O'r holl gampau Olympaidd y Marathon ydy'r un sy'n sefyll allan oherwydd yr amgylchiadau hanesyddol, dewr, â'i creodd.
Daeth y Marathon i fodolaeth yn sgil camp y gwr a gyhoeddodd gyda'i eiriau olaf y newyddion o Athen am fuddugoliaeth y Groegwyr yn erbyn y Persiaid ym mrwydr Marathon, 490 Cyn Crist.
Ers adfywio ras 42 cilomedr 195 metr y Marathon ym 1896 daeth yn un o ddigwyddiadau mwyaf cystadleuol y Campau Olympaidd.
Groegwr o'r enw Spyros Louis yn rhedeg yr hyn a ddisgrifwyd wedi hynny fel Yr Hynt Wreiddiol o ddinas hynafol Marathon i Stadiwm Panathinaiko yn Athen enillodd y fedal aur yn y Campau Olympaidd modern cyntaf.
Corff ac enaid Daeth y ras yn her nid yn unig yng ngwlad Groeg ond yn rhyngwladol hefyd gyda'r Marathon yn ennill ei lle yng nghalonnau y rhai hynny sy'n ymhyrfrydu mewn ymdrech fabolgampaidd sy'n brawf ar gorff, enaid a meddwl cystadleuwyr.
Wel, mae'n debyg fod pawb â'u meddwl ar redeg y dyddiau hyn - fel minnau yma!
Newydd ddychwelyd i Brydain o'r Iseldiroedd mae fy merch Joanna, lle bu'n rhedeg Marathon at rhyw elusen neu'i gilydd - profiad fydd yn sefyll gyda hi am byth rwy'n siwr.
Un peth calonogol i'r cystadleuwyr oedd i gymaint o bobl ddod i sefyll ar hyd y ffyrdd i'w hannog a'u cymeradwyo a dywedodd Joanna iddi werthfawrogi hyn yn fawr.
Yn un lle gwelodd, wrth fynd heibio, ferch yn dal hysbyslen gyda rhyw air Iseldireg arno a'r enw Jo yn dilyn.
Ni allai ddeall sut y gwyddai'r ferch mai Jo oedd ei henw!!!!
Yna sylweddolodd nad arwydd iddi hi oedd o wedi'r cyfan ond er hynny fe fu'n fodd i'w hannog ymlaen ac fe wenodd yn ddiolchgar ar y ferch beth bynnag!!
Ymbilio arni i ddal ati Dywedodd ei bod yn llawn egni ar y cychwyn ond bron sefyll tua'r diwedd.
Lwc, meddai, fod rhedwr arall, o'i gweld wedi ymlâdd, wedi ymbilio arni i beidio â rhoi'r gorau i'w hymdrech.
Bu'r geiriau caredig yn ddigon o hwb i beri iddi ddal i redeg a chyda'i gwynt yn ei dwrn rhoddodd bopeth oedd ganddi i orffen y ras.
Wrth gyrraedd Stadiwm Olympaidd Amsterdam gwelai'r gwylwyr yn codi i'w traed a churo eu dwylo mewn edmygedd ohoni hi a'r gweddill yn rhedeg eu camau olaf a chroesi'r llinell derfyn.
Roedd y teimlad o foddhad yn annisgrifiadwy ac er bod golwg flinedig ar ei hwyneb roedd yn llawn balchder o lwyddo yn ei gorchest.
Ychydig yn ôl bu Marathon yn y brifddinas, Athen - rhyw brawf rhagarweiniol i'r Campau Olympaidd a fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf ym mhrifddinas gwlad Groeg.
Yr oedd miloedd o bob rhan o'r byd yn cymryd rhan ac ar wahân i'r difyrrwch bu'n gyfle i'r cyfranogwyr nid yn unig flasu croeso Groegaidd traddodiadol a mwynhau'r golygfeydd hudolus ond i ddod i adnabod y ddinas yn barod ar gyfer Campau Olympaidd 2004.
Gwr o'r enw Zebedayo Bayo o Tansania fu'n fuddugol a hynny mewn dwyawr 16:59 gyda gwyr o Kenya yn ail, trydydd, pedwerydd a phumed.
O blith y menywod, gwraig o'r Iseldiroedd, Nadja Wijenberg, enillodd y fedal aur gyda Groeges yn ail, merch o Kenya yn drydedd a dwy o wlad Groeg, eto, yn bedwerydd a phumed.
Y ras galetaf Yn ôl Bayo dyma'r ras galetaf iddo ei rhedeg erioed gan ei orfodi i gymryd wyth munud yn hwy na'i amser gorau.
Gan i'r thermomedr godi i rhyw 25C fe fu hyn yn rhwystr i'r cystadleuwyr yn ogystal â'r llwybr sy'n codi a disgyn yn enwedig tua'r diwedd, o'r safle hynafol ym Marathon (sy'n rhoi ei enw i'r ras) hyd at Stadiwm Marmor Panathinaikos, a adeiladwyd ar gyfer â Campau Olympaidd 1896.
Dim ond deuddyd cyn y ras y daeth Nadja Wijenberg i Athen gyda'r bwriad o gychwyn ar ymarfer called ar gyfer y Campau Olympaidd lle mae'n gobeithio cynrychioli'r Iseldiroedd yn y Marathon.
Feddyliodd o erioed, wrth ddod i wneud archwiliad o un o gyrsiau caletaf y byd, y byddai yn ennill y fedal aur!
|