Tymor lliwgar ydy'r gwanwyn yma yng ngwlad Groeg gyda dathliadau a gwyliau lluosog yn ystod mis Mawrth.
Ar Fawrth 1 pan yw'r Cymry yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, yma mae'n draddodiad i'r mamau wneud breichledau a elwir yn Martis i'w plant.
Y gred yw, fod gwisgo'r Martis yn sicrhau na fydd haul y gwanwyn cynnar yn llosgi wynebau'r plant a bydd y mamau yn plethu llinyn coch a gwyn i'w plant eu gwisgo am eu harddyrnau.
Pe cyrhaeddai plentyn yr ysgol heb un, byddai athrawes y dosbarth yn gwneud un iddo.
Llosgi'r breichledau Symbolaidd yw'r lliwiau gyda'r coch yn arwydd o fochau cochion y plant a'r gwyn yn arwydd o'u gwedd.
Gwisgir y rhain gan y plant tan Basg yr Uniongred ac yn syth wedi gwasanaeth y cymun canol nos bydd y plant yn taflu'r breichledau ar goelcerthi.
Wedi pythefnos gyfan o ddathlu'r Apokries (Carnifal) daw y miri i ben gyda Llosgi Brenin y Carnifal, tân gwyllt a gorymdaith ysblennydd ar y ddydd Sul.
Eleni bu hyn ddydd Sul, Mawrth 13.
Yr enw ar ddydd Llun, Mawrth 14 yw Cathara Ddeftera (Dydd Llun Glân) sy'n arwyddo'n swyddogol ddechrau'r Saracosti (Y Deugain Dydd neu Y Grawys) a thraddodiadau'r Pasg.
Yn wahanol i weddill y Saracosti nid yw dydd galar yw'r Cathara Ddeftera ond un llawn miri a chwerthin gyda phawb yn llawn asbri.
Efallai fod agosrwydd Cathara Ddeftera i'r cyhydnos yn egluro'r ysbryd da!
Yn yr awyr iach Yn arwyddocaol mae Cathara Deftera yn cael ei ddathlu yn yr awyr iach - i helpu glanhau yr enaid.
Y gair am y rhialtwch yw Kwlwma.
Er bod y Cathara Ddeftera yn arwyddo cyfnod o ymprydio mae yna rhyw ysblander yn gysylltiedig â bywiorwydd anhepgor y Kwlwma gan ei bod yn arferiad i fynd allan i'r wlad a'r mynyddoedd i hedfan ceitiau.
Mae'r plant yn edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod hwn gan obeithio am ddigon o awel i hedfan eu barcutau a chael picnic yn yr awyr agored.
Y gred yw fod pechodau'r bobl yn codi i'r awyr yn sgil dathliadau'r Apocries gan lanhau eu heneidiau.
Mewn rhai ardaloedd mae cystadlaethau ceitiau ac yn Athen gwelir tua chan mil o farcutau yn yr awyr, o bob maint, ffurf a lliw.
Ffordd ragorol o dreulio'r dydd mewn difyrrwch ydyw Cathara Ddeftera, cyn i ddiwrnodau llwydaidd y Grawys ymledu dros y wlad.
Yn yr anialwch Gyda machlud haul noson Cathara Ddeftera mae deugain niwrnod y Saracosti yn dechrau gan ddodi terfyn ar ddathliadau'r Pasg.
Traddodiad crefyddol ydyw, yn deillio o gyfnod Crist yn yr anialwch.
Dyma ddechrau cyfnod o'r defodau Cristnogol llymaf gyda gweddïau arbennig ac o ymprydio.
Mae'r dydd yn nodi dechrau gobeithiol o buredigaeth ysbrydol, yn bennaf o bechodau ac o'r hunan foddhad a ragflaenodd yn ystod cyfeddach yr Apocries yn ogystal ag unrhyw ffynonellau pechod yn ystod dawnsiau ac aduniadau y carnifal.
Fel mae'r Cathara Ddeftera yn cyfleu, mae'n ddiwrnod pan fydd y pobl yn glanhau eu cyrff ar gyfer y Pasg.
Glanhau'r tŷ Mae hefyd yn adeg gwaredu'r tŷ o unrhyw fwydydd sydd ddim yn cydymffurfio ag ymprydio.
Yn yr hen amser byddai'r gwragedd yn glanhau eu llestri a'u padelli gyda dŵr berw wedi ei gymysgu â lludw er mwyn cael gwared o unrhyw lygredd o weddillion y cigoedd a braster oedd wedi aros yn dilyn coginio bras yr Apocries.
Ni fydd y bobl hynny sy'n cadw'n gaeth at ganllawiau eu crefydd yn bwyta unrhyw gigoedd - dim ond llaeth, ffowls, wyau a physgod.
Erbyn heddiw, mae llawer yn ystwytho'r rheolau gan osgoi cig ond ar ddyddiau Mercher a Gwener.
Ond bydd bron bawb yn ymprydio yn ystod Yr Wythnos Sanctaidd sef yr un arwain at y Pasg.
Ar Cathara Ddefftera mae'r bwydydd yn Nistisima sef yn perthyn i'r Grawys, a dim ond ar y diwrnod hwn ceir y traddodiad o wneud a bwyta bara heb furum, Lagana . Bara mawr gwastad ydy'r Lagana sy'n cael ei fwyta gyda Gariddes - corgimychiaid wedi eu coginio mewn sawl gwahanol ffordd; Calamari (Sgwid) Octopoddi (Octopws), Ffasoladda (cawl o bys arbennig), Olywydden, Taramosalata (wedi ei wneud o rawn pysgod), Dolmaddes (reis wedi ei goginio mewn dail gwinwydd); Chalfa (melysfwyd o hadau sesami wdi eu mathru) a llawer mwy.
Anodd credu mai dechrau cyfnod o ymprydio yw'r Cathara Ddeftera o weld y byrddau yn llawn bwydydd blasus!
Tebyg mai diwrnod o drawsnewid rhwng dau gyfnod cwbl wahanol i'w gilydd yw gydag elfennau o'r ddau gyfnod yn bresennol.
Rhifo'r dyddiau Yn yr hen amser pan nad oedd gan bobl galendrau rhifwyd dyddiau'r Saracosti mewn ffordd arbennig.
Byddent yn tynnu llun Cera-Saracosti ar ffurf menyw heb geg - arwydd o'r ymprydio - a'i dwylo wedi eu croesi yn barod i weddïo.
Byddai saith o goesau; un ar gyfer pob wythnos o'r Grawys.
Byddent yn hongian Cera-Saracosti ar y wal a phob Sul yn torri bant un o'i choesau gyda'r goes olaf yn mynd ar Y Dydd Sadwrn Sanctaidd (ar Atgyfodiad Crist), a'i dodi mewn ffigysen sych.
Dodwyd y ffigysen hon yng nghanol ffigys eraill cyn cael eu rhannu ymhlith y teulu yn y gred y bendithir y sawl a gai'r ffigysen hon â lwc dda.
Cyfarchiad pawb yn ystod y dyddiau hyn yw: Cali Saracosti - Grawys Da!
Ar ddiwedd y mis mae yna Ŵyl bwysig arall pan fydd yr holl wlad allan ar y strydoedd yn dilyn gorymdeithiau lliwgar i ddathlu rhyddid y wlad o gaethiwed y Twrciaid dros 400 flynyddoedd yn ôl.
Dydd mawr dathlu annibyniaeth y wlad.
|