Ar draws y Canoldir ar yr un dydd, amser maith yn ôl buont yn dathlu diwrnod y duw Persaidd Mithas, duw yr haul. Gan fod y gwahaniaeth rhwng goleuni a thywyllwch yn bwysig ym mis Rhagfyr, mae'r rhan fwyaf o draddodiadau ac arferion Groeg wedi eu gwreiddio ar y gwrthgyferbyniad rhwng y tywyllwch a golau o hyd.
Mewn sawl ardal, mae'r wyl yn cael ei rhagflaenu gan ymprydio ond erbyn Rhagfyr 7, Gwyl Sant Nicolas, mae'r tymor yn ei llawn hwyl. Mae gan pob pentref a thref ei nawddsant ei hun. Nicolas ydy nawddsant Thermi, lle rwyf i'n byw. Yn draddodiadol, dyma'r dydd pan fyddai teuluoedd yn cyfnewid anrhegion. Mae'r wyl yn parhau tan Ionawr 6, Dydd Gwyl Ystwyll. Ar noswyl y Nadolig ar flwyddyn newydd, bydd plant yn mynd o gwmpas i ganu carolau -: calanda ydy enw'r rhain. Wrth fynd o dy i dy defnyddiant drionglau ac efallai ddrwm bychan o. Derbyniant arian am eu hymdrechion ond yr arfer gynt oedd rhoi melysion iddyn nhw.
Sant Nicolas.Gan fod gwlad Groeg yn dibynnu cymaint ar y môr a chanddi gymaint o ynysoedd mae Nicolas yn sant pwysig iawn gan ei fod yn nawddsant y morwyr. Yn ôl traddodiad Groeg, mae ei ddillad wedi eu gwlychu â dwr hallt, a'i farf yn diferu a ddwr y môr, a'i wyneb yn llawn chwys yn dilyn ei ymdrechion yn erbyn y tonnau wrth geisio cyrraedd llongau sydd ar fin suddo. Nid oes yr un llong yn gadael porthladd yn y wlad, heb ddelw o Sant Nicolas.
Wedi deugain diwrnod o ymprydio, bydd pawb yn edrych ymlaen yn frwdfrydig at wledd y Nadolig. Lleddir moch, wyn a geifr a bydd y menywod yn paratoi pasteiod. Bydd y pryd ar y bwrdd wedi gwasanaeth boreol yr eglwys ar ddydd Nadolig. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y daeth y goeden Nadolig yn boblogaidd yma. Ym mhob ty, bron, prif symbol y tymor ydy cawg pren bas gyda sbrigyn o basil yn hongian oddi wrth wifren.
Cedwir ychydig o ddwr yn y cawg i gadw'r basil yn fyw. Unwaith y dydd bydd aelod o'r teulu - y fam fel rheol - yn rhoi croes a'r basil mewn dwr sanctaidd, ac yn eu defnyddio wedyn i wasgaru dwr ym mhob ystafell o'r ty.
Credir fod hyn yn cadw'r Calicandsari draw - creadur sy'n dod o ganol y ddaear a llithro i mewn i dai pobl drwyr simnai. O'r herwydd cedwir y tân ynghyn gydol y deuddeng niwrnod i'wcadw draw.
|