ar y cyd gyda'r shop chips leol.
Arian
A dweud y gwir, mae yna lot o sgôp yn y syniad. Os oes pobol ddierth yn mynd yn styc yn eich ardal chi, mi allech chi godi crocbris am eu tynnu nhw allan - a dyna help i dalu'r cyflogau.
Wedyn, ar rywle fel rhiw Llanwnnen neu Lanwenog, bob tro y byddai peryg o rew, mi allech chi fynd yno gyda thancer o ddŵr i chwistrellu'r ffordd yn iawn, er mwyn gwneud rhagor o arian maes o law.
Mwya'r rhew, mwya'r elw, fel y dywed yr hen ddihareb.
Yn union fel yr oedd y gwÅ·r mawr yn talu am ffyrdd erstalwm, efallai y byddai'r archfarchnadoedd mawr a'u tebyg yn gweld gwerth mewn talu i glirio'r eira a'r rhew er mwyn i'r nwyddau gyrraedd y siopau.
Sainsbury's yn noddi'r gaeaf.
Ac mae'n siŵr y byddai rhai plant ysgol yn dod at ei gilydd a rhoi eu holl arian poced mewn cronfa i dalu i'r clirwyr eira gadw draw.
Mae arian i'w wneud ym mhob ffordd y gallwch chi feddwl.
Dim ond tri pheth sy'n hollol sicr.
Petaech chi'n creu trefn fel hyn, fyddai hi ddim yn bwrw eira am flynyddoedd; fe fyddai rhywrai'n sicr o gwyno nad yw'r gwasanaeth yn ddigon da ac, yn ola', fyddai'r sefyllfa ddim gwirionach nag yr yw hi heddiw.