Synfyfyrio Daeth digwyddiad annisgwyl, lluniau, a hyd yn oed ymddiddan â ffrindiau neu deulu sydd mor bell i ffwrdd ac atgofion a breuddwydion pêr i mi yn ddiweddar. Breuddwyd bron pob merch fach ydy naill ai bod yn seren ar y sgrîn fawr neu'n ddawnswraig bale a phan oeddwn innau yn saith neu wyth oed, fy mreuddwyd innau oedd bod yn enwog rhyw ddydd - yn seren yn Hollywood efallai! Ychydig a feddyliwn peth mor anodd oedd hynny a syniad mor feiddgar oedd e. Hawdd yw d'wedyd, "Dacw'r Wyddfa,"- Nid eir trosti ond yn araf. Yr adeg honno 'roedd mam druan lawer yn yr ysbyty a'm brawd a minnau yn sefyll gyda mam-gu a thad-cu, Waungron. Cyngerdd bob nos! Druan ohonyn hwy; a hwythau heb deledu cymerais arnaf fy hun i'w difyrru bob nos trwy roi cyngerddd iddynt! Gan nad oedd neb arall i gymryd rhan, fi oedd pawb a gymerai ran! Y cyflwynydd, yr unawdydd piano, yr unawdydd ffidl, yn gantores soprano a'r adroddwraig! Barod? Bant a ni felly. Seibiant - clywed y curo dwylo yr ochr arall i'r wal ac yna, fe fyddai'r drws yn agor; cymeradwyaeth, a'r cyflwyniad yn mynd yn ei flaen a minnau yn dod allan wedi taclu fel bachgen, mewn trowsus coesbyr ac yn adrodd darn o farddoniaith cyn rhuthro i'r ystafell nesa, newid ac ymddangos fel y cyflwynydd unwaith eto. Newid fy llais, i swnio fel dyn cyn ymddangos ar ôl y cyflwyniad fel cantores ifanc mewn ffrog bert a rhuban yn fy ngwallt, i ganu cân oeddwn newydd y'i dysgu yn yr ysgol. Cymeradwyo brwdfrydig Dyna braf oedd cael clywed y curo dwylo brwdfrydig a chael ymgrymu ar ddiwedd y gân a'r gynulleidfa yn gweiddi. - "Rhagor, rhagor, unwaith yn rhagor." Chwarae teg i mam-gu a thad-cu am ddygymod â mi trwy greu yr awyrgylch a gwneud i minnau deimlo yn arbennig. A minnau'n cael y fath ymateb roeddwn hanner ffordd i Hollywood yn barod! Byddai'n rhaid i mam-gu a dad-cu wrando ar y donc ar y piano o bellter y parlwr - gan na ellid symud yr offeryn i'r gegin lle cynhaliwyd y cyngherdd! A minnau'n gwneud y cleme - ystumiau - rhyfeddaf byddai mam-gu a dad-cu yn chwerthin lond eu boliau ac heb amheuaeth yn mwynhau eu hunain a rhaid bod yn onest, yr oeddwn innau yn cael "cic" allan o'r peth hefyd gan feddwl efallai fod dyfodol disglair o'm blaen.
Pinacl y noson ganlynol fyddai actio drama fechan yr oeddwn wedi ei sgrifennu. Dyna chi hwyl! Roeddwn yn siwr y byddai rhywun yn cydnabod y dalent yma!! Heddiw, rwy'n holi fy hun, sut yn y byd y gallai mam-gu a dad-cu ddygymod a'r holl ddwli? Ond dyna fe, dyma'r math o beth mae neiniau a theidiau yn y'i wneud! Wrth gwrs, ni wireddwyd y freuddwyd o gyrraedd Hollywood - ond dyna ni, ni all pawb fod yn enwog. Cyfle i berfformio Ond fe ddaeth cyfle i berfformio eto yn sgil ymweliad Hywel Gwynfryn a'i raglen Ar Dy Feic â gwlad Groeg y llynedd. Mae'r rhaglen honno wedi ei dangos erbyn hyn er nad wyf i wedi ei gweld eto ond bu ymateb y teulu a ffrindiau agos yn anghyffredin o garedig y diwrnodau wedyn gyda negeseuon yn syth dros y ffôn ac e-byst diri yn mynegi gwahanol farnau am y rhaglen a fy ymddangosiad cyhoeddus cyntaf. A waeth cyfaddef i'r sylwadau wneud imi deimlo'n reit dda ac ail-gynneu'r freuddwyd Hollywoodaidd! Gwelodd Joanna (y groten) y rhaglen yn Leeds ac Andreas (y mab) hi yn Abertawe. Mae ef bob amser yn hoffi tynnu coes a chyn y rhaglen ffoniodd i ddweud: "Beth amdani mam, wyt ti'n ymgeisydd am Oscar?" Cyd-ddigwyddiad oedd fod canlyniadau'r Oscars yn cael eu cyhoeddi yr un noson a bu rhagor o dynnu coes y diwrnod wedyn. "Wel, mam serch i ti fod ar y rhestr, ni lwyddaist. Ond dyna fe, roedd yna lawer o ganlyniadau annisgwyl eleni. Paid a becso, mwy o lwc y flwyddyn nesa! Tri chynnig i Gymro." Serch na chefais Oscar fe gefais fwynhad gweithio â chriw Ar Dy Feic a'r cyfle bythgofiadwy hwnnw. A dweud y gwir, a minnau'n berson sy'n hawdd ei phlesio fe fu profiadgystal â mynd i Hollywood i mi! Tybed nawr oes yna well siawns imi ddilyn yn ôl troed Kathryn Zeta Jones a hithau'n dod o "lawr yr hewl' o lle rwy'n dod yn wreiddiol! Ond na, sticio wnai at beth rwy'n wybod orau cadw ty, rhoi gwersi, ysgrifennu ambell i erthygl at Gymru'r Byd a chynllunio ambell i e-gerdyn. A'r cynnwrf bellach y tu ôl imi, rhaid disgyn o'r cymylau a dodi fy nhraed ar y ddaear a dod yn ôl i wynebu'r gwirionedd. Ond rwy'n gwbl barod croesawu'r criw yn ôl unrhyw dro yn y dyfodol - Hollywood neu beidio!
I brif ddalen Ar Dy Feic
|