Mae dychweliad y Campau Olympaidd i Wlad Groeg yn ddigwyddiad hanesyddol.
Fel pob prifddinas, mae Athen bob amser yn llawn ffwdan ond nos Wener, Awst 13 curai ei chalon yn gyflymach nag erioed.
Agorodd y wlad ei chalon i'r byd ac wedi'r hir aros roedd y brifddinas yn croesawu'r campau Olympaidd yn ôl i wlad eu cychwyn a breuddwyd y Groegwyr wedi'i gwireddu.
Athen 1896 oedd y campau modern cyntaf a phrofodd y seremoni agoriadol eleni iddi fod werth y sefyll am bob eiliad ers hynny!
Aeth y wlad fel y bedd am tua 8.30 y nos. Y rhai ffodus a lwyddodd i gael tocyn i eistedd yn y stadiwm yn sugno golygfa na welant fyth mohoni yn eu bywydau eto. Y gweddill yn sownd wrth eu teledyddion yn llawn edmygedd a balchder.
Mewn breuddwyd Roedd yn brofiad a wnâi inni gyd deimlo ein bod mewn y breuddwyd wrth i olygfeydd na disgwyliwyd gan neb gael eu creu.
Syfrdanwyd nid yn unig y Groegwyr eu hun, ond bobl ledled y byd.
Dechreuodd y seremoni gyda churiad calon a hynny'n symbolaidd berffaith a'r môr o fiwsig yn y stadiwm yn anfeidrol mewn lle ac amser.
Trawodd tabyrddau a bouzouki i guriadau calon rhedwr a ddilynwyd gan gerddoriaeth hiraethus i bortreadu dynoliaeth yn arnofio mewn llong fach fregus o bapur ac i bortreadu sut y llwyddodd pobl i gyrraedd eu nod wrth i'r bachgen bach lywio'r llong yn ddiogel i lan y dŵr.
Tabyrddau dathlu oedd y rhain ond hefyd yn portreadu'r llam fuddugoliaethus tuag at gynnydd gorfoleddus y gwareiddiad gorllewinol.
Gwareiddiad a arllwysodd o ddyfroedd yr Aegean.
Dros y canrifoedd Cynrychiolwyd ysbrydoliaeth y crewyr dros y canrifoedd nes cyrraedd y cyfnod presennol a'i dechnoleg.
Ond hyd yn oed wrth ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf un cydiwyd wrth y gorffennol trwy ddefnyddio Eros - Duw cariad, a'r hanner dyn hanner ceffyl o'r chwedloniaeth gyfoethog.
Cadwyd cyfeiriadau at tyfeloedd fel Trychineb Asia Leiaf, Y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Rhyfel Byd, a'r Rhyfel Cartref allan gan gadw'r pwyslais ar y neges o heddwch sydd yn y gemau.
Hiwmor y Groegwr Yr hyn a gipiodd ddychymyg pawb oedd yr arddangosfa lachar o 3,000 o flynyddoedd o hanes a diwylliant - nid yn unig y 75,000 yn y stadiwm ond gweddill y byd wrth i'r traddodiad a'r etifeddiaeth Roegaidd hynafol gael eu tanlinellu.
Ond nid oedd hyd yn oed seremoni fel hon yn amddifad o'r hiwmor hwnnw y mae'r Groegwyr mor hoff o'i ddefnyddio, a chyn i'r ddefod ddechrau - a phawb yn cofio'r pryder a fyddai popeth yn barod mewn pryd - clywyd dyn yn siarad dros y meicroffon â gweithwyr yn cymryd arnynt eu bod yn dal i weithio i fyny'n uchel ar do'r stadiwm a'r swyddogion yn gweiddi arnynt fod ganddynt ddwy funud i orffen cyn i'r seremoni ddechrau!
Da oedd gweld y gallu hwn i wenu ac i chwerthin am ben y ffaith fod y byd y gyd wedi bod yn eu barnu am fod mor araf.
Dilynwyd yr orymdaith hanes gan orymdaith y mabolgampwyr gyda phob gwlad yn ymddangos yn ôl yr wyddor Roegaidd a braf oedd gweld y dyrfa yn cefnogi'r gwledydd llai ffodus â'u cymeradwyaeth.
Llanwyd y stadium â phob lliw dan yr enfys. Wedi ei goroni ag Olewydden.
Balchder Yr uchafbwynt oedd cynnau'r fflam Olympaidd enfawr yn arwydd fod y campau ar gychwyn a phob Groegwr yn rhoi ochenaid o ryddhad; yn falch o'r arddangosiad hwn o'u hetifeddiaeth.
Yn falch mai nhw oedd pia'r dydd yn dilyn seremoni agoriadol a fu'n fodd i ysbrydoli miloedd ar filoedd ac yn deilwng o'r clod uchaf er i gwmwl helyntion dau gampwr daflu cysgod dros galon pawb.
Ond fel gyda phob cwmwl mae hyder y bydd hwn hefyd yn cilio.
Yn y cyfamser, rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r mabolgampau a gweld rhai o sêr y byd yn cystadlu- rhai am fedal, eraill am y fraint o fod yn bresennol yn unig.
|