91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Llifogydd Llambed, llun gan Tim James Neges yn y glaw
Gorffennaf 2007
Colofn fisol Dylan Iorwerth 'Mis y Papur Newydd' ym mhapur bro Clonc.

Edrych trwy'r ffenest y swyddfa yr o'n i ... a, chyn i chi ddweud, dydw i ddim yn gwneud hynny fel arfer. Ond, y diwrnod arbennig hwnnw, roedd hi'n anodd peidio.

Roedd hi'n bwrw fel na fuodd hi erioed yn bwrw o'r blaen. Tresio bwrw, fel y baswn i'n dweud yn y Gogledd ... er bod gair arall yn addas hefyd. Roedd curo'r diferion ar y to yn ei gwneud hi'n anodd gweithio a phistyll swnllyd o ddŵr yn rhaeadru o'r cafnau ar y to.

Roedd hi'n bwrw fel y bydd hi yn yr hen ffilmiau 'horror' yna slawer dydd ... a ninnau'n arfer chwerthin a dweud fod glaw fel yna'n gwbl amhosib. Ond mae'n bosib, ac mae wedi cyrraedd Llanbed.

Afon oedd y tu allan i'r ffenest. Ffordd sydd yno fel arfer. Ac roedden ni wedi gwylio'r draen wrth y swyddfa'n llenwi. Am gyfnod, roedd yn llyncu'r llif ac, wedyn, o fewn ychydig eiliadau, roeddech chi'n gweld y dŵr yn codi o dan y gril ac yna'n llifo trosto.

Yn ôl ymholiadau gan ohebwyr Golwg, doedd y rhybudd llifogydd sydd yn Llanbed ddim wedi gweithio, a hynny am reswm syml. Roedd y glaw wedi dod yn rhy gyflym a rhy chwyrn. Rhybuddio am lefel dŵr mewn afonydd y mae'r system, ond doedd y cenlli mawr ddim wedi cyrraedd y rheiny. Codi pais ar ôl bechingalw oedd hi yn achos y dechnoleg soffistigedig.

Dyma'r arwydd cliria' i ni fod yr hinsawdd yn newid. O edrych ar y misoedd diwetha' mae'n dechrau edrych fel ein bod ni'n cael tymhorau gwlyb a thymhorau sych, bron fel gwledydd trofannol. Glaw trofannol oedd yn Llanbed y diwrnod o'r blaen. Dim ond yn ne'r Eidal y gwelais i ddim byd tebyg. Nid glaw bywiol oedd hwn, ond glaw sy'n dinistrio cnydau a bywydau hefyd.

Dyna pam fod angen meddwl ddwywaith a thair cyn credu'r bobol sy'n dweud y bydd cynhesu'r ddaear yn arwain at dywydd braf ... y bydd Cei Newydd fel Cannes ac Aberaeron fel Abu Dhabi.

Ac roedd yna neges yn y draeniau hefyd. Mi fyddai angen gwario ffortiwn ar greu draeniau sy'n ddigon mawr i dderbyn dŵr o'r fath ac, o wneud, mae'n siŵr y byddai glaw gwaeth fyth yn dilyn.

Yr unig ateb yn y pen draw ydi trio atal y newid, neu, o leia' ei arafu. Wrth i'r glaw guro ar do'r swyddfa a'r ffenestri, dyna oedd y neges ... fel morse code y tywydd.

Dw i wedi bod yn llygadu'r botel sauerkraut ers tro. Mi fydd rhaid mentro cyn bo hir. Ac mae yna stori fawr yn hynny. Yn Siop y Bont, Llanybydder, y mae hi, ar silff wrth ochr math o goulash a phethau o'r fath. A'r ysgrifen ar ei hochr mewn Pwyleg, yn ogystal â Saesneg.

Maen nhw'n dweud y gallwch chi ddeall hanes gwlad oddi wrth yr hyn sydd ar silffoedd ei siopau ac mae hynny'n wir yn ardal Llanbed heddiw. Mae'r siopwyr yn ymateb i'r ffaith fod yna farchnad newydd wedi landio ar garreg eu drws.

Mae gyda ninnau ddau ddewis - edrych ar y peth fel bygythiad, neu fwynhau'r amrywiaeth. Gwgu ar y sauerkraut neu roi cynnig arno. Mae yna rai gwleidyddion (gweddol) gall wedi galw am brofion ar bobol o ffwrdd sy'n dymuno setlo yng ngwledydd Prydain. Eisiau iddyn nhw basio prawf iaith a dangos eu ffyddlondeb.

Meddyliwch pe bai pobol o'r Deyrnas Unedig yn gorfod gwneud hynny cyn cael setlo yn Ffrainc neu dde Sbaen ... au revoir ac adios fyddai hi, ond nid yn yr ieithoedd brodorol.

Meddyliwch pe baen ni'n gwneud hynny i bobol sy'n symud i mewn i ardaloedd Cymraeg fel Ceredigion o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig - prawf siarad Cymraeg ac addewid eu bod am wneud eu gorau i ffitio i mewn gyda'n ffordd o fyw. Mi fyddai'r Range Rovers a'r hen grocs fel ei gilydd yn ei gwneud hi ar sbîd mawr i gyfeiriad y ddwy bont tros yr Hafren.

  • Mwy o Lambed

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý