Hiraeth! Beth ydi hiraeth? Ydych chi erioed wedi ceisio ei ddiffinio?
Os na fuoch i ffwrdd o Gymru am sbel ar y tro ni fu'r angen ich roi llawer o sylw i'r peth. Rhaid fod wedi cael y profiad hwnnw o fod o'i gynefin am gyfnod maith er mwyn medru deall hiraeth yn iawn.
Gyda'r blynyddoedd fel pe byddent yn tician heibio yn gyflymach nag erioed mae 30 o flynyddoedd ers i mi ffarwelio â glannau Llwchwr. Dim rhyfedd, felly, fod i'r gair hiraeth ystyr arbennig iawn i mi,, coeliwch chi!
Ac mae'r teimlad yn waeth, os rhywbeth, yn awr nag oedd o ar y dechrau!
Methu deall Rhyw ddwy flynedd yn ystod sgwrs â Hywel Gwynfryn, pan oedd ar ymweliad yma, roedd o'n amheus fod hiraeth yn dal i fy llethu wedi cymaint o flynyddoedd o Gymru.
Ac nid ef fyddai'r unig un i gredu fod rhywun yn cyfarwyddo ymhen amser â bod i ffwrdd o'r henwlad.
Ac, wrth gwrs, yr wyf wedi cyfarwyddo ond dydi hynny ddim yr un peth â bradychu y teimladau dwys na chamgymryd y gogleisio rhyfedd yna yn eich perfedd pan fo rhywun yn sôn am Gymru neu os clywch rhyw newyddion ynglyn â'ch cartref.
Câs gwr nas caro'r gwlad a'i maco!
Atgofion mewn llythyr Yr uchafbwynt i mi yw derbyn rhywbeth oddi wrth ffrind neu berthynas a chanddo gysylltiad arbennig â Chymru.
Daeth yr hen bennill yma i fynegi hiraeth, i'm cof gan mor gywir ydyw:Pell o ffordd sy'n caru buraf, Pell o ffordd sy'n dyfod amlaf, Pell o ffordd a gaiff ei wrando, Ni ollyngir ef yn ango'.
Llawenydd mawr i mi ychydig yn ôl oedd derbyn gwahanol bethau i'm hatgoffa o fro fy mebyd ym Mhontarddulais.
Anodd dweud beth sy'n rhoi'r mwyaf o orfoledd; y pethau sy'n cael eu hanfon ynteu'r ffaith fod yna bobl sy'n dal i feddwl amdanaf, a minnau mor bell o gartref.
Pan dderbyniais y pecyn diweddaraf achosodd ei gynnwys gymaint o gyffro a phe byddwn wedi ennill miloedd o bunnau.
Tudalen canol papur newydd lleol oedd yna wedi ei anfon gan Marion, ffrind o'r Hendy yn wreiddiol a ddarganfyddais ddwy flynedd yn ôl ar y We wedi blynyddoedd lawer o golli cysylltiad.
Sôn yr oedd y papur am drenau yn mynd drwy Bontarddulais a'u tynged yn y 60au.
Pobman ar y trên Yr adeg honno byddwn yn mynd i bobman ar y trên yn hytrach na bws.
Cyd-ddigwyddiad hyfryd, na wyddwn i amdano nes imi sgrifennu i ddiolch iddi, oedd fod ein tadau yn gweithio gyda'i gilydd ar y rheilffordd!
Llanwyd fy mhen ag atgofion am siwrneiau hafaidd cyn belled â Bae Abertawe gan dybio ein bod yn croesi'r Cyfandir gymaint y cyffro.
Gan nad oedd gennym gar byddai'n rhaid cerdded milltir a hanner i'r orsaf i ddal y trên gan swancio yn ein dillad haf a'n sandalau newydd, gwyn neu goch.
Yna, rhaid oedd cael bwced, rhaw neu bâl newydd a phopeth yn disgleirio'n newydd.
