Wedi diwrnod hir o deithio, cyrhaeddom y gwesty yn Lille yn ddiogel. Treuliwyd dydd Sadwrn yng Ngwlad Belg. Yn gyntaf, buom yn ymweld ag Amgueddfa 'Flanders Field' cyn symud ymlaen i weld bedd y Prif fardd Hedd Wyn. Ar ôl picnic yn yr haul aethom i ymweld â mynwent Tyne Cot sef y fynwent Brydeinig fwyaf o'i fath a oedd yn coffau'r milwyr a fu farw tra'n amddiffyn yr 'Ypres Salient'. Aethom ymlaen i ymweld hefyd â mynwent Almaenaidd sef Langemark, mynwent anghyffredin gan nad oes llawer i'w cael yng Ngwlad Belg na Ffrainc.
Cafodd y disgyblion wir brofiad o'r ffosydd yn Hill 62. Yma mae rhan o'r ffosydd wedi cael eu cadw mor debyg â phosib fel yr oedd hi adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelsom i Ypres i gael swper ac i weld seremoni emosiynol ger cofgolofn Menin Gate, Ypres lle chwaraeir y 'Last Post' i gofio am y milwyr colledig bob nos. Treuliwyd dydd Sul o amgylch ardal y Somme yn Ffrainc. Buom yn ymweld ag Amgueddfa y Rhyfel Mawr yn Peron a hefyd cofgolofn drawiadol Thiepval. Treuliwyd y prynhawn ym Mharc Coffa Beaumont Hamel, sy'n cofio am ymdrechion milwyr o Newfoundland, Canada yn yr ymladd ffyrnig. Cawsom ein tywys gan fyfyrwyr o Ganada a chafwyd cyfle gwych i flasu hanes y rhyfel gan fod y disgyblion wedi cael cyfle i gerdded drwy'r ffosydd ' o linell flaen y Cynghreiriaid dros dir neb a draw at ffosydd yr Almaenwyr. I ddiweddu'r gweithgareddau hanesyddol, buom yn ymweld â choedwig Mametz. Yma yn ystod y rhyfel bu milwyr Cymreig yn ymladd er mwyn cipio'r goedwig o feddiant yr Almaenwyr. Braint oedd ymweld â chofgolofn y Ddraig Goch sy'n coffau ymdrech a llwyddiant y Cymry. Yn wir, cafwyd taith brysur a llwyddiannus. Dychwelsom nos Lun, 14eg o Fehefin, ar ôl cael cyfle i siopa yn Bologne a phawb wedi blino ond wedi mwynhau. Diolch yn fawr i Mrs Margaret Williams am drefnu taith lwyddiannus arall.
|