|
|
Ennill Cwpan Ewrop
Dydd Llun, Gorffennaf 5, ac mae hi'n boeth yng Ngwlad Groeg wedi i'r wlad gyflawni'r annisgwyl yn Ewro 2004 meddai Lynda Ganatsiou:
|
Helo 'na Gymru ! Mae'n boeth yma yng Wlad Groeg - nid yn unig oherwydd i'r thermomedr godi i eithafion ond oherwydd yr awyrgylch sydd yma wrth inni ddod yn fuddugol yn gêm derfynol Cystadleuaeth Ewrop 2004 UEFA a churo tîm Portiwgal.
Er fy mod yn hoff o bêl-droed, ond a minnau'n dod o Bontarddulais yn wreiddiol nid yw ond naturiol mai dilyn y bêl hirgron fydda i fel rheol.
Ond yr wythnos hon gallaf ddweud heb unrhyw amheuaeth nad oedd y gorfoledd a'r gwladgarwch a brofais ym Mharc yr Arfau a Twickers yn ddim o'i gymharu â'r nwyd a lifai trwy wythiennau pobl Groeg pan chwythwyd y chwiban olaf nos Sul a hwythau yn Bencampwyr Pêl-droed Ewrob 2004.
Pe byddai Max Boyce yma fe fyddai'n canu, Duw 'na le!
Ond nid Oggie! Oggie! Oggie! a glywyd ond yr O-le! O-le! O-le! O-le!........O-le! O-le!
Sut bynnag, gyda'r holl derfysg sydd wedi bod yma yn ddiweddar nid oedd dewis gennyf ond ildio i gael fy ngorfodi i eistedd o flaen y bocs i wylio'r pêl-droed ac yr wyf wedi dilyn y tîm o'r cychwyn cyntaf a hynny heb gael fy siomi er eu bod 100 i 1 ar ddechrau'r gystadleuaeth!
Rhaid cyfaddef imi fwynhau pob munud o'r gemau iddynt chwarae.
Gyda chymaint o bethau negyddol yn cael eu dweud am drefniadau'r Gemau Olympaidd, mae'r ffaith i Groeg wneud cystal yn y gystadleuaeth hon yn foddion i bawb a chan nad oedd gan Gymru dîm i'w gefnogi roeddwn innau'n cefnogi y wlad sydd wedi fy mabwysiadu gan deimlo'n falch fy mod yn byw yma y dyddiau diwethaf 'ma.
Pawb mewn hwyliau da Roedd awyrgylch rhyfeddol ledled y wlad pan gyrhaeddodd y tîm yr wyth olaf ac yn fwy fyth pan ddaethant i'r prawf cyn derfynol heb sôn am gyrraedd y gêm derfynol.
Bu dathlu ym mhob cwr o'r wlad o gopa'r mynyddoedd at y môr; o'r tir mawr i'rr ynys bellaf.
Pob congl o'r de i'r gogledd, o'r gorllewin i'r dwyrain wedi eu uno a phawb mewn hwyliau da. A neb, ledled Ewrop, yn disgwyl iddynt fynd yr holl ffordd gan gynnwys y Groegiaid eu hunain credwch fi.
Ond pan ddigwyddodd roedd holl uffern yn rhydd ar y strydoedd!!!!
A chan fod enw pob chwaraewr yn nhîm Groeg yn gorffen â'r llythyren "S" dywedai rhai mai hynny fu'n argoel dda!
O nerth i nerth Gyda'r llwyddiant yn erbyn y Ffrancwyr dan eu cesail atgyfnerthwyd ffydd y bobl ar gyfer y gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec gyda miloedd o Roegiaid yn gadael am Oporto i gefnogi tîm cenedlaethol bad oedd llawer ohonynt yn gwybod dim amdano cyn hyn!
Ar deledu gwyliwyd y tîm yn mynd o nerth i nerth a chyn gynted a'u bod wedi dychwelyd i Wlad Groeg roedd cefnogwyr yn prynu tocynnau i ddychwelyd i Lisbon i weld y gêm derfynol.
A'r gwir amdani oedd y byddai bron bawb wedi bodloni ar golli yn erbyn y Tsieciaid gan fod yn ddiolchgar o gael mynd cyn belled â hyn.
A'r neges o'r wlad i'r chwaraewyr oedd eu bod yn enillwyr, beth bynnag y canlyniad, yn llygaid pawb gartref a phe heb ennill neithiwr ni fyddai neb yn grwgnach gan eu bod eisoes yn ystyried y bechgyn dduwiau.
Ond yn haeddu clod hefyd mae'r hyfforddwr o'r Almaen sy'n gofalu am y tîm cenedlaethol, Otto Rehhagel.
Trwy ei ddyfal waith a'i amynedd ef i greu tîm unedig y cyrhaeddwyd copa Ewrop ac mae'r cefnogwyr yn gwerthfawrogi hyn.
Dyn sy'n hoffi cymryd pethau gam wrth gam ydyw e'- dyn sy'n cadw'i ben.
Un peth sy'n sicr mae'r tîm yma wedi gwneud i bawb gymryd sylw ohono er pob ymdrech i'w danseilio.
A phan welais i sylw un papur newydd o dramor iddo gyrraedd yr wyth olaf drwy'r drws y cefn roeddwn yn fwy awyddus fyth iddo ennill, wir.
A thros nos trodd o fod yn anadnabyddus i fod yn chwedl a hynny nid yn unig yn ei wlad ei hun a gôl fendigedig Angelos Charisteas yn creu pennod ogoneddus yn hanes Groeg.
Yr her yn awr fydd cadw'r enw da. HELLAS!
|
|