Ychydig ddiwrnodau yn ôl fe dderbyniais 'Newyddion da, o lawenydd mawr'!
Wrth ddarllen rhestr y buddugwyr yn E-Steddfod 2004, sy'n cael ei chynnal dan nawdd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fe welais fy mod wedi ennill.
Er imi gymryd rhan yn y gystadleuaeth ysgrifennu haiku am Y Gwanwyn yn yr iaith Gymraeg, yn anffodus, ni fum yn ddigon ffodus i ennill.
Yr ail flwyddyn Gallwch ddychmygu pa mor orawenus oeddwn o weld imi gipio nid yn unig y wobr gyntaf, ond ddod yn gydradd ail a chipio'r drydedd hefyd am ,i>haiku Saesneg, Spring.
Dyma'r ail flwyddyn imi gystadlu, felly roeddwn dros fy mhen a'm clustiau pan welais y canlyniadau ar y We ond er mor hapus oeddwn i fe hoffwn fod wedi ennill yn yr adran Gymraeg, a minnau'n brwydro i gadw fy Nghymraeg yn fyw, wedi bod i ffwrdd o Gymru er 1974. Dyfal donc a dyr y garreg!
Credwch fi, nid brolio yr ydw i ond ceisio mynegi fy ngwir llawenydd gan nad wyf wedi ennill dim erioed o'r blaen ac eithrio trydedd wobr gyda fy nhocyn, ym Matineesinema Sadwrn Y Tif (Tivoli) pan oeddwn tua wyth oed gyda Cadbury's Selection Box yn wobr!!!!!
Mewn pwll nofio Cefais hwyl go iawn yn creu'r haikus, rhaid cyfaddef, yn enwedig gan i'r ysbrydoliaeth ddod tra'n arnofio ar wely gwynt yn fy mhwll yn ystod yr haf a minnau'n padlo am fy mywyd at fy llyfr nodiadau ar y lan pan fyddai'r awen yn cyrraedd.
!Da oedd gweld fod nifer o Gymry tramor eraill wedi cystadlu ac ennill hefyd a bod ganddynt hwythau ddiddordeb yn eu gwlad er eu bod, fel minnau, filltiroedd i ffwrdd.
Mewn ychydig o fisoedd, fydd y Gemau Olympaidd yn Athen a minnau'n barod am unrhyw beth ar ôl ennill rhywbeth!
Felly, beth wnâi - rhoi cynnig? Na gwell fydd dal ati i geisio cyflawni rhywbeth yn y Gymraeg!
Dim ond gobeithio y bydd 'na ddigon o destunau diddorol yn yr e-steddfod nesa!
|