Tra bo Cymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, dathlu gwahanol sydd yma yng Ngwlad Groeg gyda chyfnod yr Apocries neu'r Carnifal yn dechrau ar Fawrth 3 gan barhau tan Fawrth 14.
Ym mhob tref a phentref ceir gwahanol fathau o adloniant yn ymestyn o orchuddio'r wyneb â mwgwd traddodiadol i ganu, dawnsio, yfed gwin a phartïon yn y stryd.
Fe fydd yna hefyd orymdeithiau lliwgar a bywiog, bwytawyr tân a dynion yn cerdded ar stiltiau.
Gwisgoedd lliwgar Yn ddiamynedd ac yn ysu am i'r cyfnod gyrraedd, bu'r plant yn eu gwisgoedd prydferth ers dyddiau ac yn gyffredinol mae pawb mewn ysbryd da yn barod i ymuno â'r sbri.
Mae'r dathlu yn dechrau'n swyddogol hanner dydd, ddydd Iau.
Tsicnopempti ydy enw'r dydd yma (Dydd Iau Myglyd), gyda Groegiaid ledled y wlad mewn pob math o wisgoedd lliwgar a rhyfedd.
Fe fydd pawb allan ar y strydoedd lle gwelir tanau yn coginio'r Souvlaki (Swflaci) traddodiadol, a'r holl dre yn llawn o arogleuon hyfryd yn gwneud ichi deimlo'n llwglyd iawn.
Mae bron yn amhosib ymwrthod â'r y swflaci!
Dywedir fod y Groegwyr yn defnyddio tua 8,000 tunnell o gig y noson hon.
Fel ieir Y llynedd, aeth Andreas (y mab) a chriw o'i ffrindiau i dref Xanthi yng ngogledd ddwyrain y wlad sy'n enwog am ei gorymdeithiau.
Gwisgodd pob un ohonynt fel ieir a dyna beth oedd sbri gyda'r criw yn aros gyda theulu yr oedd un ohonynt yn ei adnabod.
Mae gwragedd Groeg yn gyffredinol yn hynod o garedig ac nid oedd gwraig y tŷ hwn yn eithriad yn paratoi gwelyau iddynt a brecwast y bore canlynol.
Y bore hwnnw, pan ddaeth y tad-cu draw i weld ei ferch dywedodd fod cyrff ym mhobman dros loriau ei dŷ - ond ni wyddai pwy oedd neb ohonynt!
Drewi o wyau Wedi dychwelyd dyna chi le wedyn! Rhaid oedd golchi'r wisg oedd yn drewi o wyau gan i'r bobl ifainc fod yn taflu wyau at yr Ieir a'r Ceiliogod!
Cawsom hwyl yn golchi'r â phibell ddŵr ond er gwaetha'r holl ddŵr a sebon ni chafwyd gwared â'r drewdod oddi ar y defnydd!
Bu'n rhaid chwistrellu aroglau hyfryd arno nes i'r gwynt cas ddiflannu'n gyfangwbl.
Gwisgais innau y wisg wedi iddi sychu, am sbri.
Ond rwy'n rhyw amau mai profi'r hen ddywediad oeddwn i; Henach, henach; Ffolach, ffolach!!
Un peth sy'n sicr, mae gennyf wisg yn barod at yr Apocries eleni - yn rhad ac am ddim!!
Gŵyl feddwol Credir mai tarddiad yr adloniant hwn yw gŵyl feddwol Dionysos - duw gwin a hwyl - a gwelir yr Apocries fel cyfle i'r bobl gael gwared â hualau cymdeithasol am ysbaid.
Ers degawdau bu'r bobl gyffredin yn canu caneuon yn ddiniwed heb sylweddoli eu hawgrymiadau rhywiol a'u bod yn gwawdio'r hen a'r offeiriaid sydd am atal pleserau serch!
Yn ogystal â hyn mae caneuon yr Apocries yn ymwneud â dathlu ailenedigaeth a ffrwythlondeb.
Cyrraedd ei anterth Cyrraedd y dathlu ei anterth ar y Dydd Llun Glân, pan fydd Groegiaid hen ac ieuanc yn tyrru i'r bryniau ar gyfer diwrnod cyntaf y Megali Saracosti - Y Deugain Dydd Mawr.
Dyma ddiwrnod cyntaf glanhau'r corff ar gyfer y Pasg gyda phawb yn bwyta'r Lagana (bara fflat) a Mezeddakia (gwahanol bethau bach fel olewydd, caws feta ac ati).
Bydd pawb yn gobeithio hefyd am digon o awel i hedfan tan yn hwyr yn y nos y barcutau traddodiadol i gyfeiliant rhai o offerynwyr gorau'r dref.
Cyfle gwych i'r rhai hynny ohonoch sydd wedi syrffedu ar fywyd bob dydd i ryddhau eich teimladau trwy wisgo mwgwd, mynnu cariad a bwrw i lannau Groeg am sbri!
|