Mae'r Rali Ewropeaidd yn un o'r cyfleoedd gwych hynny a gynigir gan fudiad y Ffermwyr Ifanc i deithio a chyfarfod â phobl o ar draws Ewrop sydd â diwylliannau a chefndiroedd gwahanol ac amrywiol ac rwy' newydd ddod nôl o wythnos addysgiadol, gymdeithasol, hwyliog yng Ngogledd Iwerddon.Roedd dechrau'r daith i dîm Cymru sbel cyn hynny - nôl ym mis Tachwedd, gyda chyfweliadau i ddewis yr aelodau oedd yn mynd i gynrychioli a hybu'r mudiad a'r wlad allan yn Ulster. Roedd y gystadleuaeth am y pump lle ar y tîm yn frwd, a'r rhai a fu'n ddigon ffodus i gael eu dewis oedd Dafydd Lewis C.Ff.I Cwmann (Sir Gâr)- arweinydd y tîm, Aled Jones (Sir Gâr), Penny Francis (Gwent), Anna Thomas (Meirionnydd) a minnau. Roedd haf 2004 i weld yn bell i ffwrdd ddiwrnod y cyfweliadau ond buan hedfanodd yr amser!
Dechreuodd y paratoi a'r cyfarfodydd ar gyfer y rali yn syth yn y flwyddyn newydd gyda Dafydd yn profi i fod yn arweinydd i trefnus a gweithgar!! Roedd tipyn o drefnu i sicrhau taith lwyddiannus. Roedd angen dod o hyd i noddwyr, dewis gwisgoedd traddodiadol, casglu bwydydd ar gyfer y byffe rhyngwladol a threfnu adloniant.
Dechrau'r daith
Gwawriodd bore Sadwrn Gorffennaf y 24ain yn gynnar i'r tîm gyda rhan fwyaf o'r aelodau yn dal i drio dod dros pedwar diwrnod hir a chaled yn y Sioe Frenhinol. Rhaid oedd teithio i Fryste i ddal yr awyren i Belfast ac wedi cyrraedd maes awyr prif ddinas Gogledd Iwerddon cawsom ein croesawi gan aelodau o bwyllgor trefnu'r rali - a dyna ein profiad cyntaf o'r croeso a chyfeillgarwch twymgalon oedd yn mynd i fod yn nodweddiadol o'r wythnos.
Campws coleg Amaethyddol Greenmount oedd ein cartref am yr wythnos. Lle bendigedig gyda chyfleusterau modern, gerddi prydferth a digon o fwyd da! Dechreuodd y gweithgareddau yn syth gyda gemau "dod i adnabod ein gilydd." Gyda thimau o tua ugain o wledydd o ar draws Ewrop, o'r Alban i Awstria ac o Weriniaeth Iwerddon i'r Gweriniaeth Tsiec - roedd digon o waith dod i adnabod pobl. Cyn bo' hir serch hynny roddwn ni gydfel un teulu mawr a phawb yn adnabod ei gilydd!
Agorwyd y Rali yn swyddogol ar y bore Sul gyda pherfformiad gwefreiddiol gan ddrymwyr a phibellwyr band Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon - a phob un ohonynt yn gwisgo cilt! Cofiwch - nid y Gwyddelod a'r Albanwyr yn unig oedd yn gwisgo eu cilts. I'r agoriad roedd hi'n ofynnol i bob tîm wisgo gwisg traddodiadol eu gwledydd.
O'r dechrau roedd Aled yn awyddus iawn i ddangos ei bengliniau (siapus?!) a gwisgo cilt Cymreig. Doedd Dafydd ddim cweit mor siwr ond yn y diwedd y cilts a'th â hi a rhaid dweud roedd bechgyn Cymru yn edrych cystal - os nad gwell, na'u cefndryd Celtaidd! Golygfa wych oedd gweld pawb yn eu gwisgoedd traddodiadol. Croesawyd aelodau a gwahoddedigion y rali gan Lynda Steel sef cadeirydd y Pwyllgor Ewropeaidd a chanwyd y gloch i ddatgan dechrau'r Rali. Yn dilyn yr agoriad cawsom gyfle i ymgymryd â chwaraeon megis rygbi a "hurling" ac fe geision ni fod yn artistig wrth greu murluniau oedd yn adlewyrchu ein gwlad. Yn anffodus profodd y weithgaredd yma nad oedd arlunydd yn nhîm Cymru!
