Actor enwog o Gymru sy'n prysur wneud enw iddo'i hun yn Hollywood.
Cafodd ei fagu yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Fe ymunodd â Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru pan oedd yn 16 oed a dwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1993, fe symudodd i Lundain i ddilyn cwrs actio yn RADA. Roedd yn llwyddiannus hyd yn oed cyn iddo raddio gan gymryd egwyl o'r coleg er mwyn actio yn y ffilm House of America a'r gyfres deledu Backup.
Fe ddychwelodd i Gaerdydd yn 1998 er mwyn actio yn y ffilm Bydd yn Wrol. Fe enillodd y ffilm y teitl 'Ffilm Orau' yn BAFTA Cymru ac enillodd Matthew y teitl o 'Actor Gorau'. Fe deithiodd i Seland Newydd i actio yn Green Stone ac i Rufain yn 1998 i chwarae rhan Demetrius yn y fersiwn ffilm o'r ddrama Titus Andronicus gan Shakespeare. Yn bell oddi cartref, ei gyd-actor oedd Cymro arall, Sir Anthony Hopkins.
Erbyn hyn, mae e'n hynod o brofiadol ac mae ganddo restr hir o ffilmiau i'w enw; Fakers (2004), Deathwatch (2002), The Abduction Club (2001), Peaches (2000), Shooters (2000) a Sorted (2000).
Ymysg y pentwr llwyddiannus o ffilmiau hyn, fe gymrodd ran hefyd yn y ffilm animeiddiedig Y Mabinogi sef addasiad o chwedlau mwyaf diwylliannol Cymru. Ef oedd llais y cymeriad Lleu. Fe actiodd hefyd yn y ffilm Dal Yma/Nawr (2004), sef ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer S4C sydd yn cynnig gwedd newydd ar draddodiad barddol hynaf Ewrop. Ymhlith yr actorion eraill yn y ffilm hon mae Rhys Ifans, Ioan Gruffudd a Siân Phillips.
Nid yw Matthew Rhys yn ddiarth i'r theatr ychwaith, fe actiodd ochr yn ochr â Kathleen Turner yn The Graduate y cynhyrchiad cyntaf erioed o'r ddrama. Yn sicr yn gyfarwydd â'r West-End, mae o hefyd yn gyfarwydd â llwyfan cwmni RSC (Royal Shakespeare Company) ac mae o wedi chwarae rhannau Brenin Lear a Romeo.
Yn fwy diweddar, i nodi hanner canmlwyddiant ers marwolaeth Dylan Thomas, perfformiodd Matthew Rhys fel Llais Cyntaf yn y ddrama Under Milk Wood yn 2003, gan berfformio yn Abertawe - tref enedigol Dylan Thomas ac yn y New Theatre yng Nghaerdydd - yn y ddinas lle magwyd Matthew. Yn eironig, mae'n ddrama a chafodd ei phoblogeiddio gan Gymro arall, Richard Burton.
Roedd Matthew Rhys yn rhan o agoriad swyddogol Gwersyll newydd yr Urdd yng Nhanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd yn Nhachwedd 2004 gyda Bryn Terfel. I ddarllen mwy am hyn ac i edrych ar y lluniau - cliciwch yma.
Ym mis Mai 2007, roedd Matthew Rhys yn ffilmio The Edge of Love, y ffilm lle mae'n chwarae rhan y bardd Dylan Thomas. Bu ef a'r ddwy actores Keira Knightley a Sienna Miller yn ffilmio ar leoliad yng Nghei Newydd a Thalacharn, yng ngorllewin Cymru a bu sibrydion yn y wasg a'r cyfryngau bod Matthew Rhys a Sienna Miller yn cael perthynas.
Cliciwch i weld lluniau'r actorion yng Ngheredigion.
Rhyddhawyd y ffilm hon yn y sinemau ar draws y Deyrnas Unedig ym Mehefin 2008.
Darllenwch adolygiad o'r ffilm
Holi Matthew Rhys
Mae Matthew Rhys yn parhau i wneud enw iddo'i hun yn Los Angeles ac wedi sicrhau rhan yn actio ochr wrth ochr ag actorion mawr Hollywood fel Calista Flockhart a Rachel Griffiths mewn cyfres newydd Brothers and Sisters sydd ar y sgrin fach yn y Deyrnas Unedig.
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Awst 2008, cafodd yr actor ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd i'r wisg wen. Cliciwch i ddarllen rhagor am y stori hon.