Croeso arwyr a gafodd tîm pêl-droed Groeg yn y brifddinas, Athen, ar ôl ennill cwpan UEFA Ewrop 2004.
Nid oedd y dathlu pan drechweyd Portiwgal yn ddim o'i gymharu â'r croeso wrth ddychwelyd i'r henwlad gyda môr o lesni o'u blaenau.
A lluoedd o bobl yn codi eu breichiau a'u gostwng fel pe byddent yn moesymgrymu!!!! Tonnau o las yn codi ac yn gostwng.
Peintiwyd y wlad yn las!!!!!
Pawb yn gwisgo dillad glas a baner Groeg wedi ei phaentio ar eu hwynebau.
Boddwyd y strydoedd gan ddilyw o faneri glas a gwyn.
Estadio da Luz - Stadium y Golau oedd enw maes y fuddugoliaeth ond doedd dim angen urhyw oleuni arnynt i ddod o hyd i'w ffordd i stadiwm Panathinaikos - neu Kalimarmaro fel y'i hadnabyddir hefyd a dyma'r lle y bu'r gêmau Olympig modern cyntaf yn1896.
Llenwi'r awyr O'r Acropolis hynafol roedd tannau gwyllt yn llenwi'r wybren a gynnau mawr yn cael eu tanio dan fryn Lycavitos i gyfarch y duwiau newydd.
A'r miloedd ar filoedd o bobl yn ymuno yn y corws o: Enillom ni. Drylliwch y gatiau, mae'n bechgyn ni yn dychwelyd yn bencampwyr
gan gyfeirio at hen arferiad o ddryllio rhan o fur y ddinas i groesawi buddugwyr y mabolgampau Olympaidd.
Roedd eraill yn gweiddi: O Dduw, rho i ni fwy o ddagrau fel y gallwn barhau i lefain mewn llawenydd.
Ond y faner a oedd yn cyfleu'r cyfan oedd honno a ddywedai: Os taw breuddwyd yw hyn, nid wyf am ddihuno byth!
Gan fod y Groegwyr yn gyffredinol yn hoff o sbri ni chollwyd eiliad cyn bo caneuon newydd, jocan a lluniau wedi eu creu oedd yn ddigon i wneud y person mwyaf difrifol chwerthin!
Llun esgid bêl-droed Addidas ar ffurf tsarwchi (yr esgid sy'n cael ei gwisgo gyda'r wisg genedlaethol).
Groegwr er anrhydedd Nid aelodau'r tîm yn unig a haeddai glod ond yr hyfforddwr, Otto Rehhagel, sydd wedi ei dderbyn yn Roegwr yn dilyn y gamp ac ni wastraffwyd eiliad cyn creu lluniau ohono fel Groegwr hynafol ac yn dawnsio'r Sirtaki traddodiadol yn yr Acropolis. <
Dros nos trodd yn Odysseus, Socrates, Aristotle Onasis, yn Golosws Rhodes, yn Pythagoras a Zorba a'i enwi'n Dias - y duw o gopa Olympos - wrth i wallgofrwydd Rehhagelaidd lifo drwy'r wlad.
Gan taw Otto yw ei enw cyntaf, fe newidiwyd enwau hen, hen, arwyr Groeg i gynnwys yr elfen honno: Nid Odysseus mwyach ond Ottosseus. ;Ottocrates nid Socrates; Ottonasis nid Onasis; Ottossos nid Colossos; Ottogoras nid Pythasgoras yw'r drefn mwyach a mynydd y duwiau erbyn hyn yw Ottolympos!
Ond mae cynigion lu am i Otto ddychwelyd i'r Almaen. Beth bynnag fydd ei benderfyniad gall y Groegiaid fwynhau'r wefr o fod y gorau yn Ewrop am bedair blynedd nawr!
|