Flwyddyn wedi'r Gemau Olympaidd a phencampwriaeth bêl-droed Ewrop cyrhaeddodd Groeg gopa arall gwahanol. Hynny wrth i dîm pêl-rwyd y wlad ddod yn bencampwyr Ewrop trwy drechu'r Almaen 78 - 62.
Seren y gêm oedd Theodoros Papaloukas a sgoriodd 22 o bwyntiau.
Aeth y tîm ar y blaen o'r eiliad gyntaf a thrwy gydol y gêm yr oedd yn eglur mai hwy oedd y cryfaf o bell ffordd.
Er bod yna yn nhîm cenedlaethol yr Almaen dri sy'n chwarae i'r NBA, Dirk Nowitzki, Tony Parker a Mickael Pietrus, methu a wnaethno nhw a thorri calon y Groegiaid.
Paratoi'r ffordd Yr oedd hi'n 1987 pan gipiodd y Groegiaid y teitl ddiwethaf ond wrth i sêr fe Galis, Fasoulas, Christodoulou a Yannakis ddiflannu, syrthiodd y gêm i ebargofiant bron.
Fodd bynnag, roedd y rhain yn chwaraewyr a baratôdd y ffordd i'r llwyddiant Ewropeaidd a pheri i'r gêm i ddod yn un gyfarwydd i deuluoedd ledled y wlad.
Bu'r tîm yn ffodus dros ben i guro'r Ffrancwyr o un pwynt yn unig yn y gêm gynderfynol - er taw hwy oedd yn haeddu ennill, wedi chwarae'n llawer iawn gwell na'r Ffrancwyr o'r dechrau ond heb fod yn lwcus.
Fodd bynnag, nos Sul, Medi 25, dangosodd y tîm pa mor wirioneddol dda ydoedd gyda gallu'r chwaraewyr i chwarae fel tîm unedig yn wych ac yn dystiolaeth eu bod yn deilwng o'u medalau aur.
Daeth y fuddugoliaeth gerbron 19,000 o yn Belgrade gyda phob un yn edmygu'r ffordd y chwaraeodd y Groegiaid.
Teithiodd 7,000 o'r wlad yno i gefnogi'r tîm a chael eu gwefreiddio gyda chysondeb a brwdfrydedd y chwaraewyr ieuanc.
Yn y gêm dyngedfennol hon llwyddodd y chwaraewyr i gydbwyso amddiffyn ac ymosod.
Yr ail wlad Yn dilyn y llwyddiant hwn nid yw Groeg ond yr ail wlad - gyda'r Undeb Sofietaidd (gynt) - i gipio teitl Ewropeaidd mewn pêl-droed a phêl-rwyd r yr un pryd.
Yn sicr bu hyn yn rheswm dros rownd newydd o ddathliadau i'w cymharu â'r rhai a ddilynodd Ewro 2004.
Yr unig gwahaniaeth rhwng y noson hon a dathliadau 14 mis yn ôl, pan fu tîm pêl-droed Otto Rehhagel yn fuddugol ym Mhortiwgal, oedd yr enwau!
Pryd gynt y canwyd am Dellas, Christeas a Zagorakis, yn awr enawu Zisis, Papaloukas a'r hyfforddwr Yannakis sydd ar wefus pawb.
Ac y mae'r hyfforddwr sydd mor barod i gadw o'r golwg yn haeddu pob clod am ei waith. Y gŵr distaw hwn o Thessaloniki ydy'r Ewropead gyntaf i ennill medal aur fel chwaraewr ac fel hyfforddwr yn y sbort yma.
Wedi i'r medalau gael eu rhannu yn y stadiwm llifodd y cefnogwyr i strydoedd Belgrade a'u troi yn fôr o gân gyda phobl y ddinas yr un mor nwydwyllt a'r Groegiaid!
Yn wir, achosodd yr oruchafiaeth i Roegiaid drwy'r byd ddathlu yn y strydoedd.
Canu a thân gwyllt Yma, roeddent yn canu a chwifio'n urddasol y baneri glas a gwyn gyda'r tawelwch a fu yn ystod y gêm yn troi'n rhywbeth tebyg i gyrch rhyfel!
Chwalwyd awyr y nos â ffrwydradau tân gwyllt, sŵn cyrn a chorganu.
Yn Thessaloniki, ardal y Tŵr Gwyn oedd canolbwynt y dathliadau tan oriau mân y bore gyda phob tref mawr ledled y wlad yn ymddwyn yr un modd.
Gallwch ddychmygu'r croeso gafodd y bechgyn ar eu dychweliad gydag edmygwyr yn heidio i dalu teyrnged iddynt.
Hefyd, roedd uchel swyddogion a chriwiau teledu yr un mor awyddus i gyfarch pencampwyr newydd Ewrop.
Y dyn olaf o'r awyren - ac yn dal y troffi - oedd capten y tîm, Michalis Kakiouziz, a ddiolchodd i'r cefnogwyr gan ddweud y gobeithiai na fyddai'n rhaid iddynt sefyll am ddeunaw mlynedd arall cyn y byddai'r wlad yn ei ennill eto.
|