Wedi i fi weld y paratoi a'r newidiadau yn y siopau yn y dref a bod allan gyda phlant ysgol Ffynnonbedr yn gwylio rhan o ffilmio golygfa'r glaw ar y stryd pnawn dydd Mawrth, roeddwn yn teimlo'n gyffrous iawn.
Roeddwn i eisiau cyfarfod â sêr y ffilm sef Matthew Rhys, Sienna Miller a Keira Knightley.
Roeddwn wedi gweld Matthew Rhys yn siarad ar S4C o'r blaen ac roedd Keira yn y ffilm Pirates of the Carribean ac roedd lluniau o Sienna yn rhai o gylchgronau mam . Ar ôl swper nos Fawrth, fe boenais i mam a dad nes eu bod yn mynd â fi i'r dref i wylio diwedd y ffilmio yn y gobaith y byddwn ni'n cael llofnod a llun o rai o'r prif actorion.
Fe arhoson ni am dros awr a hanner y tu allan i'r Llew Du a symud weithiau i gefn Somerfield. Gorffennodd y ffilmio a daeth tri char gyda ffenestri tywyll i'r golwg a pharcio y tu allan i neuadd y dref.
Gofynnais i'r dyn diogelwch a gallen ni groesi'r ffordd i gael llofnod ond nid oedd neb yn cael gwneud hyn ond dywedodd wrthyf am weiddi ar yr actorion ac efallai y byddent yn croesi'r heol atom ni. Sienna daeth allan gyntaf a mynd am ei char.
Dechreuodd mam a fi a'r dorf i alw arni i ddod draw ac wedi pendroni am ychydig fe redodd gan ddweud "Okay then just a few minutes" Fy llyfr i arwyddodd hi gyntaf a defnyddiodd hi fy meiro i arwyddo rhai llofnodion eraill. Llwyddodd mam i dynnu llun ohoni cyn iddi redeg yn ôl i'w char. Roedd hi'n edrych yn bert iawn a lot o golur ar ei hwyneb.
Nesaf daeth Matthew Rhys ac wedi i bawb alw arno yn Gymraeg fe ddaeth draw ac arwyddo sawl llofnod a thynnu lluniau gydag amryw ohonom ni. Roedd e'n grêt ac yn siaradus iawn yn dweud ei fod wedi cael diwrnod hir yn ffilmio. Yn anffodus y tro yma fe aeth Keira allan trwy gefn Somerfield ond roeddwn ni wrth fy modd i gael llofnod dau allan o dri o'r sêr enwog.
Tomos Rhys, Cwmann
Dau ddiwrnod ym mywyd Film Extra gan Jen Cairns
|