Ond mae pawb ohonom yn adnabod neu wedi clywed am y cymeriad lliwgar ac hoffus "Williams Youngs". Hyfrydwch pur oedd cael treulio orig yn ei gwmni y dydd o'r blaen er mwyn dod i wybod ychydig mwy amdano.Fe'i ganed yn 1921 ym mhentref New Cross, Aberystwyth yn unig blentyn. Roedd ei dad yn anabl ar ôl dioddef effaith nwy ym mrwydr erchyll y 'Somme' yn y rhyfel byd cyntaf.
Gadawodd yr ysgol yn 16 oed ac fe gafodd swydd yn Aberystwyth gyda'r 'Land Fertility Scheme', a'i waith oedd paratoi samplau o bridd o'r caeau er mwyn eu dadansoddi am ddiffygion calch a gwrteithiau eraill. Bu yn y swydd am ddwy flynedd.
Yn 1940 ymunodd â'r awyrlu fel cadet a'i ddyletswyddau oedd edrych ar ôl y radio a'r gynnau mawr (machine guns). Ar ôl derbyn hyfforddiant trylwyr ar gyfer y gwaith yn Y Bahamas, Nova Scotia a Vancouver, fe'i danfonwyd i Burma am ddwy flynedd lle cafodd ei ddyrchafu'n 'Sargeant'. Cafodd brofiadau creulon a pheryglus tra yn Burma yn ymladd yn erbyn y Siapaneaid, ac 'roedd y frwydr i ennill tref Rangoon yn un o'r profiadau mwyaf erchyll yn ei fywyd. Sylweddolodd pa mor ffodus oedd o gael dod adref yn fyw.
Bu hefyd ar ddyletswydd yn yr India, a chael cyfle i wneud gwaith cenhadol yn Shillong ger Madras. Profiad cofiadwy oedd gweld y tyddynwyr yn plannu reis yn y paddy fields.
Ar ôl pum mlynedd yn yr awyrlu, a'i dad bellach wedi marw yn 50 oed, daeth Dilwyn yn ôl i'w hen swydd yn Aberystwyth, a gweithio am gyflog o £15 yr wythnos. 'Roedd yn rhaid symud ymlaen gan fod y gyflog yn gwbl annigonol i fyw arni. Yn 1946, penodwyd ef yn gynrychiolydd cwmni 'Youngs' yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro. Ei brif ddyletswydd oedd gwerthu 'trochiadau' (dip) defaid, moddion a nifer fawr o bethe eraill ar gyfer iechyd anifeiliaid. Bu wrth y gwaith yma am 40 mlynedd a 'does dim llawer o'r hen Ddyfed nad yw Dilwyn yn gwybod amdano. 'Roedd y profiad o ymweld â ffermydd o bob math a phob maint, a chyfarfod a chymeriadau diri,yn rhywbeth y mae'n ei drysori yn fawr. Anrhydeddwyd ef gan y cwmni ar ôl ymddeol am gwblhau diwrnod da o waith.
Y mae ef a'i deulu, sef ei wraig a phedwar o blant, wedi byw yn LIannon, Pumsaint, Creuddyn Bridge a bellach mae ganddo fyngalo ac ychydig dir yn Temple Bar, ac mae wrth ei fodd yn cadw diadell o ddefaid Cymreig.
Un o'r pleserau mwyaf ym mywyd Dilwyn, er hynny, yw cefnogi gwaith dyngarol ac achosion da ac mae hynny dros y blynyddoedd wedi golygu trefnu llu o weithgareddau er mwyn codi arian. Tra yn byw yn Llannon, bu yna storm enbyd un noson, ac fe wnaed difrod i do'r Capel a'r Eglwys leol. Dyma fynd ati ar unwaith i drefnu ras geffylau a moto-beics, er mwyn codi arian i drwsio'r ddau do. Beth oedd barn y saint am hyn, tybed! Tra yn Llannon bu hefyd yn helpu i oleuo'r pentref drwy brynu lampau; llwyddodd i roi peth cymorth ariannol i waith y WI, ac i helpu adnewyddu rhan o'r neuadd ar gyfer chwarae Snwcer.
Ers y cyfnod yn yr Awyrlu mae'r awydd i hedfan yn dal yn ei waed ac yn rhan bwysig o'i fywyd. Tua pum mlynedd yn ôl, trefnodd daith 'Power Parachute' o Hwlffordd i Benrhyncoch, a'r gamp oedd dyfalu'r amser a gymerai i gwblhau'r daith. Er yn agosau at ei 80 oed ar y pryd, eisteddai Dilwyn yn ei wisg goch a'i sbectol, wrth ochr y gyrrwr, yn mwynhau pob munud wrth weld y golygfeydd o'r awyr. Codwyd swm sylweddol iawn at elusennau lleol.
Mae wedi teithio mewn 'glider' ac yntau yn awr dros ei 80 oed. Cafodd hefyd y weledigaeth i logi awyren am gost o £100 y dydd i hedfan o Hwlffordd i Wexford, a'r gamp eto oedd dyfalu'r amser. Cododd y fenter yma £3,500 at waith pwysig yr Ambiwlans Awyr. Ymysg ei ymdrechion diweddaraf, mae wedi bod yn helpu'r Bad Achub yn Aberystwyth ac wedi cyflwyno siec o £400 i fferm Blaenywern, Llanybydder i brynu tri gwely orthopaedig ar gyfer plant anabl sy'n treulio llawer o amser yno.
Anrhydeddwyd ef gan y 'Cambrian News' yn ddiweddar am ei waith dyngarol, ac fe'i gwahoddwyd i sôn am ei waith ar raglen deledu 'Prynhawn Da'. Yn wir, yn ôl ei amcangyfrif personol, mae wedi llwyddo i godi dros £20,000 at elusennau lleol - record arbennig. Cafodd ef a'i briod wahoddiad yn ddiweddar i arddwest ym Mhalas Buckingham.
Tybed a Iwyddodd e i werthu tocyn i'r Frenhines ar gyfer ras hwyaid yn Felinfach, ar ran rhyw achos teilwng lleol? Ni fyddai neb yn ei wrthod!
Ymysg ei gyfrifoldebau, mae'n is-gadeirydd y 'Burma star Association', Is-gadeirydd Cymdeithas yr RAF yn Aberystwyth, a'r Lleng Brydeinig yma yn Llambed. Buasai'r rhan fwyaf o bobol ar ôl cyrraedd 83 oed yn barod i ymlacio ac ymddeol yn llwyr, ond nid felly Dilwyn Williams yn wir mae ganddo brosiectau eraill ar y gweill. Mae'n dal mor sionc a heini ag erioed, yn llawn hiwmor a direidi ac yn dynnwr coes heb ei ail.
Pan fod cynifer o elusennau y dyddiau yma yn dibynnu ar ymdrechion lleol, tybed a fyddwn bob amser yn gwerthfawrogi ymdrechion pobol fel Dilwyn. Ond mae codi arian yn rhoi cymaint o bleser a gwefr iddo.
Gobeithio yn wir y caiff flynyddoedd eto i helpu elusennau sydd mor ddibynnol ar garedigrwydd pobol leol.