Thema addas Gogledd Iwerddon
Thema'r Wythnos oedd Gorchfygu Gwrthdaro ar Draws Rhaniadau Diwylliannol. Addas iawn o gofio'n lleoliad ac amserol iawn hefyd o edrych ar sefyllfa'r byd heddiw. Bu holl weithgareddau'r wythnos yn ymwneud â thrafod rhesymau gwrthdaro, rhagfarn, achosion o wrthdaro yn ein bywydau personol ac o fewn cymdeithas ac wrth gwrs dulliau o orchfygu'r gwrthdaro hynny. Bu^m yn ymgymryd â gweithgareddau amrywiol mewn timoedd cymysg - tasgau cydweithio a chyd drafod; siarad trwy problemau a rhwystrau - yr ateb i wrthdaro ar bob lefel mae'n siwr. Logo'r rali oedd dwy law yn cydio yn ei gilydd. Oes, rhaid agor drws i ysgwyd llaw.
Ymwelwyd â Londonderry yn ystod yr wythnos. Cerddasom furiau'r ddinas ac ymweld ag ardal y Bogside gan edmygu'r murluniau pwerus sydd yn darlunio hanes gythryblus Gogledd Iwerddon. Daethom o'r ddinas gyda ychydig gwell dealltwriaeth o darddiad ac achosion cymhleth gwrthdaro'r wlad. Er nad oes olion gweledol amlwg o'r gwrthdaro bellach heb law am y murluniau ac ambell i slogan. Ar wal, mae'n amlwg fod y drwg deimlad yn dal i fod yn fyw yn y cof ac fe gymer genedlaethau i'r creithiau wella.
Ar y daith honno cawsom ein diddanu gan ddawnswyr Gwyddelig a'r cyfle i gwrdd a holi John Hume enillydd y wobr heddwch Nobel Laureate am ei waith gyda phroses heddwch Gogledd Iwerddon. Cafodd yr arweinyddion hefyd gyfle i ymweld ag adeilad senedd Gogledd Iwerddon yn Stormont.
Cawsom ein croesawi am noson i gartrefi deuluoedd aelodau Mudiad Ffermwyr Ifanc Ulster a chael blas o letygarwch gwresog trigolion Gogledd Iwerddon. Roddodd yr ymweliadau yma hefyd gyfle i ni weld cefn gwlad go iawn y wlad. Mae Gogledd Iwerddon yn wlad brydferth iawn. Coedwigoedd a chaeau gwyrdd, tir bryniog, waliau cerrig - tebyg iawn i Gymru a dweud y gwir, a gwlad sy'n werth ymweld â hi.
Ar y dydd Gwener cawsom y cyfle i weld sut mae whisgi enwog Bushmills yn cael ei ddistyllu cyn mynd ymlaen wedyn i'r Giants Causeway ar arfordir y gogledd a chyfle i weld a cherdded y creigiau siap hecsagon a ffurfiwyd miloedd o flynyddoedd yn ôl. Fel daearyddwraig roeddwn i wrth fy modd yno gan dynnu degau o luniau o'r cerrig!
Blas ar y bwffe rhyngwladol
Ar ôl diwrnodau llawn o weithgareddau byddech yn meddwl bod cyfle i orffwyso gyda'r nos - ond na, ar ôl swper rhaid oedd dechrau 'to! Cafwyd noson y "byffe" rhyngwladol. Pob gwlad yn paratoi arddangosfa o gynnyrch eu gwlad. Roedd bwrdd y Cymry yn gorlifo â chig oen a chig eidon, caws, bara brith, cacennau, seidir, gwin, te a dŵr Cymreig. Roedd cyfle wedyn i grwydro'r byrddau i flasu danteithion y gwledydd eraill.
Roedd rhai bwydydd yn fwy blasus na'i gilydd ond yn gyffredinol roedd y diodydd i gyd yn ddigon cryf i redeg tractor! Roedd noson yr adloniant rhyngwladol yn llawer o hwyl hefyd. Roedd pob gwlad wedi paratoi pum munud o gyflwyniad. Cafwyd stori William tell gan y Swistir, sgets gan Weriniaeth Iwerddon, dawnsio a chanu gan yr Albanwyr ac mae Ewrop gyfan yn gallu canu "bing bong" yn dilyn cyfraniad y Cymry!
I gloi'r rali cafwyd noson fendigedig yng ngwesty'r Ewropa ym Melffast, a dyna ni, roedd Rali Ewropeaidd 2004 wedi dod i ben. Do, fe fu'n wythnos lwyddiannus iawn. A diolch i'r cwmnïau a'r unigolion hynny a wnaeth noddi tîm Cymru a chyfrannu tuag at y llwyddiant hwnnw. Byddem yn annog pob aelod o fudiad ffermwyr ifanc i gynnig am le ar dîm y Rali Ewropeaidd, ac os nad ydych yn aelod eto - ymaelodwch ar frys a chymerwch y cyfle. Gwnewch chi ddim difaru.
Catrin Bellamy Jones
Llanwenog, Ceredigion.