Traed yn brifo? Dw i'n gobeithio y bydda' i yma'r mis nesa'. Mae yna beryg y bydda' i'n sownd mewn cors rhywle yn ymyl Llynnoedd Teifi, neu y bydda' i'n dal i chwilio am fy nhraed. 'Ar awr wan, mi gytunais i ymuno â chriw o bobol i gerdded ar ran o daith fawr S4C i godi arian at y tai hosbis Ty Hafan a Thy Gobaith. O dan arweiniad y dyn adar, Iolo Williams, y bydd hi ac yntau'n ffresh (wel, yn weddol fresh) o wneud Marathon Llundain.Mae hwnnw'n cerdded yr holl ffordd o Ddyffryn Conwy i ochrau Caerdydd, 250 milltir o dro, ond dim ond 32 milltir y bydd rhaid i ni eu cerdded - o Bontarfynach, dros y mynydd i Ystrad Fflur a hyd y ffordd i Lanbed. "Ni", achos bod y musus yn cerdded hefyd - mi fydda' i'n cerdded ar ran Golwg ac Elaine ar ran Twf, y rhaglen i annog rhieni i roi'r Gymraeg i'w plant. Mae yna wythnosau lawer ers addo gwneud, ond rwan mae'r amheuon yn dechrau wrth inni sylweddoli fod 32 o filltiroedd yn gythreulig o bell. Pawb â'i fys lle bo'i ddolur fydd hi (heblaw am y dyn gyda peils, fel y dywedodd rhywun rywdro) ac mae yna beryg mai nyrsio ein traed fyddwn ninnau am ddyddiau ar ôl y daith ar Fehefin 21. Y broblem fwya' ydi fod yn gas gen i fynd at bobol i holi am arian ... felly os ydech chi am gyfrannu, plîs dewch draw i ddweud. Mae'r achos yn un da iawn fel y gwyr unrhyw un sydd â phlant iach yn y teulu. Un peth na fydda' i ddim yn ei wneud ydi gwisgo trowsus bach. Mi fydd Iolo Williams yn gwneud hynny a fynnwn i ddim am unrhyw bris fynd â'r sylw oddi arno fo. Wedi meddwl, efallai mai'r ffordd orau o godi arian fyddai bygwth gwisgo shorts, os na fydd pobol yn talu ... Colofn Dylan Iorwerth
|