91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ymarfer rygbi Rygbi'n gafael
Lynda Ganatsiou yn canfod fod mwy a mwy yng ngwlad Groeg eisiau cael eu dwylo ar y bêl hirgron!

Darllenais fod China yn chwilio am hyfforddwyr i ddatblygu rygbi yno. Yma yng ngwlad Groeg, fodd bynnag, mae gennym yr hyfforddwyr - chwaraewyr sy'n brin!

Ond, yn araf bach, mae nifer y rhai sydd â diddordeb yn codi. Ar y cychwyn roedd yna fwy o estroniaid na Groegwyr yn chwarae ond mae arwyddion fod y llif yn troi gyda mwy o Roegwyr am gydio yn y bêl hirgron!

Ychydig amser yn ôl cefais ben-blwydd go wahanol i'r cyffredin. Dechreuodd yr annisgwyl, wedi imi ffonio gŵr o'r enw Te yn Athen ar ôl gweld hysbyseb ganddo mewn papur wythnosol Saesneg yn gofyn am i unrhyw un â diddordeb mewn rygbi gysylltu ag ef.

Ef awgrymodd y dylwn gysylltu â rhywun o'r enw Patrick Sawres yn Thessaloniki.

Yr oedd Patrick wrth ei fodd clywed fod rhywun â diddordeb yn ei dîm er yn siomedig nad oeddwn yn llanc a allai ymuno â nhw!

Bechgyn SpartakosO Gaerfaddon y daw ef yn wreiddiol ac wedi chwarae rygbi i dîm y brifysgol yno pan yn fyfyriwr.

Ef, yn awr, ydy ysgrifennydd clwb Spartakos yma yng ngogledd Groeg ac yn gapten y tîm.

Cenhadwr i'r eglwys Efengylaidd ydyw yn ôl ei alwedigaeth.

Eu gweld yn ymarfer
Mae'r tîm yn ymarfer ar barc yn Thermi, lle rwy'n byw, bob nos Fercher o 7.00 tan 9.00 ac ar foreau Sadwrn o 10.00 tan 12.00. Cefais wahoddiad i fynd i'w gwylio y noson honno.

Pan gyrhaeddais yr oedd criw o lanciau yn gwneud eu ffordd tuag ataf.
"Lynda?" meddai un ohonyn nhw ac er imi gael fy nhemtio i ddweud, "Livingstone, I presume" y cyfan ddywedais oedd, "You must be Patrick"!

Yr oedd fel pe byddem yn adnabod ein gilydd heb hyd yn oed gael ein cyflwyno i'n gilydd!

Yr oedd y bechgyn eraill hefyd yn frwdfrydig iawn pan glywsant fy mod am ysgrifennu darn am y tîm a phawb yn awyddus i drosglwyddo pytiau o wybodaeth.

Ymhlith y bechgyn yr oedd gŵr byr o'r enw Charlie Bayliff yn wreiddiol o'r Alban ond wedi treulio dros ugain mlynedd yn Ne Affrica.
Pan ddywedais mai Lynda o Gymru oeddwn meddai: "Synnwn ddim taw Jones ydy chi felly."

Ac yr oedd wedi taro'r hoelen ar ei phen ac eglurais fy mod yn briod â Groegwr a'm cyfenw bellach yn Ganatsiou.

Ond dyn a ŵyr beth a glywodd o gan iddo fy nghyflwyno i'r tîm fel Lynda Gandhi!

Busnes addurno
Yr oedd croesdoriad diddorol yn y tîm. Dyn o'r enw Steffan Morris na chollodd ddim amser cyn ddweud taw Cymro oedd ei dad yn wreiddiol.

Roedd Steffan ei hun wedi ei godi yn Lloegr ac erbyn hyn wedi priodi Gwyddeles o Ddulyn, Karen, a chanddynt fab deg oed.

Daethant draw i wlad Groeg i roi cynnig ar weithio bum mlynedd yn ôl a chael blas ar y ffordd arall o fyw sydd yma.

Erbyn hyn maent wedi sefydlu busnes addurno adeiladau a moderneiddio hen lefydd.

Tîm merched
Yr oedd Karen yn ymarfer gyda'r chwaraewyr ac erbyn inni fod yn siarad am dipyn yr oedd wedi fy ngwahodd innau i ymuno â'r tîm! Ond yr oedd hynny cyn imi ddweud wrthi fy mod yn rhy hen!

Eglurodd ei bod hi yn ymarfer yn y gobaith o fedru codi tîm i fenywod ac er mai dim ond tair merch sydd â diddordeb ar hyn dywed ei bod yn hyderus y bydd digon i gael tîm cyflawn yn y dyfodol agos.

Wrth sgwrsio'n hwy dysgais i Steffan fod yn Ymladdwr Rhufeinig ar y teledu.



MulligansCyn ffarwelio a'u gadael i fynd ymlaen â'u hymarfer fe roddodd y ddau wahoddiad imi fynd i dafarn Wyddelig Mulligans Mill yn y dref.

Hwy fu'n gyfrifol am addurno'r lle a dyma fan cyfarfod y tîm am beint wedi ymarfer.

Gêm mor ddieithr
Er i glwb Spartakos, Thessaloniki, fod yn rhedeg yn swyddogol ers 2000 eglurodd Babis Demertzis, y llywydd, ei bod yn anodd denu bechgyn ifanc gan fod y gêm yn un mor ddieithr iddyn nhw.

Fodd bynnag, mae Undeb Rygbi Groeg yn gorff chwaraeon swyddogol ers Mawrth 2003.

