91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Tîm Rygbi Llanbed Neb ar ôl yn Llambed!
Mehefin 2009
Hanes tîm rygbi Llanbed yn rownd derfynol Powlen SWALEC yn Stadiwm y Mileniwm.

Ddydd Sadwrn 9fed Mai aeth torfeydd o ardal Llanbedr Pont Steffan i Gaerdydd. Roedd tîm rygbi'r dref wedi cyrraedd rownd derfynol Powlen SWALEC yn Stadiwm y Mileniwm, a chefnogi'r bechgyn oedd y nod gan bawb.

Archebwyd cannoedd o grysau polo arbennig i'r cefnogwyr, trefnwyd nifer o fysus, a phrynwyd tua mil o docynnau. Y canlyniad oedd bod y Stadiwm am un o'r gloch y prynhawn yn ferw o floeddiadau "Llambed, Llambed, Llambed".

Roedd hi'n deimlad rhyfedd i'r cefnogwyr oedd yno yn y stadiwm genedlaethol a phawb o fewn golwg yn y seddau yn wynebau cyfarwydd. Pobl fyddai fel arfer ar strydoedd Llambed yn un dyrfa fawr. Roedd hi'n achlysur o ddiwrnod, cael cefnogi'r tîm lleol yn chwarae ar yr un borfa â'r tîm cenedlaethol. Enwau bechgyn ifanc ardal Clonc yn herio tîm Treforys."

Roedd hi'n gêm agos iawn, a Llambed yn llawn haeddu ennill. Ond y sgôr ar ddiwedd y gêm oedd Treforys 20 Llambed 17.

Cafodd Carwyn Gregson, Werna, Cwmann gais llwyddiannus, a Huw Thomas, Beehive Radio, Llambed gafodd weddill y pwyntiau am gicio medrus.

Gweddill y garfan oedd, Jason Thomas, Chris Thomas, Tim Evans, Owain Jones, Aled Thomas, Mark Saunders, Paul Fingleton, Gareth Griffiths, Gary Davies (Capten), Dylan Davies, John Rhys Jones, Llyr Jones, Geraint Thomas, Dafydd Jones, Lee John Lloyd, Joe Thomas a Dewi Williams. Cafodd Dewi ei ddewis yn Chwaraewr Gorau.

Roedd hi'n ddiwrnod i'w gofio i'r chwaraewyr, partneriaid, teuluoedd, ffrindiau a chefnogwyr. Yn wir, uchafbwynt hanes y Clwb yn ôl rhai. Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y tîm.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý