SAFFRWN Saffrwn ydy'r perllys lliw melyn sy'n cael ei alw yn Saffran mewn Groeg. Daw o'r Arabeg za'ffaran. O dref Kozani mewn ardal fynyddig yng ngogledd orllewin Groeg y daw fy ngwr; felly, mynd yno i ymweld â'r tylwyth fyddwn ni gan amlaf. Ar ein hymweliad diwethaf fe wnaethom ni droi o'r briffordd rhyw bum cilometr. cyn cyrraedd Kozani lle mae pentref gyda'r enw awgrymog, Krokos. 'Roeddwn wedi darllen am y lle a'i harddwch ac yr oedd yn wir yn anadl einioes! Ni all geiriau ddisgrifio'r olygfa ganol Hydref oedd pan yw'r Saffrwn yn ei ysblander. O'n blaen 'roedd dyffryn a'i gaeau fôr o flodau yn ymestyn hyd at Lyn Poliffotos a'u lliwiau yn amrywio o oren i fioled. Mae'r trigolion yn ymgynnull i gasglu'r blodau fesul un. Yn wir, mae'r blodyn fioled yma werth ei bwysau mewn aur!. Chwe phetal fioled sydd i bob blodyn gyda thri edyn, neu stigma, yn eu canol a thri edyn melyn. Y rhai coch yw'r hiraf sy'n rhoi Saffrwn o'r safon uchaf, unwaith iddyn nhw gael eu sychu. Planhigyn byr ydy'r Saffrwn o rhyw10 i 15cm gyda dail meddal gwyrdd. Tyfir y rhain o wreiddyn crwn y mae trigolion Kozani yn y'u hadnewyddu bob naw mlynedd. Credir fod diwylliant y Saffrwn yn dyddio'n ôl i gyfnod cynhanes Groeg. Ar y farchnad mae ei bris, owns am owns, yn cystadlu â phris aur! Y math gorau ydi'r Crocws Sativus, math nad yw'n tyfu ar unrhyw bridd. Mae ansawdd digyffelyb saffrwn Kozani o ran arogl yn cael ei gydnabod ar hyd a lled y byd. Defnyddir 10.000 o gilomedrau sgwâr i godi'r blodyn gan ildio rhwng saith ac wyth tunnell o saffrwn yn flynyddol. Dydi'r amaethwyr ddim yn defnyddio unrhyw dail ond rhoddir seibiant i'r caeau bob naw mlynedd. Y cynhaeaf Mae'n waith caled, heb beiriannau gyda phob blodyn yn cael ei bigo fesul un. Rhaid wrth 150,000 o flodau i wneud un cilogram (2.54 pownd). Ni all y llaw gyflymaf ond casglu 30,000 o flodau mewn diwrnod. Cesglir y cynhaeaf gan aelodau rhyw 1,500 o deuluoedd o 37 o bentrefi sy'n perthyn i gwmni cydweithredol. Bydd y cynhaeaf yn parhau am tua thair wythnos. Cludir y blodau mewn basgedi i'w sychu mewn siamberi lle taenir y stigma mewn haenau tenau o fewn cewyll. Rhaid wrth lawer o brofiad a medr er mwyn diogelu priodoleddau'r saffrwn. Nid yw'r peillgodau melyn o unrhyw werth gan nad oes iddyn nhw nac arogl na blas. Rhaid treulio tri mis yn didoli'r cynhaeaf gyda'r cynnyrch wedyn yn barod i'w drosglwyddo i'r cwmni cydweithredol sy'n gyfrifol am y pacio a'r allforio. Saffrwn coch Groeg ydy'r perllys gwerthfawrocaf yn y byd. Mae'n cael ei ddosbarthu mewn llestr o fetel neu botiau gwydr sy'n dal gram neu ddwy neu mewn bagiau bychain yn 1/4, 1/8 neu 1 gram o bowdr neu becynnau busnes o 28 gram. Mae bron i 97% o'r cynnyrch yn cael ei allforio gydag 80% yn mynd i Ffrainc. Allforir hefyd i'r Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau, Asia a gwledydd canolbarth Ewrop. O Wlad Groeg y dawn 15% o saffrwn y byd gyda Sbaen y prif gystadleuydd ond bod y saffrwn yno o liw gwahanol. Defnyddir saffrwn yn bennaf yn yn y diwydiant bwyd ac i goginio ac er mor ddrud ydio mae'n boblogaidd oherwydd ei i liwio bwyd a gwella ei flas. Fe'i defnyddir hefyd fel cyffur esmwytho. Mae o leiaf ugain gwahanol saffrwn gwyllt yng Ngwlad Groeg. Does yna ddim trefn ynglyn â'u casglu hwy fodd bynnag gyda menywod Creta a'r Cycladdau, er enghraifft, yn pigo rhyw ychydig i goginio ac, yn yr hen amser, i lifo'u dillad. Sôn amdano yn hanes. Mae'r cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf ato ar dabledi ym mhalas Knossos yn Creta (1500C.C.). Mae'r llun hynaf o fenywod yn pigo saffrwn ar furiau'r palas, ym Mycaenae. Adnabyddir y planhigyn o'r cyfnod hwn ymlaen fel krokos ac mae yna ansoddair 91热爆raidd "krokopeplos" neu mantell lliw saffrwn a ddefnyddiwyd i ddisgrifio Eos, duwies y Machlud, merch Hyperion a Thea. Mae 91热爆r a llawer o enwogion eraill yn sôn amdano fel un o blanhigion llesol yr Hen Roeg. Ers y dyddiau hynny priodolwyd rhinweddau meddygol iddo gyda chyfeiriad at crocus yng ngweithiau Hippocrates a meddygon eraill. Yn yr Hen Roeg saffrwn oedd y lliw brenhinol. Fe'i gwasgarwyd yn y llysoedd a'r theatrau Groegaidd, ac ar strydoedd Rhufain pan dychwelodd Nero i'r ddinas. Ystyriwyd y blodyn yn un sanctaidd gyda'r smotyn ar dalcen y pwndit (ysgolhaig) Hindw^aid wedi ei wneud yn rhannol o saffrwn. Tri dafn gwaed yng nghanol y blodyn. Yn chwedloniaeth Groeg, dyn golygus ei olwg oedd Crocus, a ffrind i'r duw Hermes. Unwaith, pan oedd y ddau ffrind yn chwarae, anafwyd pen Crocus gan Hermes Crocus a syrthiodd tri dafn o waed o'r clwyf i flodyn cyfagos ac ers hynny yr adnabyddwyd y blodyn fel Crocus. Yn ôl Ovidus, fodd bynnag, enwyd y planhigyn gan wr ieuanc oedd mewn anobaith o weld Smilax ieuanc yn marw a'i drawsffurfio i'r blodyn yma.
|