Gyda dyfodiad y gwanwyn mae'r Groegiaid yn paratoi i ddathlu'r Pascha sy'n cael ei hystyried yr wyl bwysicaf yn y wlad. Mae pwysigrwydd y Pasg Uniongred yn yr wythnos sy'n arwain at y digwyddiad yn hytrach na'r wyl ei hun
Addurno â blodau Caiff unrhyw un sy'n ymweld ag eglwys ar ôl canol dydd, ddydd Gwener y Groglith, gan ddisgwyl gweld gwasanaeth ei siomi!
Bydd dau wasanaeth maith, yr ail yn coffau y disgyniad o'r groes yr apocathilosi neu'r dadhoelio, eisoes wedi eu cynnal yn y bore a dim ond elor Crist wedi ei addurno â blodau epitaffios fydd ar ôl yn yr eglwys ar gyfer eu cario o gwmpas y plwyf ac, yn hwyrach yn y nos, o amgylch y pentref neu'r dref.
Yn wir, mae hon yn orymdaith sy'n creu argraff ar bawb a'i gwel.
Mae yna bob amser groeso i ymwelwyr fynychu'r gwasanaethau sy'n parhau am o leiaf deirawr.
Ond mae peryg inni anghofio fod llawer mwy o draddodiadau yn cael eu dilyn yn y pentrefi anghysbell.
Ar y Iau mae'r Groegwyr yn ail greu'r Croeshoeliad gyda ffurf Crist ar y groes yn cael ei godi yng nghanol yr eglwys.
Yn dilyn hyn daw merched â thorchau o flodau i'w hongian ar freichiau'r groes a'u gosod wrth ei throed. Bydd y ffyddlon yn cusanu traed Crist yn ogystal â cherflun o'r Forwyn Fair yn galaru a'i haddurno â blodau pêr eu arogl.
Fore'r Groglith - Megali Parascefi bydd gwasanaeth tebyg yn cyrraedd ei uchafbwynt pan fydd hoelion yn cael eu curo allan o dwylo Crist a'i gorff yn cael ei rwymo mewn lliain gwyn i'w gario i mewn i gysegr yr offeiriad. Bydd yntau'n dychwelyd gan ddwyn lliain trwm yn uchel ac mewn eglwysi gyda llofft fydd cawod o betalau rhosyn yn disgyn wrth i'r lliain fyned heibio. Yna, fe'i gosodir ar elor wedi ei addurno â blodau dan y groes gydag ond y goron ddrain a gwregys porffor arni. Y gynulleidfa'n cusanu Wrth fynd heibio bydd y gynulleidfa'n cusanu'r Efengyl a'r cerflun.
Yn yr hwyr, ar ôl gwasanaeth arall, bydd gorymdaith gyda'r elor epitaffios o amgylch y pentref a'r bobl yn cario canhwyllau o gwyr.
Diwrnod o ddisgwyl yw'r Sadwrn Sanctaidd gyda'r gwragedd yn gorffen pobi bara arbennig wedi eu haddurno â wyau cochion yn arwydd o waed Crist ac o fywyd newydd ar ôl yr Atgyfodiad. Paratoir cawl arbennig - magiritsa - o berfedd oen neu'r afr.Ar ddydd Gwener y Groglith, y bwyd traddodiadol ydy llysiau wedi eu berwi neu ffacbys a finegr gyda'r ffyddloniaid wedi ymwrthod â chig am y 50 niwrnod o'r Grawys, ac ar bob ddydd Mercher a Gwener, yn osgoi llaeth caws a iogwrt.
Erbyn yr Wythnos Sanctaidd felly, dim ond hepgor olew fydd raid gan ddefnyddio olew tahini a'r halfa melys yn lle'r olew arferol.
Erbyn hyn, bydd lladd wyn yn olygfa gyffredin a dynion yn prynu glo a chigwain newydd ar gyfer rhostio wyn cyfain.
Christos Anesti - Crist a Atgyfododd Bydd yr eglwysi yn orlawn ar gyfer gwasanaeth yr Atgyfodiad ar y nos Sadwrn gyda'r rhai a gyrhaeddodd yn hwyr y tu allan gyda'u canhwyllau. Tua 11.40 diffoddir goleuadau'r eglwys gyda'r offeiriad yn dangos fflam newydd y Pasg ar ffurf cannwyll driphlyg. O hon goleuir canhwyllau'r gynulleidfa nes bydd yr eglwys yn olau eto!
Mewn trefi a chanddynt borthladd fel Thessaloniki lle'r ydw i'n byw bydd y llongau yn ychwanegu at y swn trwy ganu eu cyrn. Bydd teuluoedd a ffrindiau yn cusanu ei gilydd ac yn cyfnewid cyfarchion a bydd hyd yn oed yr anghrefyddol yn cael eu cyffwrdd a'u cyffroi gan gynnwrf yr achlysur.
Fe fyddan nhw hefyd yn mwynhau'r swper traddodiadol tua un o'r gloch y bore bach gyda Magiritsa o berfedd yr oen, salad, caws, bara , gwin heb anghofio'r wyau. Bydd eraill yn sefyll yn yr eglwys er mwyn derbyn y Cymundeb Sanctaidd yn oriau mân y bore.
Cyfle i fynd i ffwrdd Bydd llawer o bobl yn manteisio ar y cyfle i ddychwelyd i'w pentrefi neu o leiaf ffoi i'r wlad - er y gellir dod o hyd i wasanaethau bythgofiadwy yn y dinasoedd mawrion hefyd.
Gyda dyfodiad Sul y Pasg gwelir teuluoedd yn y wlad yn rhostio wyn y tu allan y mwyafrif dros dwll mawr o farwor tanbaid gyda chymdogion sy'n digwydd mynd heibio yn blasu'r meseddes neu cocoretsi - afu , wyau coch, bara, gwin neu gwrw, heb anghofio y tafelli cochddu cyntaf o'r oen.
Bydd yr wyau coch yn cael eu malu mewn rhyw fath o gystadleuaeth gydag un yn erbyn y llall yn eu dal mewn dwrn caeedig a'r sawl sydd ag wy heb dorri yn fuddugol. Weithiau, os nad ydynt wedi eu berwi ddigon maen nhw'n torri'n rhy hawdd. Rhan hanfodol o'r gwledda yw miwsig uchel a dawns tra'n disgwyl yn amyneddgar am y cig blasus. Y diwrnod canlynol cynhelir gwasanaeth o gariad agapi yn yr eglwys, gyda'r offeiriad yn rhannu wyau cochion i'r gynulleidfa.
|