Ar hyn o bryd tri o dimau sydd yma yng Ngroeg, yr Attica Springboks, Teirw Corinth, a Spartakos o Thessaloniki, a'r rheini'n chwarae'i gilydd yn rheolaidd a chystadlu yn erbyn timau o dramor sy'n ymweld â Groeg.

ChwaraewyrYn ogystal mae yna dîm profiadol dros 35 oed ar fin cofrestru.

Mae'r Adran Datblygiad Ieuenctid yn cynnal sesiynau dwyawr bob Sadwrn yn Athen ac yn trefnu seminarau i hyfforddwyr ysgolion preifat y brif ddinas yn gyson gyda'r bwriad o gyflwyno'r gêm i'w gweithgareddau ysgol.

Trefnir cystadlaethau saith bob ochr i ieuenctid ac oedolion. Yn Thessaloniki y bu'r rhain eleni.

Yn anffodus i dîm Athen, ni chaniatawyd cae porfa hyd yn hyn ac o'r herwydd ni allant chwarae gêm gywir yn ystod eu sesiynau ymarfer.

Mae gan dimau Thessaloniki a Chorinth gyfleusterau iawn fodd bynnag diolch i haelioni a chefnogaeth cynghorau lleol.

Mae cynlluniau ar y gweill, fodd bynnag, i gael lle parhaol yn Athen.

. Heb dorri calon
Cymerodd Spartakos ran mewn cystadleuaeth yn Bwlgaria ddechrau Mai ond oherwydd diffyg profiad aflwyddiannus fuo nhw ond diolch i anogaeth Charlie Bayliff dydyn nhw ddim wedi torri'u calon .Cael eu siomi wnaeth timau Groeg mewn twrneimant yma yn Thessaloniki hefyd ond hwarae teg iddynt, mae eu brwdfrydedd yn parhau ac yn dilyn cyhoeddusrwydd yn y papurau newydd ac ar deledu lleol mae'r bêl hirgron yn dechrau ennill tir!

Gêm ryngwladol gyntaf!
Yn dilyn y twrneimant yn Thessaloniki ddiwedd Mai cyhoeddwyd fod Groeg yn mynd i ymuno â'r deugain ac un o aelodau eraill Undeb Rygbi Ewrop yn yr hydref a brwydro am deitl y bencampwriaeth.

Y cwestiwn yw, pwy ddewisir i gynrychioli Groeg? Hon fydd y gêm ryngwladol gyntaf erioed i dîm cenedlaethol Groeg.

Cyhoeddwyd mai yn nhrydedd adran Cwpan y Cenhedloedd Ewropeaidd y byddwn yn cystadlu ymhlith gwledydd fel y Ffindir, Monaco a Slofacia gyda'r gêm agoriadol ar Hydref 22 yn Slofacia a thîm Slofacia yn ymweld ag Athen ar Dachwedd 5.

Bydd yr enillwyr yn wynebu enillydd y gemau rhwng y Ffindir a Monaco.

Y cam nesaf i Undeb Rygbi Groeg ydy dod o hyd i hyfforddwr i droi nifer o chwaraewyr o wahanol glybiau yn chwaraewyr cenedlaethol!

Yr ymgeisydd tebycaf ydi'r Sais, Kevin Green a fu'n chwarae i Bedford ond sy'n awr yn hyfforddi tîm Athen.

Pwy gaiff chwarae?
Ond nid yn unig bydd angen hyfforddwr - bydd yn rhaid penderfynu hefyd pwy fydd yn gymwys i chwarae.

Dan reolau'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol gall unrhyw un sydd wedi byw yn y y wlad am dair blynedd chwarae drosti - ond, yn anffodus, mae rheolau Groeg ychydig yn llymach.

Ond ni ellir dirnad cael tîm o ddim ond Groegiaid ac fe fyddai hynny'n annheg a'r tramorwyr sydd wedi gwneud cymaint i hyrwyddo'r gêm hyd yn hyn yn eu gwlad fabwysiedig. Os y byddant yn gymwys dan reolau'r Bwrdd Rhyngwladol byddant yn siŵr o gael eu hystyried debygwn i.

O wledydd eraill
Efallai y bydd yna symudiad tuag at gael chwaraewyr Groegaidd mewn gwledydd eraill yn ôl fel Nick Alamanos sy'n chwarae i Walsall, Lloegr.

Un arall ydy Dinos Alexopoulos - bwystfil o ddyn ac Adonis a fu yn ysgol Millfield ac yn chwarae i'r Harlequins yn Lloegr.

Yn anffodus, bu allan o'r gêm am rai blynyddoedd ond credir ei fod ar fin ymuno â thîm Richmond y tymor nesaf.

ChwaraewyrByddai'n wych pe gallai ei wlad, elwa o'i brofiad ar gychwyn ei hynt ym myd y bêl hirgron.

Ar y llaw arall, mae na nifer o Roegwyr mewn ysgolion a phrifysgolion ym Mhrydain ac mewn gwledydd fel Awstralia a De Affrica.

! Yn sicr mae yna deimlad fod pobl yn blino rhywfaint ar bêl-droed a chwaraeon eraill ac yn chwilio am ddiddordeb newydd.

Dyfal donc a dyr y garreg.
Pwy a ŵyr efallai ymhen rhyw ugain mlynedd y bydd Groeg yn ddigon da i guro'r Cymru !




cysylltiadau
Rygbi'n hudo'r Groegiaid

ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy