Ganwyd y campau Olympaidd yn Olympia yn 776 CC a'u cynnal bob pedair mlynedd wedyn nes i'r Ymerawdwr Rhufeinig, Theodosius, eu diddymu yn 393 OC gan farnu bod y campau yn baganaidd.
Adfywiwyd hwy yn 1896-yn Athen gan farwn Ffrengig,, Pierre de Coubertin, a Groegwr o'r enw Dimitrios Vikelas.
Eleni felly, mae'r campau Olympaidd yn dychwelyd i'w gwlad draddodiadol am yr eildro yn yr oes fodern.
Allor Hera Cyneuwyd y fflam, a fydd yn llosgi yn y campau Olympaidd, rhwng adfeilion cysegredig Olympia ar Fawrth 25 gyda seremoni wrth allor Hera, duwies a addolwyd yn Olympia yn ystod y campau gwreiddiol 2,780 o flynyddoedd yn ôl.
Ail-gyneuwyd y fflam er mwyn cofleidio yr holl fyd yn ei goleuni.
Ar Orffennaf 9 dychwelodd y fflam i Wlad Groeg ar gyfer y cyfnewid terfynol sy'n parhau am 36 o ddiwrnodau gydag ymweliadau â 54 o siroedd y wlad gan gael ei gweld mewn 174 o leoedd, 32 o ynysoedd, a 24 o leoliadau.
Llawn teimlad Ni feddyliais erioed y byddwn yn dyst i'r fath olygfa a gallwch ddychmygu'r cyffro o glywed y byddai'r fflam mor agos at drothwy fy nrws gan ymweld â thref fechan Thermi.
Nid yn unig cefais gipolwg arni wrth iddi fynd heibio ond heb fod nepell o'r prif sgwâr mae cronfa ddŵr sy'n lle agored perffaith ar gyfer seremoni ei derbyn.
Ac yn wir yr oedd yn seremoni deimladwy iawn gan mai dyma symbol mwyaf adnabyddus y campau Olympaidd.
Roeddwn yn wirioneddol wedi fy syfrdanu! Yn ddileferydd am y tro cyntaf yn fy myw!
Wedi ei chynnau bu'r fflam ar daith wythnos drwy orynys Peloponnesos yn ne Groeg ac ynysoedd yr Argosaronikos cyn dychwelyd a llosgi tu allan i stadiwm marmor Panathinaiko lle bu'r campau modern cyntaf.
Oddi yma fe'i cludwyd ar draws y byd gan ymweld â 34 o ddinasoedd mewn 27 o wledydd.
Dyma'r tro cyntaf erioed i'r tors ymweld â'r pum cyfandir gyda chyfnbodau yn Awstralia, Asia, Yr Affrig, De America, Gogledd America ac yna Ewrop.
Yn arwyddocaol enwyd y jet a gludai'r fflam yn, Zeus, a chariwyd y fflam mewn llusern arbennig gyda thîm o gynorthwywr yn sicrhau na fyddai golau cysegredig y duw, Apollo, yn diffodd ar ddamwain.
Mewn dagrau Ymhlith y rhai fu'n cludo'r fflam mae sêr Hollywood fel Sylvestre Stallone a Tom Cruise.
O fyd y bêl cafodd Ronaldo, Pele a Zico ddal tors a grewyd o gromiwm a phren olewydd. Llethwyd Pele gymaint ag emosiwn ni allai ddal y dagrau'n ôl.
Hwn oedd cyfle trigolion Thermi i gymryd rhan mewn digwyddiad digyffelyb a byw y profiad o ddathlu'r ysbryd o undod, cyfeillgarwch a hedd y mae gan wlad Groeg yr anrhydedd o'i gynrychioli eleni.
Dim rhyfedd fod gwên ar wyneb pawb ac am eiliad fach, pob un wedi anghofio ei drafferthion ac yn hapus i fod yno yn rhan o'r llawenydd a thrysori'r olygfa fythgofiadwy ac ymfalchïo yn eu calonnau eu bod yn Roegiaid.
Curai pawb eu dwylo yn frwd a chwifio baneri gwyn a glesni'r nen gwlad Groeg wrth i'r fflam fynd heibio.
Roedd rhyw wefr o gyffro yn eu lleisiau wrth iddynt gymeradwyo yn eiddgar, a rhyw ymwybod hudol yn uno pawb â'i gilydd.
Yn bendant roedd yno naws na phrofais erioed o'r blaen gyda phob unigolyn, o'r hynaf i'r ieuengaf, yn gwybod yn union beth oedd gwir arwyddocâd y fflam.
Tynnu llun Cefais y fraint o gael tynnu fy llun gyda Maria Sotiridou 16 oed a oedd yn un o'r rhai fu'n dal y fflam.
Daw'r holl ymdrech i ben ar Awst 13 pan fydd y pair yn y Stadiwm Olympaidd yn Athen yn cael ei gynnaui ddynodi agoriad swyddogol Campau 2004.
Y diwrnod hwn bydd 10,500 o fabolgampwyr o 200 o wledydd yn dod at ei gilydd i fod a rhan yn nathliad chwaraeon mwyaf y ddynoliaeth.
 ninnau yn byw mewn dyddiau mor drallodus nid oes ond gobeithio y bydd y campau Olympaidd yn llwyddo nid yn unig i uno'r byd mewn chwaraeon ond i'w uno mewn heddwch hefyd.
|