Mae'n anodd i ni sylweddoli fod y Pasg newydd gael ei ddathlu gan filoedd o bobl dros y byd. Yma, yng Ngwlad Groeg, mewn pum wythnos y byddwn ni yn dathlu'r Ŵyl. Dathliadau hollol wahanol fu gennym ni ddydd Gwener y Groglith.
Dydd Annibyniaeth oedd Mawrth 25, a ninnau'n coffau chwyldro 1812 pan ryddhawyd Groeg o ddwylo Twrci a fu'n llywodraethu am 400 o flynyddoedd. Roedd baneri yn chwifio o adeiladau cyhoeddus a thai.
Gorymdaith filwrol Yn Athen, dechreuwyd y dydd trwy danio magnelau o fryn Lycabbetus sy'n edrych dros ganol y ddinas. Bob blwyddyn bydd Arlywydd y wlad ac aelodau'r llywodraeth yn mynychu mawlgan y Te Deum yn yr eglwys gadeiriol cyn ymuno â gorymdaith filwrol enfawr sy'n gorffen gydag arddangosfa awyrennau.
A chan ei fod yn ddiwrnod hyfryd o ran tywydd roedd yn gyfle i bawb fynd allan i fwynhau.
Arwain y lluoedd Ar ynys Samos, lle mae Andreas fy mab yn gwasanaethu gyda'r fyddin ar hyn o bryd, bu gorymdaith ym mhrif ddinas yr ynys. Anrhydeddwyd Andreas trwy gael ei ddewis i arwain y lluoedd arbennig a'i fintai ei hun, Y Beretau Duon. Mae trigolion yr ynysoedd, yn enwedig Samos, yn gwerthfawrogi cefnogaeth y fyddin yn fwy gan eu bod o fewn cilomedr a hanner i lannau Twrci. Yn gyson mae awyrennau yn yr awyr rhwng y ddwy wlad. Ond diwrnod o ysblander fu Mawrth 25 a phawb yn falch o'u bechgyn.
Helyntion milwr Ond ni cheir y melys heb y chwerw a dydi bywyd milwr ddim fel hyn drwy'r amser!
Er bod munudau cofiadwy o odidowgrwydd rhaid i'r llanciau wynebu profion llym ar adegau.
Ychydig yn ôl cafodd Andreas brofiad brawychus gyda ffrwydron pan oedd mewn gofal o danc yn ymarfer ar y mynydd. Drwy ffawd ni fu damwain ac ni anafwyd neb ond yr oedd difrod y bu'n rhaid ei atgyweirio.
Mewn damwain Dro arall, cafodd Andreas fraw pan oedd yn teithio gyda gyrrwr arall un noson i nôl dau filwr ar gyfer eu dyletswydd - does dim hawl gan filwr i fod o'r gwersyll ar ei ben ei hun. Roeddent newydd ddod o amgylch tro mawr pan welsant gerbyd arall yn dod ar gyflymder yn syth tuag atynt yr ochr anghywir yr heol. Er mwyn osgoi damwain gwyrodd y milwr oedd yn gyrru y jîp yn ddisymwth i'r ochr arall.
Yn anffodus roedd newydd ddechrau glawio a'r heol yn llithrig ac aeth y jîp yn syth i mewn i olewydden, neidio oddi arni a throi 180 gradd cyn llithro ar ei gefn i lawr llechwedd gan lanio ar ei ochr ar yr heol islaw. Yn ffodus llwyddodd Andreas a'i gydymaith i ddringo allan heb anaf ac yn ffodus i osgoi syrthio i lawr clogwyn dros 30 troedfedd. Ond gwell fyddai peidio â meddwl am hynny!
A beth am y gyrrwr arall? Wel, roedd ef wedi mynd yn ei flaen heb sylweddoli iddo achosi damwain o gwbl!
Nid yw bywyd i'w weld yn deg ar adegau gan i'r crytiaid gael eu cosbi gydag ugain diwrnod o garchar. Ond ni olygai hynny eu rhoi dan glo - ond pan ddaw yn amser iddynt adael y fyddin bydd yn rhaid iddynt aros am dair wythnos yn ychwanegol.
|