Rhaid cyfaddef fod hwn yn gyfnod llawn traddodiadau gwahanol a diddorol. Ar ddydd Sul Rhagfyr 29 penderfynodd y gwr a minnau fynd am dro i'r ddinas er mwyn rhodio ar fin y môr a chael gwared â'r gormodedd bwyd a gawsom dros y Nadolig!
Roeddwn wedi anghofio'n lân, mai dyma ddiwrnod dathlu'r Momoieri neu Yr Hen Ddynion a'r Sgain ar strydoedd Thessaloniki.
Adfywiad o hen ddefod Roegaidd ydy hon, a ddathlwyd yn Ionawr gan yr Atheniaid.
Mae'r prif gymeriadau yn cael eu portreadu heddi yn union fel yr oeddynt gynt.
Saith cymeriad Heblaw'r hen ddynion, mae saith prif gymeriad ac, yn addas iawn, meddyg oedd yn portreadu iechyd a milwr yn cynrychioli amddiffyn.
Actor wedi ei wisgo fel hen fenyw oedd yn darlunio'r gorffennol a phriodferch y dyfodol.
Actor wedi ei wisgo fel ceffyl oedd yn cynrychioli datblygiad gydag arth yn symbol o gryfder.
Yn briodol iawn, gafr oedd bwyd.
Er mwyn gorchuddio'u hwynebau roedd Y Momoieri yn gwisgo mygydau. Wedi'r orymdaith ar hyd y prif strydoedd mae dawnsio, diod a bwyd yn y prif sgwâr a phawb yn ymuno â'r dawnsio gan greu miri mawr.
Plant yn canu wrth y drws Ar fore Rhagfyr 31 fe fydd plant bach yn dod ir drws i ganu Y Calanda i gyfeiliant trionglau.
Ar un adeg byddent yn cario afal, oren, llong o bapur, seren bapur neu hyd yn oed frigyn o goeden gwyros neu unrhyw bren caled y gellid dod o hyd iddo.
Byddent yn taro aelodaur teulu yn ysgafn ar eu cefn yn arwydd o'u dymuniad i aelodau'r teulu fod mor hoenus ac egniol a'r pren!
Ymatebai gwraig y ty drwy roi cacennau a gwahanol fathau o gnau iddyn nhw
Erbyn heddi arian sy'n cael ei roi.
Cofio Basil Sant Yn ogystal â bod yn ddydd cyntaf y flwyddyn mae Dydd Calan yn ddydd un o gymeriadau mwyaf yr Eglwys Uniongred Roegaidd, Sant Basil (Aghios Fassilis), esgob dysgedig a ysgrifennodd lythyrau lawer.
Pan oedd yn Esgob yn Cesaria yn Asia Leiaf galwodd ar y bobl i gyfrannu cymaint o anrhegion ag oedd ganddynt yn drethi er mwyn digoni'r awdurdodau Rhufeinig. A phan welodd y Rhaglaw Rhufeinig gymaint oedd perswad moesol Basil, dychwelodd y rhoddion i'r bobl er mawr lawenydd iddyn nhw.
Ond gan fod llawer o'r rhoddion yn ddarnau o aur ac yn fodrwyau hynod o debyg i'w gilydd yr oedd yn amhosib dweud pwy oedd piau beth. Felly, gofynnodd Basil i gogyddion wneud nifer fawr o gacennau (placoundia) ar y nos Sadwrn gyda gwrthrych ym mhob un a'u rhannu ymhlith y bobl.
Er mawr syndod i bawb cafodd pob un yr union beth a offrymodd yn ei gacen!
I gofio'r achlysur mae cacennau yn cael eu gwneud bob dydd Sant Basil gydag arian tu mewn iddynt.
Torri'r bara Yr ydym ni fel teulu yn dilyn y traddodiad yma, o dorri'r bara Fassilopita - Bara Fassilis - wedi ei enwi ar ôl y Sant. Bydd pob darn yn cynrychioli person neu beth.
Dechreuwn gyda phen y teulu ac wrth i fy ngwr dorrir darnau mae'n enwi y sawl sy'n cael y darn hwnnw.
Fel pen y teulu, mae'r darn cyntaf yn mynd iddo ef, a bydd yn galw allan ei enw: Yiorgos.
Fel gwraig y teulu fi sy'n cael yr ail ddarn, ac mae'n cyhoeddi fy enw innau, Lynda.
Yna, daw tro y plant; gyda thamaid i Joanna a thamaid i Andreas.
Pan oedd y teidiau yn fyw, nhw oedd yn cael eu henwi wedyn.
Wedi gorffen â'r teulu, modrybedd, ewythrod, cefndryd a chyfnitheroedd mae'r ty yn cael darn, ac yna'r swyddfa.
Y gred ydy bod yr un sy'n cael y darn arian yn cael lwc trwy gydol y flwyddyn.
Ci gwyn Ar ynys Carpathos ar Ddydd Calan, croesawir ci gwyn i'r ty gyda'r teulu yn ei fwydo â baclafa - cacen o fêl ac almon - gan gredu y bydd yntau yn rhoi cryfder o gorff ac enaid i'r teulu.
Eistedd ar garreg Yn Lasithi ar ynys Creta, bydd y dieithryn cyntaf i ymweld â thy rhywun yn mynd â charreg fawr gydag a chan eistedd arni yn y brif ystafell yn cyfarch aelodau'r teulu a bendithio eu ffowls, wyn a geifr, gan orffen trwy ddymuno geni bechgyn i'r teulu ac aur o'r un pwysau a'r garreg.
Procio'r tân Mewn pentref or enw Aposcepo, ger Castoria, gwahoddir plentyn lwcus i dai pobl i brocio'r tân a gwialen gan ddymuno plant gwryw i'r teulu ac wyn benyw!!
Maer arferion hyn braidd yn ddieithr i ni ond yn dangos pa mor agos oedd yr hen bobl at natur a chymaint oeddynt yn y'i ddibynnu ar eu hanifeiliaid a ffrwythlondeb y tir.
Gwyl y Goleuadau Ar Ionawr 5 mae'r plantos bach yn dod o amgylch i ganu a dymunon dda am y diwrnod canlynol, Gwyl y Goleuadau neu ddydd Gwyl Ystwyll.
Ar Ionawr 6 fe fuom yn dathlu Dydd Gwyl Ystwyll neu Ddydd Bendithio'r Dyfroedd gyda'r offeiriad yn y gwasanaeth yn taflu dwr sanctaidd dros y gynulleidaf ac yna yn taflu croes wedi ei bendithio i ddwr.
Mae hwn yn achlysur arbennig pan fydd nifer o Roegwyr ifainc yn herio'r dyfroedd oerllyd er mwyn dod o hyd i'r groes a fendithiwyd.
Am ei ddewrder, dywedir y bydd yn flwyddyn lewyrchus i'r llanc sy'n adennill y groes yn gyntaf.
Eleni fe aethom i bentref glan môr Michaniona i ddilyn y seremoni ac yn ffodus yr oedd yr haul yn disgleirio ond weithiau, pan fo gwynt y gorllewin yn chwythu, mae rhywun yn amau mai dwl yn hytrach na dewr yw'r bechgyn hyn!
Y Dynion Duon Ar Ionawr 7 ac 8 cynhelir dromenon nid nepell o Thessaloniki - seremoni grefyddol ar ffurf drama.
Gelwir yr arfer hwn yr Arapiddes - Y Dynion Du - oherwydd gwisg ddu y dynion, syn gwisgo côt hir, flewog, mwgwd o groen gafr syn creu argraff ar bawb, a thair cloch enfawr o gwmpas eu canol.
Mewn un llaw mae cleddyf hir ac yn y llall, fag fychan yn llawn lludw o aelwyd deudddeng niwrnod y Nadolig.
Maent yn taro pobl yn ysgafn yn y gobaith y daw hynny a lwc dda iddyn nhw a'r gymdeithas.
Daw yr orymdaith, i ben gyda chanu a dawnsio yn sgwâr y pentref tan oriau mân y bore.
|