Bob haf, gobeithiwn fy mod wedi tyfu digon i gael siwt ymdrochi newydd ond ond tyfu'n araf oeddwn i, yn anffodus, a'r hen siwt yn parhau am flynyddoedd
Pan gyrhaeddai'r trên byddwn yn grwgnach am gyflwr y peiriant gan ofidio na wnaeth neb ei olchi - a ninnau mor lân a thwt.
Nid oedd cymaint o ramant mewn cael injan ddu fel y loco a fyddai'n cludo glo o bwll glo Graigola gerllaw!!
Ambell i dro, fodd bynnag, byddai injan werdd, lachar, yn cyrraedd yn syth o'r golchdy a'r diferion dwr yn pefrio arno.
Ac er bod y mwg yn codi peswch roedd arogl neilltuol iddo - yn enwedig pan fyddai'r trên yn mynd drwy dwnnel gyda nhad yn neidio i gau'r ffenest cyn inni gyrraedd ceg y twnnel.
Dyna sbri, cael ein sugno gan y tywyllwch a sgrechiadau'r merched hwnt ac acw.
Ac os yn rhannu'r cerbyd â dieithriaid byddwn wastad yn rhyfeddu wrth i'r golau ddychwelyd nad oedd neb wedi diflannu yn y tywyllwch!
Cofio'r enwau Uwchben y seddau byddai lluniau o olygfeydd a byddai cystadleuaeth rhwng fy mrawd a minnau pwy allai gofio orau enwau'r gorsafoedd, yn enwedig ar deithiau hirion.
Byddai fy mrawd yn prynu llyfrau I-Spy er mwyn cofnodi pethau a welem Byddem hefyd yn cyfrif nifer y wagenni fyddai'n cael eu tynnu.
Uchafbwynt ein arhosiad fyddai gweld trên yn mynd heibio yn llawn o geir newydd. Yna, ar ôl i'r trên llaeth 6.00 fynd heibio fe wnaem ein ffordd tua chartref.
Cefais fy nghyffroi o ddarllen erthygl yn sôn am yr un llwybr a ddilynais i â'r teulu gymaint o weithiau.Dyna lle'r oedd llun injan ar orsaf Pontarddulais Junction ar un o'i deithiau olaf; y llun wedi ei dynnu gan ddyn cyfarwydd iawn i'n teulu ni, a'r erthygl felly ag iddi fwy fyth o arwyddocâd i mi.
Lliain bwrdd Mewn amlen arall a dderbyniais yn ddiweddar yr oedd y lliain bwrdd harddaf a welsoch erioed ag arno Gennin Pedr mewn gwaith appliqué
Ymhen yr wythnos roeddwn i'n defnyddio'r lliain ym more coffi i'r merched gan egluro'n falch mai'r Genhinen Pedr ydy arwyddlun fy ngwlad.
Auntie Kitty oedd wedi ei anfon i mi. Nid modryb go iawn ond fel yma yn Thermi arferai plant alw modryb ac ewythr ar gysylltiadau agos nad oeddynt yn berthnasau a byw y drws nesaf i mam-gu roedd Auntie Kitty ac Wncwl Eilwyn.
Er i'r blynyddoedd dreiglo rydym wedi cadw cysylltiad, a'r ddwy ohonom yn gwerthfawrogi hyn yn fawr.
Hen luniau Ei hail anrheg oedd llyfryn John Miles, Delweddau o Bontarddulais ar hyd y blynyddoedd sy'n dwyn i gof sawl un o drigolion y pentref yr oeddwn eu hadnabod.
Ac yn yr adran drafnidiaeth roedd llun o'r trên olaf a deithiodd ar lein yr LMS o orsaf Victoria, Abertawe, drwy Bontarddulais ar ei ffordd i'r Amwythig ar Fehefin 13, 1964 gyda thorch ar blaen yr injan a'r llythrennau RIP.
Yn awr, pan fydd hiraeth yn codi byddaf yn encilio i'r ystafell sbâr i fwynhau y rhoddion hyn sy'n esmwytho'r galon.
Ond y cysur pennaf un yw gwybod fod rhywun dros y don yn dal i gofio amdanaf!
|