gan Lynda Ganatsiou, Cymraes o Thessaloniki, Gwlad Groeg Roedd fy ymweliad â'm cartref yn ystod yr haf yn dymestl o deimladau - rhai yn bleserus ond eraill yn annymunol. Ymwelais â'r henwlad oherwydd bod fy mab yn graddio o Brifysgol Abertawe a manteisiais ar y cyfle i ymweld â phentref fy ngeni - Y Bont. Edrychwn ymlaen at gael gadael Seisnigrwydd Abertawe a theimlo'n gartrefol, bydded hynny am amser byr yn unig Ond siomedig iawn oedd gweld llawer o bobl ieuanc yr ardal heb syniad sut i siarad yr iaith ac, yn waeth na hynny, heb wneud dim ymdrech i'w dysgu. Wedi aros yn llonydd Gwelais "Y Bont " fel pe byddwn yn edrych ar ffilm gwyddoniaeth: wedi sefyll yn llonydd mewn amser tra bo'r byd oddi amgylch wedi symud ymlaen. Yr oedd yr un mor gysglyd heddiw a phan adewais dros bum mlynedd ar hugain yn ôl. Dim siw na miw o gwmpas ac fe'm syfrdanwyd gan brinder pobl ieuanc ble maen nhw i gyd? Dim ond oedolion oedd i'w gweld. A fum i'n darllen gormod o lyfrau Stephen King? O ddychwelyd fel hyn mae'n syndod pa bethau ydych chi'n sylwi arnynt! Colli enwau tai Tan hyn nid oeddwn erioed wedi meddwl peth mor braf yw cael enw ar eich ty neu gael eich cysylltu â'ch ty fel Lynda Jones Tair-Onnen yn fy achos i. Gomer Jones Bryn Morfa oedd tadcu. Dychmygwch fy siom o weld i'w berchnogion presennol ddifetha cymeriad 'ein ty ni' trwy ei ymestyn - a does dim enw bellach dim ond rhif ar heol fel Bryn Piod drws nesa - er, gyda cymaint o adeiladu tai newydd go brin fod pioden o fewn milltiroedd erbyn hyn. Da chi Gymry, peidiwch â mynd allan o'r arfer o roi enwau ar eich tai mai hynny sy'n ei gwneud yn eglur fod "teulu" yn byw yno a bod cartref rhwng y muriau. Hefyd, fe ddengys rhyw fath o etifeddiaeth o'r gorffennol a pha mor agos i natur oedd ein cyndadau. Enwau fel Murmur y Coed, Mynydd Gwyn, Awel Deg, Plas y Dderwen, Golwg yr Afon , Gorphwysfa, Arosfa, Bod Alaw. Yn Parga ar ochr orllewinol gwlad Groeg galwodd merch o Bontarddulais ei thy yno yn Hafod y Coed. Dinistrio darlun perffaith Ag ychydig amser gennyf ymwelais a'm hoff lecyn a'i ganfod wedi ei ddinistrio gan gynnydd. A minnau wedi bod bant o Gymru am 28 o flynyddoedd gwelaf nad manteision yn unig a ddaeth yn sgil cynnydd ond anfanteision diri hefyd, yn enwedig yn Ne Cymru a ffrwyth cynnydd bellach ydy tlodi a diweithdra. Ond nid yw hyn wedi lladd ysbryd y bobl.
Wrth edrych ar yr olygfa sylweddolais na ddaw ddoe byth yn ôl a daeth twlpyn i'm llwnc wrth syllu ar beth oedd unwaith yn baradwys i'r arlunydd a'm darlun perffaith innau wedi ei ddinistrio. Unwaith, ar y morfa llaith yma safai un o hynodion mwyaf hynafol Dyffryn Llwchwr, hen eglwys Llandeilo Tal-y-bont a wrthsafodd stormydd y canrifoedd yn symbol o hanes a gorffennol pell ond yn awr wedi diflannu am byth.
Mae hynafiaeth yr eglwys yn ddiamheuol gan iddi gael ei chysegru gan Sant Teilo yn y chweched ganrif. Yn un o'r llawysgrifau hynaf, Llyfr Llandaf (1160-1180) enwir y plwyf hwn bedair gwaith. Rwy'n cofio dwyster mynychu gwasanaethau misol yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst gan deimlo wrth droedio'r fynwent ein bod yn dilyn llwybrau'r pererinion gynt ar eu ffordd i Dyddewi. Yna, cofio'r oerni wrth fynd i mewn drwy'r cyntedd isel a naws arbennig yn cydio ynom.
Dyna'r seddau dyfnion â drysau mawr derw. Ni allwn byth ganolbwyntio ar y bregeth wrth feddwl am y gwahanglwyfus a fu'n dilyn y gwasanaeth o'r golwg mewn lle ar wahân i'r gynulleidfa y tu ôl i'r muriau ar ochr arall yr eglwys. Mae'n ardal a welodd lawer o golli gwaed. Bu'r Rhufeiniaid yn Leucarum (Casllwchwr) hyd at 300 O.C. Daeth y Gwyddelod, Llychlynwyr a Normaniaid. Ni allaf gredu ei bod wedi mynd ond codwyd rhywfaint ar fy nghalon o glywed am fwriad i'w hailadeiladu yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Twmpath o bridd Ond twmpath o bridd yn unig a welir y funud hon lle unwaith bu adeilad gwyngalchog ysblennydd, enghraifft o weithgarwch caled a diflino Oes y Saint. Erys ei ogoniant mwyach ond mewn darluniau lliw. Yma nid oes tawelwch i'r enaid bellach, ond bwrlwm y cerbydau yn brysio ar draws gwlad. "Yn y fro ddedwydd mae hen freuddwydion" Disgrifiad perffaith o'm hatgofion innau ond o leiaf mae gennyf i yr atgofion hyn - does gan ieuenctid y fro ddim.Yn nyddiau fy ieuenctid roedd yno fferm Castell Du, Pont yr Un ar Ddeg Bwa, lle y gwyliwn y trên llaeth am chwech o'r gloch. Banc y Rhyfel ac Afon Llwchwr yn troelli'n ddi-hid tuag at y môr. Bro heb staen na chraith rhwng mr a mynydd nes i'r teirw dur ddod i rwygo'r gwanwyn pêr o'r pridd a hollti'r olygfa gyda hyfrydwch ar y chwith i'r lôn goncrit a gwacter ar y dde a'r modurwyr heb wybod i ddalen werthfawr o hanes gael ei cholli. Ffermdy emynydd Ar noson lleuad llawn a'r llanw i mewn byddai'r eglwys yn nofio ar ddrych o dwr mor llyfn â phe byddai wedi ei nyddu o sidan pur. Gerllaw bu ffermdy Llandeilo Fach lle bu cartref yr emynydd Dafydd Williams ac yng nghyntedd yr eglwys y cyfansoddodd ei emyn enwocaf, "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau". Y munud hwnnw meddyliais y clywn gôr meibion "Y Bont" yn canu'r geiriau, mor fyw oedd fy nychymig! Gadewais yn chwithig a hiraethus gan wybod na fydd fy nheimladau dyfnaf am fy nghartref byth yn newid beth bynnag a ddigwydd yn y dyfodol.
|